Yma yn y DU mae cwsmeriaid yn elwa o rai o’r prisiau ffôn isaf yn y byd. Mewn gwirionedd, oherwydd cystadleuaeth, technoleg newydd a rheoleiddiad, mae prisiau ar gyfartaledd wedi gostwng o tua 60% dros y ddegawd ddiwethaf.
Am y rhesymau hyn ac eraill, o 1 Awst 2006, bydd Ofcom yn rhoi terfyn ar reoliadau ffurfiol ar gost rhentu llinellau ffôn a galwadau gan BT. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gwmnïau ffôn, yn cynnwys BT, osod eu prisiau manwerthu eu hunain i ddefnyddwyr.
Yn naturiol, byddwn yn sicrhau bod mesurau diogelwch pwysig yn eu lle yn cynnwys rhai ar gyfer grwpiau bregus. Ond yn y dyfodol chi ac nid y rheoleiddiwr fydd yn penderfynu a ydych yn meddwl fod cwmni ffôn yn werth da ai peidio. Yn yr un modd ag yr ydych yn prynu teledu neu gyfrifiadur er enghraifft, dylech ddewis yr union fargen gywir i chi. Yna gwnewch yn siŵr ei fod yn darparu'r hyn yr ydych ei eisiau, am y pris cywir.
Felly edrychwch yn ofalus ar yr holl wahanol ddewisiadau. Cymrwch eich amser i ddarllen y print mân.
Eich dewis chi ydy hyn. Efallai y byddwch yn cael eich synnu.
Y Cwestiynau a Ofynnir Amlaf | Gwybodaeth Bellach | It's your call
Eich Galwad Chi