Mynd i’r afael â chynnwys niweidiol ar-lein

18 Medi 2018

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi dogfen drafod yn edrych ar faes cynnwys niweidiol ar y rhyngrwyd (PDF, 188.5 KB).

Yn y DU ac ym mhob cwr o’r byd, mae dadl ynglŷn ag a oes angen rheoleiddio er mwyn mynd i’r afael ag amryw o broblemau sy’n dechrau ar-lein ac yn effeithio ar bobl, busnesau a marchnadoedd.

Bwriad y ddogfen drafod yw cyfrannu at y ddadl honno gan ddefnyddio ein profiad o reoleiddio’r sector cyfathrebu yn y DU, a darlledu yn benodol. Mae’n defnyddio’r prif wersi o'r gwaith o reoleiddio safonau cynnwys – ar gyfer gwasanaethau darlledu a fideo ar-alw – a’r ddealltwriaeth y gallai'r rhain eu darparu i wneuthurwyr polisi o ran yr egwyddorion a allai fod yn sail i unrhyw fodelau newydd ar gyfer mynd i'r afael â chynnwys niweidiol ar-lein.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu deddfu i wella diogelwch ar-lein ac yn cyhoeddi Papur Gwyn y gaeaf hwn. Mae unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn fater i’r Llywodraeth a’r Senedd, ac nid oes gan Ofcom safbwynt am y trefniadau sefydliadol a allai ddilyn.

Ochr yn ochr â’r papur heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ymchwil ar y cyd â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar farn, dealltwriaeth a phrofiad pobl o niwed ar-lein. Mae arolwg ar 1,686 o oedolion sy’n defnyddio’r rhyngrwyd wedi canfod bod gan 79% bryderon am agweddau ar fynd ar-lein a bod 45% wedi profi rhyw ffurf ar niwed ar-lein. Mae’r astudiaeth yn dangos bod amddiffyn plant yn bryder mawr, ac mae’n datgelu lefelau cymysg o ddealltwriaeth o ba fathau o gyfryngau sy’n cael eu rheoleiddio.

Dogfennau

Mynd i’r afael â chynnwys niweidiol ar-lein (PDF, 188.5 KB)

Addressing harmful online content (PDF, 688.4 KB)

Internet users’ experience of harm online: summary of research (PDF, 543.5 KB)

Internet users’ experience of harm online: data tables (PDF, 7.4 MB)