Ofcom yng Nghymru


Mae'r tîm yn Ofcom Cymru yn cynrychioli Ofcom yng Nghymru a Chymru o fewn Ofcom – yn rheoli cysylltiadau a chyfathrebiadau gyda'r cyhoedd ac ystod eang o randdeiliaid y diwydiant, yn cynnwys gwleidyddion, darlledwyr a'r cyfryngau.

Mae'r tîm yn ymdrin â holl agweddau cylch gwaith Ofcom ac yn cynnig mewnbwn a chyngor am faterion sy'n ymwneud â Chymru i dimoedd polisi a phrosiect ar draws y sefydliad. Mae gan Gymru gynrychiolaeth ar Fwrdd Cynnwys Ofcom a'i Phwyllgor Cynghori ei hunan.

Drwy weithgareddau ymgynghori dwys, amrywiaeth o ddigwyddiadau a chysylltiadau gwaith cryf gyda rhanddeiliaid, mae'r tîm ar flaen y gad yn ei ddealltwriaeth o anghenion y diwydiant, defnyddwyr a dinasyddion yng Nghymru.

Cysylltwch â ni

2 Pentir Caspian 
Ffordd Caspian
Caerdydd
CF10 4DQ

Tel: 029 2046 7217

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. I gysylltu â'r llinell gymorth Gymraeg ffoniwch 0300 123 2023.

E-bost: cymru@ofcom.org.uk