Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Research and Market Data > Television research > Reports and Research > Digital Switchover > Driving Digital Switchover > Tuag at Newid i'r Digidol > Llwyddiant teledu digido


Llwyddiant teledu digidol

Twf teledu digidol fu un o lwyddiannau masnachol a thechnegol mwyaf arwyddocâol y DG yn ddiweddar. Oddi ar ei lansiad yn 1998, mae teledu digidol wedi tyfu'n gynt bron iawn nag unrhyw gynnyrch neu wasanaeth electronig ar gyfer y cartref. Mae pobl wedi talu am deledu lloeren ddigidol a chebl digidol ac wedi prynu blychau Freeview yn gynt nag y buwyd yn prynu teledu lliw yn y 1970au, recordyddion fideo yn yr 1980au cynnar, a theledu lloeren cychwynnol yn y 1990au cynnar.

Erbyn diwedd 2003, roedd dros hanner o deuluoedd y DU wedi gosod teledu digidol yn eu cartrefi.

Y Cynnydd yn ystod 2003

Cynyddodd y cyflymdra tyfiant teledu digidol yn ystod 2003 am fod defnyddwyr wedi prynu dros 1.5 miliwn o flychau Freeview neu setiau teledu â throswr digidol. Roedd hyn yn arbennig o wir dros gyfnod y Nadolig. Hefyd llwyddodd BSkyB i ychwanegu 600,000 o gartrefi i'r 6.9 miliwn sydd eisoes yn talu'n fisol am eu gwasanaethau teledu. Parhaodd y nifer o gartrefi sydd ar gebl yn gyson.

At ei gilydd, cododd y canran o gartrefi â theledu digidol o 41 y cant i 50.2 y cant yn 2003. Mae amryw resymau am y llwyddiant hwn.

Y dimensiwn rhanbarthol

Mae'r newid i deledu digidol yn amrywio ar draws y DG. Mae ar ei uchaf yng Nghymru, lle mae'r signal analog yn aml yn wan, ac ar ei isaf yn ne-orllewin Lloegr.

Unwaith y bydd y newid i'r digidol wedi digwydd, dylai'r nifer o gartrefi sy'n gallu derbyn signal digonol fod yr un peth â'r nifer sydd ar hyn o bryd sy'n gallu derbyn BBC1 da ei ansawdd.

Ail setiau

Yn ystod 2003, fe fu tyfiant yn y nifer o bobl a newidiodd bob set teledu yn eu cartrefi i'r digidol. Prynodd llawer o bobl flychau Freeview ar gyfer setiau teledu yn eu ceginau a'u llofftydd.

Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o gartrefi'n dal heb newid eu holl setiau teledu i'r digidol, sy'n golygu y byddai'r rhan fwyaf o deuluoedd yn gorfod prynu troswr digidol pe digwyddai'r newid i'r digidol yfory.

nesaf nesaf


Back to top Back to top