- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Ymgynghoriadau > Dyfodol Radio
Dyfodol Radio
Crynodeb Gweithredol
1.1 Mae radio yn newid. Trwy gydol ei hanes, mae wedi esblygu ac addasu i wynebu sialensau newydd, ac mae’r newid hwnnw yn digwydd heddiw yn gyflym. Mae gwaith Ofcom yn adlewyrchu’r newidiadau hyn, ac mae’r datganiad hwn yn rhan o’n hadolygiad parhaus o’r sector radio. Bydd angen i ni barhau â’n gwaith a byddwn eleni hefyd yn cynnwys cyfraniadau i’r Gweithgor Radio Digidol a’r Felin Drafod Cydgyfeiriant. Dylid edrych ar y casgliadau sy’n dilyn yng ngoleuni’r newid hwn, gan helpu i sicrhau poblogrwydd a llwyddiant parhaus radio er lles defnyddwyr a dinasyddion.
1.2 Ym mis Ebrill 2007 cyhoeddodd Ofcom ei ddogfen ymgynghori, Dyfodol Radio: dyfodol gwasanaethau FM ac AM a chyfliniad rheoliad analog a digidol
1.3 Roedd yr ymgynghoriad cychwynnol yn trafod pedwar prif faes:
- Rheoliad cynnwys gwasanaethau radio masnachol analog lleol;
- Rheolau perchnogaeth radio masnachol;
- Defnydd sbectrwm FM ac AM yn y dyfodol; a
- Fframwaith rheoleiddiol ar gyfer radio cymunedol.
1.4 Derbyniwyd dros 140 o ymatebion ac ym mis Tachwedd 2007 fe wnaethom gyhoeddi ein datganiad polisi, Dyfodol Radio: y cam nesaf. Yng ngoleuni’r ymatebion fe wnaethom adolygu ein cynigion mewn dau faes:
- Canllaw lleolrwydd ar gyfer radio masnachol analog (h.y. FM ac AM)
- Darlledu stereo a mono ar DAB
1.5 Roedd y rhain yn destun ymgynghoriad byr pellach lle y croesawyd sylwadau yn darparu tystiolaeth neu ddadleuon ychwanegol nad oeddent eisoes wedi’u cyflwyno mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyntaf.
1.6 Erbyn y dyddiad cau roeddem wedi derbyn 43 ymateb i’r ymgynghoriad pellach hwn. Roedd y rhan fwyaf yn cefnogi ymagwedd y datganiad polisi ar y cyfan er bod rhai meysydd yn parhau’n gynhennus.
Canllaw lleolrwydd ar gyfer radio masnachol
1.7 Roeddem yn cynnig canllaw diwygiedig i gynnwys y dylai pob gorsaf FM, yn gyffredinol, gynhyrchu isafswm o ddeg awr y dydd o raglennu wedi’u gwneud yn lleol yn ystod dyddiau’r wythnos (06.00 – 19.00), yn cynnwys brecwast a lleiafswm o 4 awr y dydd o raglennu wedi’u gwneud yn lleol ar benwythnosau yn ystod y dydd (06.00 – 19.00). Hefyd fe wnaethom ddweud y byddai gorsafoedd yn gallu gwneud cais am gydleoli a rhannu rhaglenni ar sail isranbarthol gyda cheisiadau gan orsafoedd gydag ardal boblogaeth o lai na 250,000 o oedolion (15+) yn debygol o gael eu hystyried yn fwy ffafriol na cheisiadau gan orsafoedd gydag ardal boblogaeth fwy.
1.8 Roeddem hefyd yn cynnig canllaw diwygiedig y dylai gorsafoedd AM gynhyrchu pedair awr y dydd o raglennu wedi’u gwneud yn lleol yn ystod y dydd ac y dylid cynhyrchu deg awr y dydd o leiaf o fewn y wlad lle mae’r orsaf wedi’i lleoli.
1.9 Nodwyd na fyddai disgwyl i’r un orsaf gynhyrchu mwy o raglennu wedi’u gwneud yn lleol nag ar hyn o bryd, ac yn olaf fe wnaethom ddatgan na fyddai’r un trwyddedai yn cael caniatâd i newid neu i symleiddio ei Fformat o fewn dwy flynedd i’w lansio.
1.10 Tra bod cefnogaeth gyffredinol i’r cynigion hyn, yn cynnwys cefnogaeth gan nifer o AS, roedd yr ymatebion yn canolbwyntio’n neilltuol ar dri maes: ein cynigion ynglŷn â lleiafswm rhaglennu wedi’i gwneud yn lleol y dylai gorsafoedd eu darparu; ein trothwy poblogaeth arfaethedig mewn perthynas â cheisiadau am gydleoli a rhannu rhaglenni a’n polisi arfaethedig i beidio â chaniatáu i orsaf wneud cais am newid Fformat o fewn ei dwy flynedd cyntaf ar yr awyr.
Swm y rhaglennu wedi’u gwneud yn lleol
1.11 Roedd ymatebwyr o’r diwydiant radio masnachol ar y cyfan yn ystyried na ddylid rheoleiddio’r swm o raglennu wedi’i gwneud yn lleol o gwbl, neu y dylid fod yn rhan o ymagwedd cydreoleiddiol. Ond, ychwanegodd yr ymatebwyr hyn, os oedd Ofcom yn credu bod angen rheoleiddio, dylid cyfyngu hyn i 7 awr yn ystod dyddiau’r wythnos ar gyfer gorsafoedd FM fel bod gan y gorsafoedd yr hyblygrwydd mwyaf. Yn groes i hynny, roedd rhai ymatebwyr unigol a grwpiau fel Yr Ymgyrch dros Ryddid y Wasg a Darlledu, NUJ ac Estuary Media yn teimlo bod y cynigion yn mynd yn rhy bell wrth dynnu gofynion cynnwys lleol.
1.12 Fe wnaethom ystyried yr ymatebion yn llawn. Ar raglennu wedi’u gwneud yn lleol roeddem yn meddwl, yn ymchwil Ofcom, bod mwyafrif yr ymatebwyr wedi mynd am y dewis oedd cyn agosed at y status quo â phosibl. Rydym yn cydnabod y dylai fod gan orsafoedd yr hyblygrwydd i gynnig sioe rwydwaith yn ystod y dydd ond byddai perygl wrth fynd ymhellach na hyn y byddai gorsafoedd yn dod yn wasanaethau cenedlaethol gyda rhaglenni disodli lleol.
Cydleoli a rhannu rhaglenni
1.13 Roedd ymatebwyr o’r diwydiant yn teimlo hefyd nad oedd y mwyafswm trothwy cyffredinol o 250,000 ar gyfer ardal boblogaeth, a cheisiadau ar gyfer cydleoli a rhannu rhaglenni gan orsafoedd gydag ardal boblogaeth fwy yn debygol o gael eu cymeradwyo yn unig mewn amgylchiadau eithriadol, yn adlewyrchu’r ffaith bod gorsafoedd canolig eu maint hefyd yn wynebu sialensau ariannol, a chynigiwyd y byddai uchafswm o 400,000 neu 500,000 o oedolion yn fwy priodol. Ond roedd ymatebwyr eraill yn meddwl bod polisi cyffredinol o ganiatáu gorsafoedd mwy i gydleoli a rhannu rhaglenni mewn yn peryglu bodolaeth rhaglennu lleol arbennig mewn ardaloedd llai lle roedd gwasanaethau lleol yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.
1.14 Ni allwn weld unrhyw reswm grymus i gynyddu’r trothwy ardal boblogaeth mewn perthynas â cheisiadau cydleoli a rhannu rhaglenni. Mae ffigurau a ddarparwyd gan GCap mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn awgrymu bod mwyafrif y gorsafoedd gydag ardal boblogaeth o rhwng 250,000 a 500,000 yn broffidiol. Ymhellach, credwn y byddai cynyddu’r trothwy i’r lefel hwn yn groes i ddisgwyliadau’r gwrandawyr, gan y byddai Ofcom yn anfodlon caniatáu i orsafoedd mewn marchnadoedd sylweddol fel Ayr, Abertawe, Plymouth, Ipswich ac Efrog leihau swm y rhaglenni wedi’u gwneud yn lleol y maent yn eu darparu am 4 awr y dydd yn unig.
Newidiadau fformat i orsafoedd newydd
1.15 Roedd ymatebwyr o’r diwydiant yn meddwl bod y polisi cyfredol lle nad yw gorsafoedd radio newydd eu lansio yn cael yn gyffredinol gwneud cais am newid eu Fformat o fewn eu dwy flynedd gyntaf ar yr awyr yn annheg i wasanaethau newydd yn gweithredu mewn marchnadoedd lle y byddai gwasanaethau wedi’u hen sefydlu yn gallu gofyn am newid o’r fath, a byddai ganddynt hefyd Fformat wedi’i symleiddio (yn unol â’r polisi a amlinellwyd yn Dyfodol Radio: y cam nesaf). Yn hytrach roeddent yn awgrymu, os oedd Ofcom yn dymuno atal newidiadau Fformat o fewn cyfnod penodol, yna dylai’r cyfnod hwn fod yn ddwy flynedd o’r amser y mae ymgeisydd llwyddiannus yn cyflwyno ei gais am drwydded yn hytrach na dwy flynedd ers lansio’r orsaf. O dderbyn bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cael dwy flynedd ar ôl derbyn trwydded i lansio eu gwasanaeth, byddai polisi o’r fath mewn gwirionedd yn caniatáu i orsafoedd newydd newid eu Fformat wrth gael eu lansio. Roedd ymatebwyr eraill yn cefnogi cynnig Ofcom; roeddent yn datgan y byddai newidiadau Fformat yn ystod dwy flynedd gyntaf gorsaf ar yr awyr yn tanseilio’r meini prawf a ddefnyddir i ddyfarnu trwyddedau a mynegwyd y farn na ddylai ymgeiswyr gael ‘ail gyfle’ i bob pwrpas.
1.16 Mae ein polisi newid Fformat cyfredol yn datgan, fel rheol gyffredinol ‘ni chaniateir unrhyw newidiadau Fformat yn ystod y ddwy flynedd ar ôl lansio gorsaf ac yn y cyfnod ar ôl hynny a hyd at bum mlynedd ar ôl y lansio, dim ond newidiadau nad ydynt yn newid cymeriad yr orsaf yn sylweddol a ganiateir.”
1.17 Rydym yn parhau o’r farn y byddai cael gwared o’r polisi cyffredinol o beidio â chaniatáu newidiadau Fformat o fewn dwy flynedd i lansio gorsaf yn tanseilio sail dyfarnu trwydded. Ond nodwn bod gan hyn yr effaith potensial o atal cydleoli (sydd yn cynrychioli newid Fformat) i orsafoedd ag ardal boblogaeth dan 250,000 , gan olygu cynnydd mewn costau (fel costau am eiddo) i’r gorsafoedd llai am eu dwy flynedd gyntaf cyn iddynt fod yn debygol o dderbyn ystyriaeth lawn i gydleoli.
Casgliad
1.18 Daw’r canllaw lleolrwydd diwygiedig, yn cynnwys y cynigion ynglŷn â lleiafswm o raglennu wedi’u gwneud yn lleol a argymhellir y dylai gorsafoedd eu cynhyrchu a’r trothwy poblogaeth yn berthynol i geisiadau am gydleoli a rhannu rhaglenni fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori, i rym ar unwaith.
1.19 Rydym wedi addasu ein polisi newid Fformat cyfredol ychydig bach[(-1-)]. Fel bod modd i unrhyw orsaf gyflwyno cais am gydleoli (h.y. yn cynnwys gorsafoedd o fewn eu dwy flynedd gyntaf ar yr awyr). Fel mater o bolisi mae’n debygol mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y cymeradwyir ceisiadau gan orsafoedd gydag ardal boblogaeth mwy na 250,000 o oedolion (15+).
1.20 I gyd-fynd â chyhoeddi’r datganiad hwn rydym yn ysgrifennu at bob trwyddedai ynglŷn â’r polisi o symleiddio Fformatau a amlinellwyd yn Dyfodol Radio: y cam nesaf a hefyd yn gwahodd ceisiadau am newidiadau Fformat yn unol â’r canllaw a amlinellir yn y ddogfen hon.
Darlledu stereo a mono ar DAB
1.21 Yn y ddogfen ymgynghori fe wnaethom gynnig y dylai nodweddion sain (e.e. stereo neu mono) gwasanaeth rhaglen sain digidol (h.y. gorsaf radio a ddarperir ar amlblecs DAB) gael eu hystyried fel agwedd hanfodol o gymeriad y gwasanaeth ac felly byddai gofynion am newidiadau i’r nodweddion hyn yn syrthio i’w rheoleiddio gan Ofcom o dan delerau adran 54(6A) a (6b) O Ddeddf Darlledu 1996. Roedd hwn yn newid i’n cynigion polisi blaenorol yn y maes hwn, y buom yn ymgynghori arno yn y ddogfen ymgynghori Dyfodol Radio wreiddiol, ac felly buom yn gofyn barn am y cynnig newydd.
1.22 Unwaith eto mynegodd rhai ymatebwyr y tu allan i’r diwydiant eu pryderon am unrhyw symudiadau gan weithredwyr amlblecs DAB i ostwng ansawdd sain ar DAB, a ddylai yn eu barn nhw fod o leiaf cystal â stereo FM. Yn y cyfamser roedd ymatebwyr o’r diwydiant radio masnachol yn parhau i wrthwynebu unrhyw reoliad darlledu stereo a mono ar DAB o gwbl, gan ystyried mai mater i ddarlledwyr yn unig y dylai hyn fod.
1.23 Mae Ofcom yn credu ei bod yn briodol ymyrryd yn y maes hwn er lles gwrandawyr ac yng ngoleuni dyletswydd Ofcom yn adran 3(2) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 i sicrhau argaeledd amrediad eang o wasanaethau radio o ansawdd uchel ledled y DU yn apelio at amrywiol ddiddordebau ac at ddant amrywiol gynulleidfaoedd.
1.24 Gall fod sawl rheswm pam fod gweithredwr amlblecs yn gofyn am newid yn nodweddion sain gwasanaeth rhaglen unigol (boed y newid o stereo i mono neu o mono i stereo) ac mae Ofcom yn llwyr werthfawrogi y dylai gweithredwyr amlblecs gael yr hyblygrwydd i amrywio lled band dros gyfnodau cyfyngedig i adlewyrchu blaenoriaethau rhaglennu tymor byr. Nid oedd ein polisi arfaethedig wedi’i lunio i gyfyngu ar newidiadau o’r fath.
1.25 Yn hytrach diben ein polisi yw bod yn ôl-stop i sicrhau nad yw gweithredwyr amlblecs yn ceisio lleihau yn annerbyniol amrediad ac amrywiaeth y gwasanaethau y maent yn eu darlledu trwy newid nodweddion sain gwasanaeth radio er mwyn dyrannu gofod sydd wedi’i ryddhau i wasanaethau na fyddent, yn ein barn ni, er lles gorau gwrandawyr. Enghreifftiau o wasanaethau o’r fath fyddai y rhai wedi’u hanelu at grŵp defnyddwyr caeëdig (h.y. dim ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol) a lle na fyddai Ofcom yn barnu y byddai hyn er lles cyffredinol y cyhoedd.
Casgliad
1.26 Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a’r ymatebion ar y mater hwn i ymgynghoriad Dyfodol Radio Ebrill 2007, rydym yn parhau o’r farn bod ymyrraeth rheoleiddiol yn y maes hwn yn briodol mewn rhai amgylchiadau. Byddwn ar unwaith yn ystyried ceisiadau i newid nodweddion sain gwasanaeth rhaglenni sain digidol yn unol â’r meini prawf statudol yn adrannau 54(6A) a (6b) o Ddeddf Darlledu 1996. I’r gorsafoedd hynny sydd yn bwriadu newid o stereo i mono yn rheolaidd, byddwn yn cytuno o flaen llaw ar yr egwyddorion cyffredinol o pryd y byddai newidiadau o’r fath yn briodol.
1.27 Fel mater o bolisi cyffredinol dim ond mewn achosion lle mae’r gofod sydd wedi’i ryddhau gan y newid mewn nodweddion sain i’w ddyrannu i wasanaethau na fyddent yn ein barn ni er lles gorau dinasyddion a defnyddwyr, y mae Ofcom yn debygol o wrthod cais am newid mewn nodweddion sain. Enghraifft o’r fath yw lle mae amlblecs yn defnyddio ei ofod llawn ar gyfer gwasanaethau radio stereo yn bwriadu lleihau y gwasanaethau radio hynny i mono er mwyn dyrannu y gofod data a ganiateir o 30% i ddarparu gwasanaeth grŵp cae ë dig. Credwn y byddai symudiad o’r fath ar y cyfan (mewn perthynas â thrwydded radio cenedlaethol) yn lleihau yn annerbyniol gallu’r gwasanaethau rhaglenni a ddarperir dan y drwydded honno i apelio i amrywiol ddiddordebau a chwaeth, neu byddai yn gyffredinol (mewn perthynas â thrwydded radio lleol) yn culhau yn annerbyniol amrediad y rhaglenni sydd ar gael trwy gyfrwng gwasanaethau rhaglenni sain digidol yn yr ardal.
1.28 Yn wyneb y pryderon a fynegwyd gan rai rhan ddeiliaid bydd Ofcom yn adolygu’r polisi hwen ar ôl 12 mis.
1.- Paragraffau 2.38 – 2.46, datganiad Radio – Paratoi ar gyfer y Dyfodol ( Cam 2), Ofcom, 15 Chwefror 2006:http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/radioreviewp2/statement
'Mae'r fersiwn printiedig llawn ar gael islaw'
-
Dyfodol Radio
[pdf]
Lleolrwydd ar radio masnachol analog a darlledu stereo a mono ar DAB
Back to top