Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Research and Market Data > Television research > Reports and Research > Digital Switchover > Driving Digital Switchover > Tuag at Newid i'r Digidol > hargymhellion


Ein hargymhellion ar gyfer newid i'r digidol yn llwyddiannus

Ein cred ni yw fod uchelgais y Llywodraeth i ddiffodd y signal analog a'i ddisodli â signal digidol i'w ddymuno, yn ymarferol ac yn gyraeddadwy. Ond mae'r her yn sylweddol. Mae angen i bawb sy'n ymwneud â newid i'r digidol yn llwyddiannus - y Llywodraeth, ni, darlledwyr, gwneuthurwyr a'r defnyddwyr - ymwregysu ac ymbaratoi i weithredu'r newid i'r digidol. Wnaiff hyn ddim digwydd, ac ni chaiff y DG y budd o gael mwy o ddewis ar y teledu a sbectrwm a ryddhawyd, os osgoir penderfyniadau pwysig ac os na weithredir.

Y glwyd bwysicaf i lamu drosti yw mater cydlyniad. Mae'r bobl fydd yn elwa ar y newid wedi'u taenu'n ehangach na'r rhai sy fwyaf tebyg o dalu costau'r newid.

Yn yr adroddiad hwn, dyma ein 30 o brif gasgliadau ac argymhellion

Amseru

1 Argymhellwn broses o newid graddol fel na fydd sgriniau teledu'n mynd yn wag dros nos. Dylid diffodd un neu ddwy o'r sianeli analog yn gyntaf er mwyn caniatáu cryfhau'r signal digidol cyn diffodd y sianeli analog eraill. Fe fyddai hyn yn lleihau'r ymyrraeth yng nghartrefi'r DG, cyn belled ag y bydd modd.

2 Heb amserlen bendant ar gyfer y newid, ni fydd darlledwyr a chwmnïau trosglwyddo yn gallu penderfynu a ddylid newid y cyfarpar analog presennol - os dylid gwneud hynny. Ein hargymhelliad yw na ddylid oedi i wneud hyn cyn bo hir. Ni ddylai ddigwydd wedi i fywyd defnyddiol y cyfarpar trosglwyddo ddod i ben.

3 Y risg mwyaf difrifol o wneud cyhoeddiad cynnar o'r amserlen yw'r posibilrwydd o waethygu agwedd y defnyddwyr tuag at y newid drosodd cyn i'r cyhoedd weld fod teledu digidol yn dechnolegol sicr.

4 Fodd bynnag, y budd a ddaw o gyhoeddi amserlen fanwl yn gynnar yw:

5 Fe fyddai cyhoeddi amserlen yn annog amryw deuluoedd i brynu'r cyfarpar teledu ac yn gymorth ar gyfer llwyddo i gwblhau'r newid i'r digidol rhwng 2007 a diwedd 2010. Mae ymchwil gyda defnyddwyr yn dangos fod llawer o deuluoedd sydd ar hyn o bryd ar analog yn barod i brynu setiau teledu digidol cyhyd â'u bod yn gwybod fod y newid i'r digidol ar fin digwydd. â'r mwyafrif o deuluoedd eisoes wedi prynu teledu digidol mae'r sylfaen ar gyfer cyhoeddi amserlen eisoes wedi'i gosod.

Ein rheoliadau

6 Mae gennym ni ran bwysig i'w chwarae i greu cymhellion i annog pobl i brynu teledu digidol ac i symud rhai o'r rhwystrau yn ffordd newid i'r digidol.

7 Er na ddylai fod rheidrwydd ar ddarlledwyr i reoli'r broses o newid i'r digidol, mae'n rhesymol disgwyl cyfraniad sylweddol ar eu rhan, yn enwedig drwy estyn ffiniau teledu digidol daearol a thrwy ofalu fod gwylwyr yn cael gwybod yn glir am y newid. Fe rown ystyriaeth i gynnwys y goblygiadau priodol ychwanegol yn y trwyddedi ddarlledu newydd sydd i'w dyroddi ar ddiwedd 2004.

8 Rydym ni eisoes yn ystyried a yw cystadlu'n effeithiol ym marchnad trosglwyddo darllediadau. Fe geisiwn ofalu, os bydd darlledwyr yn cytuno i fuddsoddi mewn cyfarpar trosglwyddo digidol newydd, na fydd cytundeb i weithredu teledu daearol digidol (TDD) ddim yn arwain at godi gormod ar y darlledwyr.

9 Fe ystyriwn godi ar gwmnïau fydd yn defnyddio'r sbectrwm o 2006 ymlaen. Fe roddai hyn anogaeth i'r darlledwyr ddefnyddio cyn lleied ag y bo modd. Os penderfynwn wneud hynny, fe allai codiannau weithredu am y tro cyntaf ar y BBC, Channel 4 ac S4C yn 2006. Mae ITV a Channel Five eisoes yn talu am eu trwyddedi ddarlledu sy'n cynnwys codiant fel o raid am ddefnyddio'r sbectrwm. Byddwn yn sicrhau na fyddent yn talu dwywaith am ddefnyddio'r sbectrwm.

10 Gallai rhai o'r goblygiadau ychwanegol godi costau darlledwyr masnachol. Lle bo'n briodol, byddwn yn ceiisio rhoi ystyriaeth i'w buddsoddiadau a wnaed ar gyfer y newid i'r digidol.

11 Argymhellwn fel rhan o adolygiad Siartr Frenhinol y BBC, fod y Llywodraeth yn ychwanegu goblygiadau newydd a phenodol i oblygiadau cyffredinol presennol y BBC i hybu teledu digidol. Dylai'r goblygiadau hyn gynnwys llunio rhwydwaith trosglwyddo digidol cyflawn, darparu gwybodaeth i'r cyhoedd, parhau i gynnig ei sianeli ar loeren wylio-am-ddim a marchnata teledu digidol ar yr awyr heb unrhyw ragfarn o blaid Freeview.

Teledu digidol gwylio-am-ddim

12 Hyd yn oed pe bai pob defnyddiwr yn dymuno newid i'r digidol, byddai rhai'n wynebu rhwystr difrifol am fod chwarter y cartrefi'n methu â derbyn Freeview.

13 Cyn y newid i'r digidol yn llwyr gallai lloeren wylio-am-ddim, gael rhan bwysig o ran cynyddu teledu digidol ymhlith y sawl sy'n dymuno peidio â thalu tanysgrifiad misol ar gyfer teledu. Mewn ardaloedd lle nad yw Freeview ar gael dyma'r unig ddewis. Ond ar hyn o bryd nid oes modd gwylio BBC1, BBC2, ITV a Channel 4 /S4C am ddim ar loeren ddigidol. Byddwn yn ystyried a oes angen inni osod rheoliadau i wneud lloeren wylio-am-ddim yn ddewis mwy ymarferol cyn newid i'r digidol.

14 Yn dibynnu ar ddalgylch y signal digidol ar ôl y newid, efallai bydd angen inni ystyried mesurau pellach i sicrhau fod pob teulu'n gallu derbyn BBC1, BBC2, ITV, Channel 4/S4C a Five ar system loeren wylio-am-ddim. Mae gennym ni'r hawl i orfodi rhai darlledwyr neilltuol i ddarparu ffordd o dderbyn y gwasanaethau hyn pan na all teuluoedd eu derbyn ar safon dderbyniol heb hynny.

15 Dylai'r Llywodraeth barhau i geisio dileu'r rhwystrau sydd yn ffordd symud tuag at newid i'r digidol, er enghraifft, cyfyngiadau cynllunio sy'n gwahardd gosod dysglau lloeren ar adeiladau arbennig.

Gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr

16 Er bod teledu digidol gan hanner y teuluoedd, nid yw'r hanner arall yn debyg o fynd yn ddigidol mor gyflym. Ni fydd newid i'r digidol yn bosibl os na fydd y defnyddwyr yn credu yn y gwelliannau a ddaw ohono.

17 Yn bell cyn newid i'r digidol, dylai ymgyrch hysbysebu cenedlaethol esbonio i bob teulu fod y newid yn dod gan geisio ennyn cefnogaeth ar ei gyfer yn y cyhoedd. Hefyd fe ddylem gyflwyno cynllun labelu defnyddwyr newydd i'w rhybuddio na fydd cyfarpar analog heb ei drosi yn gweithio ar ôl dyddiad arbennig.

Bydd angen gweithredu hyn gyda chefnogaeth gwneuthurwyr a manwerthwyr.

18 O amgylch y dyddiad newid bydd angen i ddefnyddwyr gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth. Ni ddylai'r ymgyrch hyrwyddo gynnwys hysbysebu ar yr awyr yn unig, ond yn ogystal dylid cael marchnata uniongyrchol, llinellau cymorth a labeli'r cynnyrch yn glir. Bydd angen inni weld ymgyrch cyfathrebu rhanbarthol wrth nesu at amser diffodd yr analog. Rhaid addasu'r cyngor i'r teuluoedd sy'n methu â derbyn y signal digidol hyd nes i'r newid ddigwydd.

19 Ar ôl cwblhau'r newid i'r digidol fe fydd angen hefyd inni gynnig cefnogaeth barhaol i ddefnyddwyr sy'n dal yn ansicr ynghylch newid i'r digidol.

Symud o'r cynllunio i'r gweithredu

20 Mae Cynllun gweithredu Teledu Digidol wedi bod yn effeithiol wrth helpu'r Llywodraeth i wneud penderfyniad ynghylch y newid. Fodd bynnag, nid ymdopi â'r broses o peri i'r newid ddigwydd yw'r nôd. Mae angen inni weld rheolaeth weithredol er mwyn cwblhau'r newid yn effeithiol.

21 Unwaith y bydd cytundeb rhwng darlledwyr y Llywodraeth a ni wedi'i sicrhau, ein hargymhelliad yw bod corff yn cael ei sefydlu (SwitchCo), i fod yn gyfrifol am y newid. Dylai gael dyddiad penodol ar gyfer cwblhau'r dasg.

22 Dylai SwitchCo:

23 Bydd partïon sydd â diddordeb - y Llywodraeth, y darlledwyr, ni, gwneuthurwyr a'r manwerthwyr - yn parhau i gael rhannau pwysig i'w chwarae wrth gyflawni'r newid, ac yn gorfod cytuno ar y broses. Fodd bynnag, ni ddylai'r un o'r rhai a grybwyllwyd redeg SwitchCo am fod eu diddordebau'n rhy eang eu rhediad. Yn lle hynny, dylai SwitchCo fod yn ddigon annibynnol i allu cynrychioli'r defnyddwyr yn effeithiol ac osgoi gwrth daro rhwng buddiannau.

24 Dylai'r Llywodraeth sicrhau fod gan SwitchCo ddigon o adnoddau i gwblhau ei dasgau. Bydd angen ei ariannu ar gyfer costau rhedeg, gwario ar farchnata a chefnogaeth i'r defnyddwyr adeg y newid i'r digidol. Dylai'r arian ddod o amryw gyfeiriadau posibl gan gynnwys gwarant gyhoeddus uniongyrchol, rhan o arian trwydded y BBC, neu arian preifat fydd yn dod wrth godi am ddefnyddio'r sbectrwm. Gan y bydd yr economi at ei gilydd yn derbyn y budd mwyaf o'r newid, ni ddylai'r mecanwaith ariannu roi gormod o faich ar unrhyw grwp, sefydliad neu gorff unigol.

O fewn cyrraedd y boced

25 Hyd yn oed os yw'r newid i'r digidol yn uchel iawn, fe all y gost o drosi i'r digidol ddal i fod yn rhwystr sylweddol i rai teuluoedd. Y risg yw y bydd yn gadael ychydig o deuluoedd heb deledu ar ôl y newid. Mae teuluoedd ag incwm uchel yn debycach ar hyn o bryd o fod â theledu digidol na theuluoedd tlotach, felly fe fyddai'r gost o newid yn disgyn ar bobl dlawd yn bennaf.

26 Nid oes rhaid i'r costau hyn fod yn rhwystr mawr i'r newid i'r digidol. Mae pris blwch trosi sylfaenol yn 2004 eisoes yn hanner y taliad am drwydded deledu flynyddol. Mae'r prisoedd yn debygol o ddisgyn dros amser, a bydd llawer o ddefnyddwyr yn prynu blychau trosi yn ddigymell yn ystod y blynyddoedd i ddod.

27 Erbyn i'r newid i'r digidol ddigwydd mae'n debygol y bydd yn ei chael yn anodd talu o hyd. Byddai unrhyw gefnogaeth ariannol yn lleihau peth o'r gwrthwynebiad i'r newid. Fodd bynnag, nid oes angen gwneud penderfyniadau ynghylch cefnogaeth ariannol ar unwaith.

28 Ar ddyddiad diweddarach, dylai'r Llywodraeth ystyried y costau a'r buddion a ddaw o gynnig cymorth ariannol cyfyngedig i grwpiau bach, tebyg i'r cynllun trwydded deledu am ddim y BBC i rai dros 75 oed. I osgoi'r perygl y byddai rhai teuluoedd yn dal yn ôl tan y funud olaf yn y gobaith o dderbyn cefnogaeth ariannol, dylai unrhyw gynllun fod ar gael i bob teulu mewn grwp neilltuol yn hytrach na'r teuluoedd hynny sydd heb newid eu setiau i'r digidol.

Materion Rhyngwladol

29 Tanseilir y budd yn sgil newid i'r digidol os na allwn warantu y bydd modd defnyddio'r sbectrwm yn hyblyg. Strategaeth y DG ddylai fod i geisio sicrhau fod cynllun cyfredol y DG ar gyfer teledu digidol yn cael ei warchod yn llwyr. Dylai anelu hefyd at warchod defnydd y DG o'r sbectrwm yn y dyfodol.

30 Yng nghynadleddau rhyngwladol 2004 a 2006, bydd y DG yn anelu at warchod ei gynlluniau darlledu digidol a chadw opsiynau ar agor ar gyfer unrhyw sbectrwm a gliriwyd ac a fydd ar gael ar ôl y newid. Yn y cynadleddau cydwladol yn 2007 a 2010 bydd y DG yn ceisio ennill yr hyblygrwydd eithaf y sbectrwm a ryddhawyd ar gyfer darlledu a defnyddiau eraill.


Back to top Back to top