Y Cwestiynau a Ofynnir Amlaf
- Beth oedd yr hen reoliadau prisiau ar BT, a pham y mae Ofcom yn cael gwared ohonynt?
- Beth fydd yn ei olygu i mi fel cwsmer ffôn?
- Ydy hyn yn golygu y bydd cost rhent llinell ffôn a chost galwadau yn gostwng?
- Beth am bobl sydd yn byw mewn ardaloedd anghysbell neu sydd ag anghenion cymdeithasol arbennig?
- Beth am bobl ar incwm isel?
- Beth fydd Ofcom yn ei wneud pe bai prisiau yn dechrau codi eto uwchben cyfradd chwyddiant?
Tudalen Gartref | Gwybodaeth Bellach
Beth oedd yr hen reoliadau prisiau ar BT, a pham y mae Ofcom yn cael gwared ohonynt?
Mae rheoliadau prisiau manwerthu yn cyfyngu ar faint y gall BT newid ei brisiau i gwsmeriaid preswyl a busnesau bach. Fe’u sefydlwyd i ddechrau gan y rheoleiddiwr pan breifateiddiwyd BT ym 1984.
Yn hanesyddol mae rheoliadau prisiau wedi amddiffyn y defnyddwyr trwy atal cynnydd mewn prisiau y mae’n rhaid i ddefnyddwyr eu talu oherwydd diffyg cyflenwyr rhatach eraill yn y farchnad.
Po fwyaf o gystadleuaeth sydd yn y farchnad, yr anoddaf yw hi i un cwmni godi prisiau a pharhau i gadw ei gwsmeriaid. Felly wrth i gystadleuaeth dyfu mae llai o angen am reoleiddiwr i osod rheolaethau ar brisiau manwerthu.
Mae’r farchnad ffôn wedi newid yn ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gan y DU bellach rai o’r prisiau ffôn rhataf yn y byd. Mae prisiau yn syrthio ac mae nifer o gwmnïau newydd yn cystadlu am fusnes.
Oherwydd hyn, ac yn dilyn ymgynghori cyhoeddus, mae Ofcom wedi penderfynu peidio â pharhau gyda’r rheoliadau cyfredol ar BT. Yn ein barn ni, mae’r rhain bellach yn hen. Mae’r ffaith bod dros 10 miliwn o gartrefi eisoes yn defnyddio cwmni ffôn ar wahân i BT – a’r ffaith bod cwmnïau newydd yn dod ar y farchnad yn gyson – yn golygu bod cystadleuaeth yn gweithio.
Mewn gwirionedd, yn y tymor hirach credwn y byddai cynnal y rheoliadau prisiau hyn yn berygl o atal yn hytrach nag amddiffyn mwy o gystadleuaeth a gwerth i ddefnyddwyr.
Yn olaf mae BT wedi ymrwymo yn ffurfiol i Ofcom y bydd yn rhoi triniaeth gyfartal i bob cwmni ffôn sydd yn defnyddio rhwydwaith lleol BT i gysylltu eu cwsmeriaid. Dylai hyn olygu y bydd pob cwmni, yn cynnwys BT, yn gallu cystadlu yn gyfartal.
Beth fydd hyn yn ei olygu i mi fel cwsmer ffôn?
Mae’r farchnad ffôn yn dod yn gynyddol gystadleuol – mae nifer o gwmnïau eisiau eich busnes – felly mae’n briodol rhoi mwy o hyblygrwydd i BT o ran ei brisio. O dderbyn yr amrywiaeth ymysg y cwmnïau ffôn sydd ar gael, mae’n werth edrych o gwmpas i weld beth sydd ar gael.
Ydy hyn yn golygu y bydd cost rhent llinell a chost galwadau yn gostwng?
Yn draddodiadol mae BT wedi codi tâl sydd yn is na’r gost am rent llinell ffôn. Ac yna mae wedi gwneud elw trwy godi mwy am y galwadau. Mae cwmnïau eraill wedi gwneud yr un fath.
Yn y dyfodol all hyn newid. Gall rhent llinell ffôn godi ychydig ond hefyd mae’n debygol y bydd costau galwadau yn debygol o barhau i syrthio. Mewn gwirionedd mae rhai cwmnïau eisoes yn cynnig galwadau ffôn diddiwedd fel rhan o’r pecyn gwasanaethau.
Mae BT hefyd wedi cytuno y bydd yn cyfyngu ar ei gostau am ei gynnyrch rhent llinell ffôn sylfaenol i lefel neilltuol er mwyn osgoi rhoi cwsmeriaid y mae eu rhent llinell ffôn yn fwy na’u bil galwadau ffôn, dan anfantais.
O gymryd rhent llinell ffôn a chostau galwadau gyda’i gilydd, disgwyliwn y bydd defnyddwyr ar y cyfan yn debygol o gael mwy am lai. Ond bydd pob cwmni yn delio â hyn mewn dull gwahanol. Mae’n werth chwilio o gwmpas – ac, fel gydag unrhyw beth a brynwch, darllenwch y print mân bob amser.
Beth am bobl sydd yn byw mewn ardaloedd anghysbell neu sydd ag anghenion cymdeithasol neilltuol?
Mae rheolau’n bodoli eisoes y mae’n rhaid i BT eu dilyn i wneud yn siwr bod pobl ym mhob rhan o’r DU yn gallu cael llinell ffôn a bod grwpiau bregus yn elwa oddi wrth wasanaethau a chynlluniau prisiau arbennig. Bydd y rheolau yma yn dal i fodoli.
Beth am bobl ar incwm isel?
Dywed BT y bydd yn cynnig prisiau arbennig ar rent llinell ffôn i bobl sydd yn gwario ychydig iawn ar eu gwasanaethau ffôn ac sydd yn gymwys ar gyfer Cynllun Defnyddiwr Ysgafn BT.
Beth fydd Ofcom yn ei wneud pe bai prisiau yn dechrau codi eto yn uwch na chyfradd chwyddiant?
Byddwn yn adolygu’r farchnad eto yn 2007. Os bydd BT yn codi prisiau yn sylweddol yn y cyfamser, byddwn yn gweithredu’n briodol i amddiffyn defnyddwyr.
Ond credwn na fydd hyn yn debygol o fod yn angenrheidiol. Mae cystadleuaeth gynyddol a datblygiadau mewn technoleg fel gwneud galwadau ffôn dros y rhyngrwyd yn golygu bod cost gwasanaethau ffôn yn debygol o barhau i syrthio am gryn amser i ddod.
Eich Galwad Chi