- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Research and Market Data > Communications Market Reports > Nations & Regions 06 > Cylch Gorchwyl
Cylch Gorchwyl
Cefndir
1. Mae gan Ofcom nifer o ddyletswyddau o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 mewn perthynas â diogelu buddiannau dinasyddion a defnyddwyr ledled y DG. Mae’r rhain yn cynnwys:
- sicrhau argaeledd ystod eang o wasanaethau cyfathrebu electronig, yn ogystal ag ystod eang o wasanaethau teledu a radio o ansawdd uchel a sydd ag apêl eang ym mhob rhan o’r DG;
- rhoi sylw i’r ddymunoldeb o annog argaeledd a defnydd rhyngrwyd cyflymder uchel ym mhob rhan o’r DG a buddiannau gwahanol personau sy’n byw mewn rhannau gwahanolo’r DG ac mewn ardaloedd gwledig a threfol.
2. Cynhwysodd Ofcom yng Nghynllun Blynyddol 05/06 yr ymrwymiad i gynnal archwiliad o’r cenhedloedd a’r rhanbarthau. Yn ogystal â’r dyletswyddau a amlinellir uchod, mae hyn yn adlewyrchu un o’r themâu sy’n codi dro ar ôl tro mewn ymatebion i sawl un o’n ymgynghoriadau y dylai gwaith Ofcom adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng y cenhedloedd – Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon – a rhanbarthau Lloegr.
3. Mae’r datganiad hwn yn amlinellu sut y bydd Ofcom yn ymgymryd â’r archwiliad.
Ein hymagwedd
4. Mae cryn drafodaeth am amrywiaethau daearyddol mewn argaeledd a defnydd gwasanaethau cyfathrebu a’r rhesymau y tu ôl i’r gwahaniaethau hyn. Serch hynny, nid yw’r patrymau amrywiaeth erioed wedi eu hasesu’n systemataidd gan ddefnyddio ymchwil i’r farchnad a gwybodaeth eilaidd arall.
5. Nod yr archwiliad o’r cenhedloedd a’r rhanbarthau yw sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn drwy gydgrynhoi’r wybodaeth bresennol am argaeledd, defnydd, agweddau a bwriadau ystod o blatfformau a gwasanaethau cyfathrebu ymhlith defnyddwyr yn ôl lleoliad daearyddol.
6. Yn fwy penodol, bydd yn casglu’r data sydd ar gael mewn perthynas â gwasanaethau llais sefydlog a symudol, rhyngrwyd (band cul a band eang), gwasanaethau di-wifr a symudol, teledu digidol a radio digidol ac yn dadansoddi’r patrymau amrywiaeth yn ôl cenedl a rhanbarth.
7. Cyhoeddir adroddiad interim yn gynnar yn ‘06. Bydd hwn yn nodi darganfyddiadau'r dadansoddiad o’r data.
8. Cyhoeddir adroddiad terfynol yng nghanol ‘06. Bydd hwn yn asesu goblygiadau darganfyddiadau'r ymchwil ar gyfer gwaith presennol a gwaith arfaethedig Ofcom a, lle bo’n briodol, yn gwneud argymhellion.
9. Mae Ofcom yn deall bod diddordeb helaeth yng nghanlyniadau’r ymchwil ac felly mae’n annog ystod o randdeiliaid i gyfrannu at y sylfaen dystiolaeth. Bydd gweithdai a seminarau yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau yn cynnig cyfle pellach i drafod darganfyddiadau'r ymchwil.
10. Bydd cydweithwyr Ofcom a leolir yng Nghaerdydd, Belfast, Glasgow a rhanbarthau Lloegr a’r Pwyllgorau Ymgynghorol Cenedlaethol perthynol yn chwarae rôl flaenllaw yn yr archwiliad.
Y camau nesaf
11. Bydd yr archwiliad yn dechrau gyda chyfnod casglu data sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys cyfres o drafodaethau cychwynnol ag ystod o randdeiliaid er mwyn egluro’r ymagwedd a thrafod gofynion data Ofcom yn fanylach.
Pwynt cyswllt
12. I gael eglurhad a gwybodaeth bellach, e-bostiwch Louise Banyard (louise.banyard@ofcom.org.uk).
Back to top