- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Research and Market Data > Television research > Reports and Research > Digital Switchover > Driving Digital Switchover > Tuag at Newid i'r Digidol > Cyflwyniad
Cyflwyniad
Beth yw teledu digidol?
Mae eich teledu gartref yn gweithio drwy dderbyn a datrys signal a gafodd ei anfon naill ai drwy'r awyr (daearol), neu drwy gebl yn rhedeg i'ch cartref (cebl) neu drwy loeren yn y gofod (lloeren)
Yn draddodiadol fe fyddai'r signal yn teithio fel cyfres o donnau, naill ai drwy'r awyr neu ar hyd cebl, a'r enw amdano oedd 'trosglwyddiad analog'. Fodd bynnag, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae technoleg wedi symud ymlaen a bellach gallwn anfon lluniau teledu fel miliynau o rifau un a dim sy'n cael eu dehongli yn eich set deledu neu mewn blwch pen-teledu gyda'r set. Dyna beth yw teledu digidol.
Y gwelliannau yw ei fod fel arfer yn rhoi llun mwy eglur a sain gliriach, ac yn defnyddio llai o lawer o ofod i anfon yr un rhaglen deledu. Gellir anfon llawer rhagor o sianeli teledu ar yr un tonfeddi awyr neu ar hyd yr un cebl fel teledu digidol nag fel teledu analog, gan gynnig mwy o ddewis.
Pryd y dechreuodd teledu digidol?
Yn y DG, dechreuodd teledu digidol yn 1998 pan ddechreuodd BSkyB gynnig y dewis o deledu digidol i'w gwsmeriaid i gymryd lle'r llestri lloeren analog a'r blychau pen-teledu. Yn fuan wedyn, dechreuodd ONdigital ddarlledu daearol digidol ac yn 1999, dechreuodd y cwmnïau cebl newid eu cwsmeriaid o'r gwasanaethau analog i'r gwasanaethau digidol
Oes gen i deledu digidol?
Os ydych yn talu am wasanaeth lloeren BskyB, neu os oes gennych chi Freeview ac yn derbyn eich teledu drwy'r erial {ond hefyd mae gennych chi flwch pen-teledu neu set deledu sy'n gallu derbyn y signal digidol yn syth), mi fyddwch eisoes yn derbyn teledu digidol. Mae'r rhan fwyaf o danysgrifwyr teledu cebl hefyd yn derbyn teledu digidol. Fodd bynnag, nid yw'r cwmnïau cebl wedi llwyr orffen symud eu holl wasanaethau o analog i ddigidol.
Os ydych yn derbyn eich teledu drwy erial ac yn derbyn pedwar neu bump yn unig o'r prif sianeli - BBC1, BBC2, ITV, Channel 4/S4C a Five - rydych yn dal i gael y gwasanaeth analog.
Ar ddiwedd 2003, roedd hanner cartrefi'r DG wedi newid i'r digidol ac roedd hanner yn dal yn ddibynnol ar dechnoleg analog i gael teledu.
Beth yw newid i ddigidol?
Mae newid i ddigidol yn golygu diffodd y signal teledu analog traddodiadol y mae ein cartrefi wedi'i dderbyn ers llawer o flynyddoedd a gosod signal digidol yn ei le.
Beth yw cynlluniau'r Llywodraeth?
Ym mis Medi 1999, cyhoeddodd y Llywodraeth am y tro cyntaf ei fwriad i ddiffodd y signal analog a newid i deledu digidol. Dywedodd y gallai'r broses gychwyn mor gynnar â 2006 a thrwy hynny gael ei chwblhau erbyn 2010.
Yn 1999, dywedodd y Llywodraeth na fyddai'r newid yn digwydd hyd nes y byddai'r amodau dilynol wedi'u cyflawni.
- Yn gyntaf, y byddai pawb a allai weld y prif sianeli yn y dull analog eu derbyn ar system ddigidol.
- Yn ail, fod newid i ddigidol yn ddewis y byddai bron pawb yn gallu'i fforddio.
Yn ddiweddarach, mae'r Llywodraeth wedi ailadrodd ei ymrwymiad i'r newid. Fodd bynnag does dim un dyddiad pendant wedi'i osod pryd y mae'n disgwyl neu'n dymuno gweld y newid yn cychwyn.
Beth fyddai'r newid yn ei olygu i fi?
Fe fyddai'r newid yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl.
- Byddai cartrefi sy'n methu â derbyn sianelu teledu yn ddi-dâl ar hyn o bryd yn derbyn mwy o sianeli di-dâl. Fe ddigwyddai hyn mewn cartrefi lle nad yw teledu Freeview ar gael.
- Byddai pob teulu sy'n dymuno defnyddio erial i dderbyn teledu, naill ai ar ei brif set deledu yn yr ystafell fyw neu ar setiau eraill, yn gorfod prynu blwch pen-teledu er mwyn parhau i ddefnyddio'r set deledu os nad yw wedi gwneud hynny'n barod.
- Byddai teulu lle dymunir defnyddio recordydd fideo i recordio'r naill raglen wrth wylied un arall yn gorfod prynu blwch arall neu recordydd fideo newydd i wneud hynny.
- Byddai ambell gartref yn gorfod prynu erial newydd os yw'r erial presennol o ansawdd gwael.
- Ni fyddai teulu sydd eisoes wedi newid yn llwyr i gebl neu loeren neu Freeview yn gweld unrhyw wahaniaeth mawr.
Pam y mae newid i'r digidol yn bwysig i'r DG?
Gallai newid i'r digidol fod yn fuddiol dros ben i'r DG.
Byddai'n rhyddhau nifer helaeth o'r tonfeddi a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddarlledu BBC1, BBC2, ITV, S4C/Channel 4 a Five. Mae'r tonfeddi a ddefnyddir ar gyfer teledu yn ffurfio rhan o'r hyn a elwir yn sbectrwm electromagnetig neu 'sbectrwm' yn fyr. Os bydd y newid yn digwydd, bydd yn rhyddhau rhan helaeth o sbectrwm ar gyfer dibenion eraill, naill ai rhagor o deledu neu gyfathrebu symudol, hyd yn oed.
Byddai defnyddwyr ar eu hennill oherwydd y defnydd newydd o'r sbectrwm a ryddhawyd.
- Heb y cyfyngiad manwl ar y nifer o sianeli y gellir eu cynnig, byddai darlledwyr yn gallu teilwra'u sianeli a rhaglenni'n well ar gyfer y gwylwyr.
- Gan fod defnyddwyr wedi newid i'r digidol yn gynt yn y DG nag mewn unrhyw wlad arall, byddai'r newid yn help i gadarnhau safle arweiniol y DG o ran defnyddio technoleg deledu digidol.
Am y rhesymau hyn, mae'r budd a ddaw o newid i'r digidol yn fwy na'r gost y bydd rhai cwsmeriaid yn gorfod ei thalu.
Ydi'r DG yn gwneud hyn ar ei phen ei hun?
Nag yw. Llwyddodd Berlin i ddiffodd ei signal analog yn llwyddiannus yn 2003 heb fawr ddim ymyrraeth. Mae gweddill yr Almaen a'r rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop yn bwriadu dilyn ei harweiniad. Yn U.D.A. mae cynlluniau ar droed hefyd i ddechrau diffodd y signal analog. Ac o 2007, fe fydd pob set deledu a werthir yn U.D.A. yn gorfod cynnwys troswr digidol.
Back to top