Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Research and Market Data > Television research > Reports and Research > Digital Switchover > Driving Digital Switchover > Tuag at Newid i'r Digidol > Rhagair


Rhagair

Gofynnwyd i ni yn Ofcom (y Swyddfa Gyfathrebiadau) gan Tessa Jowell, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon, roi adroddiad ar y cynnydd tuag at symud i'r digidol. Symud i'r digidol yw uchelgais y Llywodraeth i ddiffodd y signal teledu traddodiadol y mae cartrefi wedi'i dderbyn drwy gyfrwng erialau teledu ers amryw flynyddoedd a rhoi signal digidol yn ei le. Anfonir y signal hwn hefyd dros donnau'r awyr i erialau teledu, ond bydd yn adeiladu'r llun drwy ddefnyddio miliynau o rifau un a dim.

Gofynnodd Ms Jowell inni:

Fe fydd yr adroddiad hwn o ddiddordeb arbennig i ddefnyddwyr a dinasyddion y DG oherwydd y bydd angen i lawer brynu blychau trosi i wneud yn siwr fod eu setiau teledu a recordyddion fideo yn parhau i weithio. Fe fydd y Llywodraeth, darlledwyr, gwneuthurwyr offer trosi a manwerthwyr yn ymddiddori yn ein 30 o argymhellion polisi, a ddyluniwyd i lyfnhau'r ffordd tuag at newid i'r digidol.

Nid yw ein hadroddiad yn trafod pob mater yn llwyr. Rydym ni wedi crynhoi peth o'r drafodaeth ynglyn â'r newidiadau rheoleiddio posibl oherwydd bydd y manylion yn dibynnu ar ganlyniadau'r negydiadau cyfrinachol rhyngom ni a'r Llywodraeth a chwmnïau preifat. Hefyd nid ydym wedi ceisio mesur y gwelliannau i'r DG a ddaw yn sgil newid i'r digidol gan fod y Llywodraeth eisoes wedi gwneud waith tebyg sy'n dangos y byddai newid i'r digidol yn rhoi hwb aruthrol i economi'r DG. Rydym yn derbyn grym dadansoddiad y Llywodraeth ar yr amod ein bod yn gallu sicrhau y gall y DG wneud defnydd da o'r tonfeddi sbâr ar ôl y newid i'r digidol.

Oddi ar 29 Rhagfyr 2003, ni yw'r rheoleiddiwr newydd ar gyfer teledu, radio, telegyfathrebu a diwydiannau cyfathrebu eraill. Asesu a hybu'r newid i'r digidol fydd un o'n brif dasgau yn 2004.

Rydym ni wedi datblygu'r crynodeb hwn mewn iaith syml i'ch helpu i ddeall y materion. Nid yw'n esboniad ffurfiol na manwl o'n barn. Gallwch weld ein hadroddiad llawn ar www.ofcom.org.uk

nesaf nesaf


Back to top Back to top