- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Ymgynghoriadau > ymgynhoriad dyfodol radio
Dyfodol Trwyddedu a Reoleiddio Radio
Rhagair
Consultation published: 17|04|2007
Consultation closes: 29|06|2007
Rhagair
Mae radio, y cyfrwng darlledu hynaf, yn newid.
Mae nifer cyffredinol y gwrandawyr yn parhau mor uchel ag erioed ac mae gwrandawyr yn manteisio ar gynnydd cyflym yn y nifer a’r amrywiaeth o orsafoedd y gallant ddewis ohonynt, gan gynnwys gorsafoedd cymunedol newydd, gwasanaethau a gorsafoedd lleol a chenedlaethol ychwanegol o bedwar ban byd trwy gyfrwng y rhyngrwyd. Mae’r holl ddewis hwn ar gael ar draws lefel eang o blatfformau o AM ac FM traddodiadol, i radio digidol trwy gyfrwng DAB, teledu digidol a’r rhyngrwyd. Bydd technolegau newydd eraill i ddod.
I ddarlledwyr radio sefydledig daw’r ffrwydrad hwn o ddewis â sialensiau yn ei sgîl gyda chystadleuaeth gynyddol am wrandawyr a chyllid. Mae darlledwyr hefyd yn wynebu costau cynyddol o orfod buddsoddi mewn platfformau newydd a rhaid delio gyda chystadleuaeth gynyddol gan amrywiaeth ehangach fyth o gyfryngau. Mae’r holl newidiadau hyn yn creu pwysau sylweddol ar batrwm traddodiadol radio lleol, sydd wedi ymddangos o ganlyniad i bolisi cyhoeddus pwrpasol gan lywodraethau a rheolyddion olynol.
Mae’r sefyllfa hon yn golygu her i ddarlledwyr a rheoleiddwyr. Mae’r ffyrdd cyfarwydd o reoleiddio radio, a gynlluniwyd ar gyfer system radio analog lleol yn bennaf, wedi gwasanaethu gwrandawyr a’r diwydiant yn dda, ond fe allant fod yn aneffeithiol ac anghyfartal o gostus yn yr oes ddigidol.
Nod y ddogfen hon yw amlinellu dull o reoleiddio sy’n gallu cyflenwi amcanion cymdeithasol cytûn radio wrth i ddiwydiant radio iach wneud y newidiadau ar gyfer y byd digidol. Mae radio’n dal i chwarae rôl allweddol wrth gyflenwi amcanion cyhoeddus amrywiol - rôl a rennir rhwng y BBC, radio masnachol a’r sector radio cymunedol newydd - a dylai’r rheoleiddio rhoi’r pwyslais ar sicrhau bod yr amcanion cyhoeddus hynny’n cael eu cwrdd er budd y gwrandawyr fel dinasyddion a defnyddwyr.
Rydym eisoes wedi nodi ein hamcanion polisi cyhoeddus cyffredinol ar gyfer radio:
- i wella dewis, amrywiaeth a dyfeisgarwch ar gyfer defnyddwyr ar lefel y DU, cenedlaethol, rhanbarthol, lleol a chymunedol;
- i sicrhau buddiannau dinasyddion trwy ddarpariaeth radio sydd wedi ei gynllunio i gwrdd ag amcanion cyhoeddus, ac;
- i wneud hyn gyda chyn lleied o ymyrraeth â phosib yn y farchnad, yn gyson gyda chwrdd â’n hamcanion.
Er mwyn hwyluso mwy o ddewis ac amrywiaeth ar lefel y DU, a sicrhau bod radio lleol yn ffynnu mewn oes ddigidol, rydym eisoes wedi hysbysebu amlblecs DAB cenedlaethol ychwanegol, fydd yn darparu rhyw 10 gwasanaeth cenedlaethol newydd, ac rydym wedi cychwyn ar y broses o lenwi’r bylchau yn y ddarpariaeth radio digidol lleol. Ond fydd y camau hyn ddim yn ddigon i sicrhau bod y diwydiant yn aros yn gadarn. Mae angen trafodaeth nawr ar y ffordd orau i reoleiddio’r diwydiant wrth iddo ddygymod â’r newid i’r digidol.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi gweledigaeth gynhwysol ar gyfer rheoleiddio radio masnachol a chymunedol yn y dyfodol. Ar yr olwg gyntaf, o edrych arnynt yn unigol, efallai na fydd ei gynigion i’w gweld yn arwyddocaol ond gyda’i gilydd credwn eu bod yn creu’r fframwaith fydd yn caniatáu i radio aros yn gyfrwng cryf a bywiog yn yr unfed ganrif ar hugain. Gan fod yna gryn ansicrwydd yn dal i fod ynghylch ffurf y diwydiant yn y dyfodol, mae’r cynigion a nodir yma yn ceisio darparu’r hyblygrwydd i addasu i amgylchiadau sy’n newid.
Rydym wedi canolbwyntio ar dri phrif faes: rheoleiddio cynnwys a pherchnogaeth mewn radio masnachol; rheoleiddio radio cymunedol; a’r ymfudiad o blatfformau analog i ddigidol, gan greu’r posibilrwydd o ddefnyddio sbectrwm radio analog ar gyfer pethau eraill pan fydd yr amser yn addas.
Gyda radio masnachol mae’r mwyafrif o reoleiddio ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar orsafoedd analog lleol, ble mae fformat gorsafoedd a maint y cynnyrch lleol yn cael eu rheoleiddio yn fanylach na rhai gorsafoedd DAB. Does gan orsafoedd ar blatfformau eraill ddim fformatau wedi eu rheoleiddio o gwbl. Canlyniad y rheoleiddio hwn yw bod gan y gorsafoedd analog lleiaf fwy o oblygiadau rhaglennu na’u cymdogion mwy, ond llai o adnoddau i gyflawni’r goblygiadau hynny.
Tra bod y mwyafrif o wrando’n digwydd ar blatfformau analog, nid yw Ofcom yn bwriadu newid y sefyllfa hon, ond wrth i’r gyfran o wrandawyr ar blatfformau digidol gynyddu, bydd y dull presennol o reoleiddio radio analog yn dod yn fwy afreolaidd. Ar yr adeg hynny, rydym yn rhagweld symleiddiad sylweddol o faint o fanylion sydd eu hangen mewn fformatau, ynghyd â safoni’r anghenion ar gyfer defnydd lleol mewn rhaglennu, yn seiliedig ar faint yr orsaf. Bydd hyn yn sicrhau bod rhaglennu lleol yn cael ei gynnal ar yr amseroedd hynny o’r dydd mae gwrandawyr yn dweud eu bod yn ei werthfawrogi fwyaf, a helpu i sicrhau dilysrwydd y gorsafoedd sy’n darparu’r rhaglennu hynny trwy ganiatáu i ddarlledwyr rannu peth rhaglennu ar draws sawl gorsaf.
Bydd lluosogaeth darpariaeth gwasanaethau radio masnachol ochr yn ochr â’r BBC hefyd yn parhau i fod yn hollbwysig. Fodd bynnag, bydd angen ail edrych ar y rheolau perchnogaeth, sydd ar hyn o bryd yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd ar gyfer gorsafoedd analog a digidol ac sydd, o ganlyniad, yn rhy gymhleth. Credwn y gall cyfuno’r rheolau ar draws platfformau ar gyfer creu set diffiniedig o feysydd perchnogaeth gyrraedd y nod o luosogaeth gadarn, wrth gynnig gwell sicrwydd a hyblygrwydd i’r diwydiant ar gyfer y dyfodol. Barn Ofcom yw y dylai’r fath newid hefyd gael ei gysylltu gyda mwy o wrando digidol ac rydym yn cydnabod y byddai angen deddfwriaeth newydd. Felly byddai angen perswadio’r Llywodraeth o’r angen ar gyfer y fath newidiadau.
Mae radio cymunedol yn sector newydd ifanc sydd wedi cynyddu’n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf. Bellach mae 122 o orsafoedd newydd wedi eu trwyddedu ac mae nifer wedi dod ar yr awyr, gan gynnig amrywiaeth anghyffredin o wasanaethau. Mae mwy ar y ffordd.
Ond mae’r lefel o reoleiddio a orfodir ar y gorsafoedd bychain hyn yn uchel iawn. Mae’r meini prawf manwl sy’n rhaid eu hystyried er mwyn trwyddedu gorsaf, y rheolau perchnogaeth sy’n rhwystro perchnogaeth gyffredin o orsafoedd, rhwystrau cyllido all atal dilysrwydd a chyfnod cymharol fyr o 5-mlynedd i bob trwydded, oll yn rhoi pwysau ar sector fydd angen cefnogaeth os yw am fod yn graidd o radio dielw, lleol iawn ar draws y DU.
Mae’r ddogfen hon felly yn cynnig newidiadau wedi eu cynllunio i ganolbwyntio ar y materion rheoleiddio sydd yn fwyaf pwysig mewn radio cymunedol ac sydd wrth galon y ddeddfwriaeth bresennol: darpariaeth “budd cymdeithasol” (efallai bod y term “budd cymunedol” yn well) a statws dielw’r gorsafoedd.
Beth am y trosglwyddiad o radio analog i ddigidol? Yn ôl tueddiadau ar hyn o bryd, bydd 90% o holl wrando radio trwy gyfrwng platfformau digidol erbyn 2017. Mae’n hanfodol nad ydym yn rhuthro’r mater o ddiffodd analog, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn barod i fynd i’r afael â’r cwestiynau a godir gan ymfudo digidol yn y ffordd iawn ar yr amser iawn. Os a phan ddaw’r amser hwnnw, fe fydd angen adolygiad llawn a manwl o’r costau a buddiannau a ddaw yn ei sgil.
Er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd hwn mae rhai pethau sy’n rhaid i ni eu gwneud ar frys parthed y drefn drwyddedu bresennol. Dan y system bresennol, wrth i radio masnachol ddarfod, caiff y drwydded ei hail hysbysebu am gyfnod o hyd at 12 mlynedd, gyda’r posibilrwydd i rai o adnewyddu pellach yn dilyn hynny. Mae trwyddedau a ddelir ar hyn o bryd yn gorffen yn 2009 mewn proses barhaus fydd yn cymryd sawl blwyddyn i’w chwblhau, sydd yn golygu na fydd y DU yn gallu diffodd analog, hyd yn oed os penderfynir mai dyma’r llwybr iawn i’w ddilyn. Yn y ddogfen hon, rydym yn dadlau’r achos ar gyfer deddfwriaeth newydd fydd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol trwy ddiwygio’r broses trwyddedu radio masnachol.
Rydym yn cydnabod bod yr adroddiad hwn yn hir a manwl. Ond mae’r materion yn y fantol yn bwysig iawn i ddefnyddwyr a dinasyddion ac mae’r sialensiau sy’n wynebu’r diwydiant radio yn gymhleth. Mae’r cwestiynau hyn yn galw am archwiliad manwl a thrafodaeth egnïol os ydym am barhau i fwynhau sector radio bywiog a dyfeisgar yn y DU.
Ed Richards
Prif Weithredwr
Back to top