- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Ymgynghoriadau > Teledu Cyfranogol
Teledu Cyfranogol: amddiffyn gwylwyr a defnyddwyr, a chadw hysbysebu ar wahân i olygyddol
Papur ymgyngori yn edrych ar sut y dylid rheoleiddio Teledu Cyfranogol
Consultation published: 24|07|2007
Consultation closes: 17|10|2007
Crynodeb
Amcanion yr ymgynghoriad hwn
1.1 Mae gan deledu’r DU draddodiad hen sefydledig o gyfranogiad gan gynulleidfaoedd yn y cartref. Mae gwylwyr yn mwynhau cymryd rhan mewn rhaglenni a chael y cyfle i ennill cystadleuaeth, dylanwadu ar ganlyniad rhaglen neu fel arall, cyfrannu at y rhaglen. Yn gynyddol mae cyfranogiad cynulleidfa yn cynnwys gwasanaethau teleffoni cyfradd premiwm (‘PRS’). Mae hyn yn codi dau bwnc gwahanol a phwysig:
- Amddiffyn gwylwyr a defnyddwyr ar draws pob math o gynnwys teledu sydd yn annog gwylwyr i gymryd rhan (‘Teledu Cyfranogol’ neu ‘TC’). Mae hyn o arwyddocâd neilltuol yng ngoleuni’r nifer o fethiannau cydymffurfiant a golygyddol difrifol mewn TC sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, yn fwyaf nodedig mewn rhaglennu prif ffrwd a ddarlledir gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus;
- Sicrhau bod hysbysebu yn cael ei gadw ar wahân i gynnwys rhaglennu (‘golygyddol’) yn unol â deddfwriaeth darlledu Ewropeaidd a rheoliad DU. Mae hwn yn fater neilltuol mewn rhai mathau o raglenni, blociau o raglenni ac yn wir, sianeli cyfan (a gyfeirir atynt yn y papur ymgynghori hwn fel ‘TC arbennig’) yn hytrach nag mewn rhaglennu prif ffrwd.
1.2 Mae’n hanfodol felly ystyried sut y dylid rheoleiddio TC orau, gyda golwg ar ddarganfod y cydbwysedd cywir rhwng amddiffyn gwylwyr ac amddiffyn defnyddwyr, sicrhau cysondeb gyda’r fframwaith cyfreithiol a pharchu hawliau darlledwyr i ryddid mynegiant.
Amddiffyn gwylwyr a defnyddwyr
1.3 Mae digwyddiadau diweddar wedi codi pryderon dwys am integriti rhaglenni sydd yn defnyddio PRS. Mae ymddiriedaeth gwylwyr yn y rhaglenni hyn wedi’i niweidio. Felly, yn gynharach eleni, comisiynodd Ofcom ymchwiliad (‘yr Ymchwiliad’) dan arweiniad aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom, Richard Ayre, oedd â’r dasg o wneud argymhellion ar y gweithredu oedd ei angen i adfer hyder ac ymddiriedaeth yn y defnydd o PRS gan ddarlledwyr teledu. Mae’r Ymchwiliad bellach wedi’i gwblhau ac mae wedi gwneud cyfres o argymhellion i Ofcom gyda’r bwriad o sicrhau bod cynulleidfaoedd, yn cynnwys y rhai sydd yn dewis cyfranogi, wedi’u hamddiffyn yn ddigonol. Mae fersiwn gyhoeddedig o adroddiad yr Ymchwiliad ar gael yn http://www.ofcom.org.uk/tv/ifi/prsinquiry/ayrereport/
1.4 Argymhelliad allweddol yr Ymchwiliad oedd y dylai darlledwyr fod yn uniongyrchol gyfrifol , o dan eu trwyddedau darlledu, am gydymffurfiant PRS trwy’r holl gadwyn cyflenwi. Mae’r papur ymgynghori TC hwn yn cymryd yr argymhelliad hwn ymlaen, ac yn cynnig amrywiad trwydded drafft a fyddai’n gosod rhwymedigaethau trwydded newydd ar gyfer darlledwyr.
1.5 Mae’r Ymchwiliad hefyd yn argymell ei bod yn ofynnol i ddarlledwyr o dan y trwyddedau darlledu, i gynnal archwiliad trydydd parti annibynnol. Mae Ofcom yn cytuno bod rhyw fath o ddilysiad trydydd parti annibynnol yn hanfodol. Mae’r papur ymgynghori hwn felly yn ystyried y dewis o fanyleb archwilio argymhellol a dewisiadau posibl eraill yn cynnwys dilysiad annibynnol, ac mae’n gofyn barn rhanddeiliaid. Tra bod yr Ymchwiliad yn canolbwyntio ar deledu, mae Ofcom ac ICSTIS(-1-), y rheoleiddiwr ar gyfer y diwydiant PRS, ar hyn o bryd yn ymchwilio i nifer o achosion yn cynnwys PRS ar radio ac mae’n credu y dylid amddiffyn cynulleidfaoedd radio hefyd yn erbyn methiannau yn cynnwys PRS. Mae Ofcom felly yn cynnig y dylai’r amrywiad trwydded a nodir yn y ddogfen hon fod yn berthnasol hefyd i deledu a radio.
1.6 Dylid nodi yma bod ICSTIS wedi ymgynghori yn ddiweddar ar drefn caniatâd blaenorol ar gyfer PRS a ddefnyddir mewn rhaglenni teledu a radio. Mae Ofcom ac ICSTIS wedi cytuno, yng ngoleuni ymgynghoriad Ofcom ar TC, y byddai’n rhy gynnar i ICSTIS ffurfio unrhyw gasgliadau am ei ymgynghoriad diweddar. Ymhellach mae Ofcom ac ICSTIS wedi cytuno i asesu'r ymatebion i ICSTIS yng ngoleuni ymatebion ymgynghoriad TC ac i gydweithio i gyflwyno fframwaith rheoleiddiol clir ac effeithiol sydd yn darparu eglurder a sicrwydd i bob rhanddeiliad.
Gwahanu hysbysebu o’r golygyddol
1.7 Egwyddor sylfaenol deddfwriaeth darlledu Ewropeaidd yw bod rhaid cadw hysbysebu a golygyddol ar wahân (‘yr egwyddor gwahanu’)(-2-). Ond, yn aml mae TC arbennig – a nodweddir ac a reoleiddir yn bennaf fel golygyddol – fel pe bai yn cynnwys nodweddion hysbysebu; er enghraifft galwadau cyson i weithredu, arddangos rhifau PRS yn amlwg a hyrwyddo gwasanaethau sydd yn amlwg heb gysylltiad â chynnwys golygyddol. Mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â sut y dylai cynnwys o’r fath gael ei reoleiddio yn briodol: er enghraifft, a ddylai barhau wedi’i gategoreiddio fel golygyddol ac yn destun Côd Darlledu Ofcom, sydd yn gosod safonau ar gyfer rhaglenni neu a ddylai yn lle hynny gael ei gategoreiddio fel hysbysebu ac yn destun y rheoliad perthnasol, yn enwedig Côd Safonau Hysbysebu Teledu BCAP (‘Côd Hysbysebu BCAP’)?
1.8 Mae’r papur ymgynghori yn nodi pedwar dewis, yn amrywio o gynnal y status quo i ailddosbarthu cynnwys TC arbennig fel telesiopa, ffurf ar hysbysebu. Mae Ofcom yn agored ynglŷn â pha un o’r dewisiadau hyn yw’r mwyaf priodol ac mae felly yn chwilio am gynrychioliadau ar y cyfan ohonynt. Ond, yn amodol i’r cynrychioliadau hynny ac ystyriaeth bellach o’r holl faterion a nodir yn y papur ymgynghori hwn, barn gyfredol Ofcom yw mai Dewis 2 (golygyddol o hyd ond yn amodol i reolau newydd tynnach i sicrhau gwahanu priodol) allai ar y cyfan fod yr un mwyaf priodol. Ar ôl dweud hynny, dylai rhanddeiliaid nodi hefyd bod gweithgarwch rheoleiddiol yn y maes hwn ar lefel Ewropeaidd a fydd, yn annibynnol o ymgynghoriad Ofcom, yn edrych a yw teledu cwis (ac o bosibl ffurfiau eraill o TC arbennig) mewn gwirionedd yn delesiopa neu yn olygyddol.
Cyflwyniad
Datblygiadau mewn Teledu Cyfranogol
2.1 Yn yr ymgynghoriad hwn mae Ofcom yn cyfeirio at gynnwys sydd yn annog gwylwyr i gymryd rhan, i amrywiol raddau, ac fel rheol am dâl, yn y cynnwys hwnnw fel ‘Teledu Cyfranogol’(’TC’). Daw’r ymgynghoriad hwn â dau fater ar wahân ynghyd ynglŷn â rheoliad TC:
- amddiffyn gwylwyr a defnyddwyr; a
- sicrhau bod hysbysebu yn cael ei gadw ar wahân i gynnwys golygyddol.
2.2 Mae sianeli daearol wedi bod yn defnyddio teleffoni cyfradd premiwm am tua ugain mlynedd, mewn gwirionedd ers cyflwyno mecanweithiau codi cyfradd premiwm. Am sawl blwyddyn, roedd defnydd o’r fath wedi’i gyfyngu i gystadlaethau ffonio’i mewn ar gyfer gwylwyr, yn nodweddiadol ffurfiau fel rhaglennu chwaraeon a chylchgrawn, yn cynnwys teledu brecwast. Roedd y cystadlaethau gwylwyr hyn yn elfen o raglennu (yn hytrach na gwasanaethau yn eu hawl eu hunain) gan barhau traddodiad maith o rafflau a chystadlaethau a gynigir gan sianeli gyda’r bwriad o annog cyfranogiad a theyrngarwch gwylwyr.
2.3 Ond gyda dyfodiad teledu aml sianeli yn gynnar yn yr 1990au., dechreuodd cystadlaethau cyfradd premiwm a deunyddiau eraill cyfradd premiwm, fel pleidleisio gwylwyr, ddod yn fwy cyffredin mewn rhaglennu. Ers hynny. Mae’r cynnydd yn y gallu sydd ar gael i sianeli newydd o ganlyniad i deledu digidol ynghyd â phryderon am refeniw yn gostwng o hysbysebu sbot traddodiadol wedi cynyddu ymdrechion darlledwyr i gynhyrchu incwm mewn marchnad sydd yn gynyddol gystadleuol ac wedi’i yrru gan ddatblygiad modelau refeniw newydd. Mae mecanweithiau cyfradd premiwm wedi bod yn amlwg ymysg y rhain.
2.4 Tra bod gwasanaethau TC ar hyn o bryd yn tueddu i ddibynnu ar deleffoni cyfradd premiwm gall fod mecanweithiau taliad eraill, e.e. trwy gerdyn credyd, ac mae’n bosibl y gall modelau eraill ymddangos yn y dyfodol.
2.5 Mae TC yn amrywio o raglennu prif ffrwd fel sioeau realiti (e.e Big Brother, The Farm), sioeau gemau (e.e Who Wants to be a Millionaire?, Deal or No Deal) a rhaglenni cylchgrawn (e.e This Morning, Richard & Judy) i gynnwys mwy arbenigol yn canolbwyntio ar genre arbennig. Bellach mae rhaglenni cyfan, blociau o raglenni ac mewn gwirionedd sianeli wedi’u neilltuo ar gyfer genres sydd yn canolbwyntio – o ran y cynnwys ei hun a chyllido’r cynnwys hwnnw – ar y defnydd o wasanaethau cyfradd premiwm, er enghraifft, sgyrsiau oedolion gyda chyflwynwyr benywaidd (‘Teledu sgwrsio oedolion’), cwisiau (‘teledu cwis’) a darllediadau seicig (‘teledu seicig’). Yn yr ymgynghoriad hwn cyfeiriwn at y math hwn o TC fel ‘TC arbennig’
Cefndir i’r ymgynghoriad
2.6 Wrth ystyried sut y dylid rheoleiddio TC, canolbwyntiodd Ofcom i ddechrau ar TC arbennig, yn hytrach nag ar gynnwys prif ffrwd gydag elfen o PRS. Egwyddor hanfodol deddfwriaeth darlledu Ewropeaidd yw bod rhaid cadw hysbysebu a golygyddol ar wahân (yr egwyddor gwahanu’)(-3-). Yn 2006 roedd Ofcom yn bryderus bod rhai mathau o TC arbennig (yn enwedig teledu cwis, teledu sgyrsiau oedolion a theledu seicig) yn dod yn gynyddol ‘fasnachol’ eu golwg. Roeddent fel pe baent yn cynnwys nodweddion o fath hysbysebu, er enghraifft galwadau cyson i weithredu, arddangos rhifau PRS yn amlwg a hyrwyddo gwasanaethau nad oeddent yn amlwg yn cyfrannu at gynnwys golygyddol. Ond, roedd y gwasanaethau hyn yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom fel golygyddol. Ym mis Rhagfyr 2006, cyhoeddodd Ofcom Bapur Materion cyn ymgynghori(-4-), oedd yn hysbysu rhanddeiliaid a’r cyhoedd ehangach am bryderon Ofcom ynglŷn â’r sialensau i’r egwyddor gwahanu oedd yn cael eu cyflwyno gan TC arbennig a gofynnodd am farn a gwybodaeth gefndir i helpu i roi canolbwynt i’w feddwl cynnar.
2.7 Ar wahân i’r cwestiynau hyn dan yr egwyddor gwahanu (a ystyrir yn fanwl yn nes ymlaen yn y papur ymgynghori hwn(-5-)), mae’r defnydd o PRS mewn rhaglennu wedi creu pryderon difrifol ymysg gwylwyr ac yn ehangach. Ym mis Ionawr 2007 cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ei adroddiad ar y sector teledu cwis oedd yn amlygu ei bryderon am degwch a thryloywder gan argymell y dylid cael un rheoleiddiwr, i gymryd yr arweiniad, yn ei farn - Ofcom(-6-). Cynhyrchodd Ofcom ac ICSTIS, y rheoleiddiwr ar gyfer y diwydiant gwasanaethau cyfradd premiwm, ymateb ar y cyd ym mis Mawrth(-7-). Mae Ofcom ac ICSTIS eisoes wedi rhoi rheoliad helaeth yn ei le sydd yn mynd i’r afael â nifer o’r pryderon hyn am deledu cwis.
2.8 Yna yn gynnar yn 2007, caeth nifer o ddigwyddiadau i’r amlwg oedd yn awgrymu methiannau difrifol (yn cynnwys camarwain gwylwyr) mewn teledu prif ffrwd yn ogystal ag mewn teledu cwis. Roedd integriti darlledwyr yn cael ei amau. Yn ychwanegol at ymchwilio i achosion unigol, ym mis Mawrth 2007 gofynnodd Ofcom i Richard Ayre, aelod anweithredol o Fwrdd Cynnwys Ofcom, i arwain ymchwiliad (‘yr Ymchwiliad’) ac argymell gweithrediadau angenrheidiol i adfer hyder ac ymddiriedaeth yn y defnydd o PRS gan ddarlledwyr teledu. Mae’r papur ymgynghori hwn nawr yn gwneud cynigion ar gyfer datblygu argymhelliad allweddol yr Ymchwiliad, ac mae hefyd yn trafod camau eraill y mae Ofcom wedi eu cymryd i sicrhau bod gwylwyr yn cael eu hamddiffyn(-8-).
Cyfraniadau i’r papur ymgynghori
Ymchwiliad i PRS mewn rhaglenni
2.9 Mae Adran 4 o’r papur hwn yn ystyried yr angen am well amddiffyniad i ddefnyddwyr lle mae gwylwyr a gwrandawyr yn cymryd rhan mewn cynnwys teledu a radio. Argymhelliad allweddol yr Ymchwiliad oedd y dylai darlledwyr fod â chyfrifoldeb uniongyrchol dros y defnydd o PRS yn eu gwasanaethau ac y dylai fod ganddynt rwymedigaethau priodol yn ysgrifenedig yn eu trwyddedau darlledu i’r perwyl hwn. Mae Bwrdd Ofcom wedi cymeradwyo hyn yn ffurfiol fel cynnig ar gyfer ymgynghori. Mae eisiau barn felly yn benodol ar y cynnig hwn ac ar ffurf yr amrywiad trwydded drafft i weithredu cynnig o’r fath. Cyhoeddwyd fersiwn adolygedig o adroddiad yr Ymchwiliad ar 18 Gorffennaf 2007 ac mae ar gael yn http://www.ofcom.org.uk/tv/ifi/prsinquiry/ayrereport/
Papur Materion Cyn Ymgynghori
2.10 Derbyniwyd tua 25 o ymatebion i’r Papur Materion gan amrediad o randdeiliaid. Bu’r rhain yn hynod o ddefnyddiol. Mae pob ymateb nad yw’n gyfrinachol ar gael ar wefan Ofcom yn http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/participation/responses/.
Llythyrau cais am wybodaeth
2.11 Yn ychwanegol at y cwestiynau cyffredinol a godwyd yn y Papur Materion, ym mis Ionawr 2007 ysgrifennwyd yn ffurfiol at ddarparwyr TC arbennig yn gofyn am wybodaeth benodol (yn gyfrinachol) am eu busnesau e.e. strwythur corfforaethol, manylion refeniw, perthynas gyda darparwyr gwasanaeth cyfradd premiwm. Derbyniwyd gwybodaeth ddefnyddiol iawn a fu yn neilltuol o berthnasol i’r Asesiad Effaith yn Atodiad 7.
Disgrifiad marchnad
2.12 Yn gynnar yn 2007 comisiynwyd ymgynghoriaeth annibynnol, Mediatique, i roi disgrifiad i ni o’r sector TC arbennig (yn nhermau chwaraewyr allweddol, maint a gwerth y farchnad, datblygiadau tebygol etc) a hefyd darparu data ariannol a data arall i’n helpu gyda’r Asesiad Effaith. Mae adroddiad Meditique (Atodiad 8) ar gael yn http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/participationtv/marketoverview.pdf
Ymchwil cynulleidfa
2.13 Comisiynodd Ofcom ymchwil gan Essential, asiantaeth ymchwil annibynnol i: fesur treiddiad gwylwyr o, a galwyr i, wahanol genre TC arbennig ac i lunio proffil o’r gwylwyr; mesur agweddau tuag at wahanol genre TC arbennig; a deall lle mae gwylwyr yn gosod gwahanol raglenni a sianeli TC arbennig yn y sbectrwm ehangach o gynnwys golygyddol a hysbysebu. Mae adroddiad annibynnol Essential (Atodiad 9) wedi’i gyhoeddi yn http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/participationtv/research
Dadansoddiad cynnwys
2.14 Comisiynodd Ofcom y Grŵp Ymchwil Cyfathrebiadau (‘GYC’) asiantaeth ymchwil annibynnol, i gynnal darn o ddadansoddiad cynnwys i ddadansoddi sampl o allbwn er mwyn helpu Ofcom i ddeall nodweddion allweddol y genre TC arbennig o deledu cwis, teledu seicig a theledu sgyrsiau oedolion. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys dadansoddiad o raddau cynnwys hyrwyddo, yn cynnwys ‘galwadau i weithredu’ a wneir gan gyflwynwyr ac arddangosfa o rifau ffôn cyfradd premiwm. Cyhoeddir adroddiad annibynnol GYC (Atodiad 10) yn http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/participationtv/contentanalysis/
2.15 Mae’r holl gyfraniadau uchod wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth baratoi’r papur ymgynghori hwn a’r dewisiadau rheoleiddiol sy’n cael eu cynnig
Troednodion
1.- Pwyllgor Annibynnol ar gyfer Arolygu Safonau Gwasanaethau Gwybodaeth Ffôn, i’w ail enwi yn ‘PhonePayPlus’
2.- Gweler Adran 3 amdrafodaeth bellach ar y cefndir rheoleiddiol. Yng ngoleuni ei ddyletswyddau statudol mewn perthynas â gosod safonau mewn darlledu, mae’n ofynnol hefyd yn ôl Côd Darlledu Ofcom bod y gwahanu yn berthnasol hefyd i radio
3.- Gweler Adran 3 am drafodaeth bellach ar y cefndir rheoleiddiol
4.- Ar gael yn http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/participation/participation.pdf
6.- Ar gael yn http://www.publications.parliament.uk/pa/cm200607/cmselect/cmcumeds/72/7202.htm
7.- Ar gael yn http://www.publications.parliament.uk/pa/cm200607/cmselect/cmcumeds/428/428.pdf
Back to top