phone Eich Galwad Chi

Gwybodaeth Bellach

Tudalen Gartref | Y Cwestiynau a Ofynnir Amlaf


Mae’r farchnad yn llawn cynigion gwych i ddiwallu anghenion pobl. Dros y misoedd nesaf bydd nifer o gwmnïau yn hysbysebu eu gwasanaethau ffôn felly chwiliwch am beth sydd ar gael.

Fel y rheoleiddiwr annibynnol ni all Ofcom ddarparu cyngor ar ba wasanaeth sydd orau i chi. Ond mae nifer o wahanol ffyrdd o gael gwybodaeth ddefnyddiol am ba gwmni a pha becyn fyddai fwyaf addas.

Os ydych yn meddwl am newid cwmni ffôn – neu os ydych yn meddwl y dylech fod ar becyn gwahanol gyda’ch cwmni cyfredol – efallai yr hoffech feddwl am siarad gyda’ch cyflenwr cyfredol i ddechrau.

Mae barn ac adborth cwsmeriaid i’w cael hefyd mewn cylchgronau technoleg defnyddwyr a thrwy chwilio ar y rhyngrwyd. Ond, fel gydag unrhyw beth a brynwch, peidiwch â derbyn hysbyseb cwmni ffôn ar ei olwg – a chyn newid neu arwyddo unrhyw beth, darllenwch y print mân.

Gweithiwch allan pa fath o alwadau ffôn yr ydych yn eu gwneud amlaf. Er enghraifft, a oes rhifau neilltuol ar gyfer ffrindiau a theulu yr ydych yn eu defnyddio yn gyson ac am gyfnodau hir? Ydych chi’n ffonio dramor yn aml – ac os felly, pa wledydd? Ydych chi’n ffonio ffonau symudol yn aml? Beth am alwadau i 0845, 0870 neu rifau graddfa premiwm (09)? Mae rhai cwmnïau ffôn yn llawer rhatach ar gyfer rhai mathau o alwadau nag eraill.

Yna gofynnwch i’ch hunan am y mathau o wasanaethau y gallwch eu cael i lawr y llinell ffôn. Er enghraifft, band eang. Bydd nifer o gwmnïau yn gwerthu pecyn band eang a ffôn cartref cyfun i chi allai fod yn rhatach na phrynu dau wasanaeth ar wahân gan ddau gwmni gwahanol.

A beth am deledu digidol? Mae rhai cwmnïau yn cynnig teledu digidol, band eang a ffôn cartref am dâl misol sengl. Efallai mai pecyn yn dwyn ynghyd y tri gwasanaeth gydag un bil misol yw’r dewis cywir ar gyfer eich anghenion.

Fel gyda nifer o gynnyrch a gwasanaethau, nid y gost yw popeth. Mae gwasanaeth cwsmer a thelerau contract yn bwysig iawn hefyd. Beth yw’r lleiafswm amser y mae’n rhaid i chi arwyddo ar ei gyfer? Beth sy’n digwydd os ydych eisiau canslo’r contract yn gynnar? Beth sy’n digwydd os ydych yn symud ty? Beth sy’n digwydd os ydych eisiau cwyno am y cwmni?

Dylech ofyn a yw’r cwmni ffôn yn aelod o wasanaeth Datrys Anghydfod Amgen (ADR). Bydd y gwasanaeth ADR yn ymchwilio i gwynion cwsmeriaid a gall gael iawndal ar ran cwsmer os yw cwmni ar fai. Os nad yw cwmni’n aelod, dywedwch wrth Ofcom; yn ôl y gyfraith rhaid i bob cwmni berthyn i gynllun ADR.

Mae nifer o wefannau all ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol ar brisiau. Nodwch ychydig o fanylion am ddefnydd ffôn eich cartref a bydd y wefan yn cymharu prisiau gwahanol ddarparwyr a gwasanaethau i weld pa fargen sydd orau i chi. Mae gan rai o’r gwefannau yma hefyd rif ffôn gwasanaeth cwsmer felly gallwch fynd drwy’r broses gydag ymgynghorydd dros y ffôn yn ogystal ag ar-lein.

Nodwch nad yw Ofcom yn gyfrifol am unrhyw un o’r gwefannau hyn. Lle mae gwefan cymharu prisiau yn arddangos logo PASS Ofcom mae’n cydymffurfio â Chôd Ymarfer Ofcom ar annibyniaeth a chywirdeb gwybodaeth. Ar hyn o bryd un darparydd – uSwitch sydd ar www.uswitch.com – sydd wedi’i achredu ar gyfer ei gyfrifwr pris ffôn cartref.

Mae gwefannau’n darparu gwybodaeth am brisiau yn cynnwys:

Wrth gwrs, nid pris yw’r unig factor i’w hystyried wrth wneud eich dewis. Mae hefyd yn bwysig ystyried ansawdd gwasanaeth cwmni penodedig. Er enghraifft a yw ei system biliau yn gywir, neu pa mor gyflym maent yn ymateb i gwynion o gwsmeriaid. Mae Topcomm yn wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y diwydiant ffôn, sy’n cynnig gwybodaeth am berfformiad y prif gwmnïau ffôn. Ceir o hyd iddo ar-lein:

www.topcomm.org.uk


Ymwadiad

Mae’n ofynnol i wefannau sydd yn arddangos PASS Ofcom ddarparu gwybodaeth gywir a diweddaraf am brisiau gwasanaethau telegyfathrebiadau. Ond ni all Ofcom warantu, ac nid yw’n gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan. Ac nid yw Ofcom yn atebol am unrhyw weithredu a wneir yn ddibynnol ar gynnwys unrhyw wefan. Argymhellwn eich bod yn gwirio’r prisiau a ddyfynnir gan wefan gyda’r cyflenwr telegyfathrebiadau perthnasol cyn i chi newid cyflenwyr.

Dechrau’r tudalen


Tudalen Gartref | Y Cwestiynau a Ofynnir Amlaf

Ofcom - Office of Communications