Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Research and Market Data > Communications Market Reports > Nations & Regions 06 > Y Farchnad Gyfathrebu


Y Farchnad Gyfathrebu 2006: Cenhedloedd a Rhanbarthau - Cymru

Rhagair

Mae’r arolwg hwn yn rhan o gyfres o adroddiadau Ofcom am y Farchnad Gyfathrebu. Mae’n archwilio argaeledd gwasanaethau cyfathrebu ledled y DG, a’r nifer sy’n eu prynu a’u defnyddio, gan archwilio sut y mae buddiannau dinasyddion a defnyddwyr yn cael eu bodloni a sut y mae’r darlun hwn yn amrywio yn ôl pob un o’r cenhedloedd a’r rhanbarthau.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau’r arolwg ar gyfer Cymru, gan eu gosod yng nghyd-destun y DG gyfan a’r tair cenedl arall (Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon). I weld canfyddiadau llawn yr arolwg, cyfeiriwch at y prif adroddiad sef Y Farchnad Gyfathrebu: Cenhedloedd a Rhanbarthau.

Cynhaliwyd y prosiect hwn gennym i fynd i’r afael ag adborth rhanddeiliaid a nododd y dylai gwaith Ofcom roi ystyriaeth i’r gwahaniaethau rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DG. Mae’r prosiect yn gyson â dyletswyddau Ofcom i sicrhau bod ystod eang o wasanaethau cyfathrebu electronig ar gael ledled y DG, gan ystyried gwahanol fuddiannau pobl sy’n byw mewn gwahanol rannau o’r DG ac mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Mae’r arolwg yn ystyried y tri llwyfan cyfathrebu sylfaenol, sef telathrebu (gan gynnwys llinellau ffôn sefydlog a ffonau symudol ail a thrydedd genhedlaeth), y rhyngrwyd (gan gynnwys band eang a gwasanaethau tra chyflym), a darlledu digidol (gan gynnwys teledu a radio digidol). Mae’n archwilio’r patrymau allweddol ar gyfer y gwasanaethau hyn fel y maent yn berthnasol i argaeledd, prynu a defnyddio ledled y DG, ymhlith defnyddwyr a busnesau bach a chanolig.

Casglwyd y rhan fwyaf o’r data yn yr adroddiad drwy waith ymchwil a wnaed yn ystod ail hanner 2005, gan gynnwys astudiaeth olrhain preswyl Ofcom, Archwiliad Llythrennedd y Cyfryngau a data gweithredwyr ar gyfer signal ffôn symudol, llinell tanysgrifiwr digidol ( DSL) a chebl.

Dylid ystyried yr adroddiad hwn yng nghyd-destun cyfres o arolygon ymchwil cyflenwol a gyhoeddir gan Ofcom yn ystod 2006. Mae’r rhain yn cynnwys yr Archwiliad am Lythrennedd y Cyfryngau, (cyhoeddwyd y prif adroddiad ym mis Mawrth 2006 ac mae’r adroddiad atodol am lythrennedd y cyfryngau yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r adroddiad hwn), adroddiadau am gysylltiad defnyddwyr a Busnesau Bach a Chanolig â gwasanaethau digidol a’r adroddiad blynyddol am y Farchnad Gyfathrebu (cyhoeddir y cyfan yn ddiweddarach eleni).

Credwn y bydd yr adroddiad hwn yn adnodd gwerthfawr i Ofcom, llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a lleol a rhanddeiliaid eraill, i deilwra eu hymagwedd at wahaniaethau cenedlaethol a rhanbarthol o ran argaeledd gwasanaethau cyfathrebu, a’r nifer sy’n eu prynu a’u defnyddio. Cynhelir cyfres o seminarau Gwledig, Rhanbarthol ac Anghysbell yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau yn fuan ar ôl cyhoeddi er mwyn eu defnyddio fel fforwm i drafod canfyddiadau’r ymchwil. Yna bydd Ofcom yn cyhoeddi adroddiad terfynol a fydd yn asesu goblygiadau canfyddiadau’r ymchwil ar waith cyfredol ac arfaethedig Ofcom a, lle bo’n briodol, yn gwneud argymhellion.

Ein bwriad yw y dylid ailadrodd yr arolwg cenhedloedd a rhanbarthau yn rheolaidd ac ychwanegu ato, lle bo’n briodol, waith ymchwil pellach ledled y DG ymhlith lleiafrifoedd ethnig, grwpiau anabledd a grwpiau oedran a chymdeithasol allweddol.


Back to top Back to top