- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Research and Market Data > Television research > Reports and Research > Digital Switchover > Driving Digital Switchover > Tuag at Newid i'r Digidol > Ein rhag-ddisgwyliadau
Ein rhag-ddisgwyliadau ar gyfer teledu digidol
A fydd teledu digidol yn dal i dyfu?
Bydd. Ein hamcan gyfrif yw y bydd 58 y cant o gartrefi â theledu digidol, ac fe fydd y ffigur hwn wedi codi i 63 y cant erbyn diwedd 2005. Erbyn diwedd 2010, amcangyfrifwn y bydd 78 y cant o deuluoedd wedi newid o leiaf un o'u setiau teledu i'r digidol.
Seilir ein rhag-ddisgwyliadau o'r newid tebygol i deledu digidol tan 2012 ar y rhagdybiaeth na fydd newidiadau yn y polisi ac na chyhoeddir amserlen ar gyfer y newid i'r digidol.
Ein barn ni yw y bydd y nifer o wylwyr cebl, lloeren a gwylwyr Freeview yn tyfu. Ond bydd y rhan fwyaf o deuluoedd fydd yn newid i'r digidol yn y dyfodol yn dewis Freeview gan nad oes angen talu tanysgrifiad misol.
Mae'r gyfradd gyffredinol o dyfiant yn debyg o arafu. Mae tri rheswm yn esbonio'r newid arafach i'r digidol wrth i'r degawd fynd yn ei blaen.
- Mae rhai teuluoedd heb werthfawrogi'r dewis ehangach sy'n bosibl ar deledu digidol.
- Er bod llawer o bobl yn dymuno talu tanysgrifiad misol am sianeli premiwm, yn enwedig ar gyfer chwaraeon a ffilmiau, nid ydym yn rhagweld tyfiant mawr mewn teledu drwy dalu. Mae ei dyfiant eisoes wedi dechrau arafu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
- Mae amryw deuluoedd sy'n dymuno cael teledu digidol heb dalu tanysgrifiad misol yn byw mewn ardaloedd lle nad yw Freeview ar gael, felly nid oes modd iddyn nhw dderbyn teledu digidol hyd nes i'r newid ddigwydd pan fydd modd cryfhau nerth y signal digidol.
Ac, yn ogystal â chael prif set deledu, mae gan y rhan fwyaf o gartrefi un set arall o leiaf yn y gegin, mewn llofftydd neu yn rhywle arall. Ein hamcangyfrif yw fod dros 35 miliwn o setiau teledu y byddai angen eu trosi pe digwyddai'r newid i'r digidol eleni. Ein hamcangyfrif hefyd yw y bydd y nifer hwn yn aros ar lefel debyg yn 2010 am fod teuluoedd yn parhau i brynu llawer mwy o setiau analog na setiau digidol neu flychau trosi i'r digidol.
Ydi hi o bwys fod y tyfiant mewn teledu digidol yn debyg o arafu?
Un broblem yw fod y Llywodraeth yn y lle cyntaf wedi gosod nôd o fforddadwyedd ar gyfer teledu digidol, sef, y byddai gan 95 y cant o gartrefi deledu digidol. Mae'n annhebyg y cyrhaeddir y nod honno, yn bennaf am nad yw Freeview ar gael ond i tua thri-chwarter o gartrefi'n unig.
Er mwyn i'r DG gael y budd o'r newid i'r digidol, mae angen i'r Llywodraeth wneud penderfyniad i gychwyn y newid cyn bod bron pob cartref wedi gwneud y newid. Mae hon yn broblem fawr ar gyfer y newid, ond y casgliad yw nad yw newid i'r digidol yn amhosibl. Dylai pawb gydnabod fod gadael i'r farchnad fynd ymlaen fel y mae yn annhebygol o gwblhau'r newid i'r digidol. Mae angen strategaeth newydd i oresgyn y rhwystrau yn ffordd y newid.
Back to top