Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Research and Market Data > Television research > Reports and Research > Digital Switchover > Driving Digital Switchover > Tuag at Newid i'r Digidol > rhwystrau


Y rhwystrau sy'n wynebu newid i'r digidol os na wneir dim byd

Mae poblogrwydd teledu digidol a pharodrwydd pobl i ymgymryd ag ef wedi bod mor gyflym nes ei bod yn hawdd ddeall pam y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i newid i'r digidol ond nid yw'n gweithredu i roi'r newid ar waith.

Sut bynnag, ein rhag-ddisgwyliad ynghylch teledu digidol yw bod ein dull o weithredu yn ôl y farchnad yn debyg o gyrraedd cyfyngiad naturiol. Fel yr esboniwyd yn yr adran flaenorol, nid yw rhai teuluoedd yn dymuno newid i deledu digidol, nid yw rhai teuluoedd yn dymuno talu am deledu ar gebl neu loeren, ac mae rhagor hyd yn oed o deuluoedd yn dymuno cael Freeview ond yn methu â'i gael yn eu hardal nhw. Ystyr hyn yw bod lefelau uchel o newid i'r digidol yn annhebygol o ddigwydd, gan gynnwys dangosydd fforddadwyedd y Llywodraeth yn 1999 sydd wedi'i osod ar 95 y cant o deuluoedd.

Nodir rhwystrau penodol yn y ffordd isod.

Ymateb y Defnyddwyr

Ar hyn o bryd, mae rhai defnyddwyr heb weld gwerth teledu digidol. Mae'r agwedd yn debyg o newid (er enghraifft, buwyd yn ystyried fod ffôn teithiol yn brin ei hapêl yn y nawdegau cynnar), ond mae arolygon o agweddau defnyddwyr yn dangos fod rhai teuluoedd yn 2003 (5 y cant) wedi dweud eu bod yn barod i fyw heb deledu yn hytrach na newid eu setiau i'r digidol. Mae nifer fwy (tua 15 y cant) yn wfftio'r dewis ehangach a gynigir gan deledu digidol.

Ychydig yn unig sydd ar hyn o bryd yn cefnogi'r polisi o newid i'r digidol yn llwyr.

Ac mae defnyddwyr yn ymddiddori'n llai o lawer mewn newid eu setiau ychwanegol na newid eu prif set deledu.

Cymhellion darlledwyr

Mae'r darlledwyr yn hanfodol bwysig o ran y newid i'r digidol, ond nid yw'n dilyn eu bod â chymhelliant amlwg i helpu i sicrhau'r newid drwy'r DU.

Er y byddai peth o gostau ITV a Channel 4 yn gostwng petaen nhw'n cael rhoi'r gorau i ddarlledu signal digidol ac analog fel ei gilydd, mae'n bosibl y byddai'u hincwm drwy gyfrwng hysbysebiadau'n disgyn am y byddai'r newid i ddigidol yn cynyddu'r nifer o sianeli fyddai ar gael.
Mae gan y BBC hefyd dasg yr un mor anodd o gadw'r ddysgl yn wastad. Byddai'r newid yn lleihau'i chostau darlledu, ond gallai colli gwylwyr leihau cefnogaeth y cyhoedd i'r drwydded.

Teledu digidol gwylio-am-ddim

Fe fydd teledu digidol gwylio-am-ddim (lle na fydd y gwylwyr yn talu tanysgrifiad misol) yn dal i fod yn rhan amlwg o'r farchnad deledu yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, mae chwarter o gartrefi'n methu â'i dderbyn hyd nes y bydd newid i'r digidol yn cychwyn.

Mae BSkyB yn cynnig gosod dysg loeren a blwch pen-teledu am £169 GBP a does gan deledu-am-ddim o loeren mo'r un problemau o ran cyrraedd y gwylwyr ag sy gan Freeview. Fodd bynnag, nid yw'r gwylwyr ar hyn o bryd yn gallu derbyn y prif sianeli - BBC1, BBC2, ITV, Channel 4, S4C a Channel Five - o loeren heb dalu tanysgrifiad misol.

Materion amseru

Nid yw'r Llywodraeth wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer newid i'r digidol eto, felly mae amseru'r newid yn amhendant. Heb amserlen fwy pendant, bydd darlledwyr, cwmnïau trosglwyddo, gwneuthurwyr a defnyddwyr yn llai parod i fuddsoddi yn y cyfarpar angenrheidiol ar gyfer y newid.

Gweithredu newid i'r digidol

Am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae amryw o'r bobl a'r grwpiau sydd â diddordeb yn y newid i'r digidol wedi bod yn cwrdd yn gyson i drafod Cynllun Gweithredu Newid i'r Digidol. Mae wedi bod yn dra llwyddiannus o ran nodi'r camau angenrheidiol ar gyfer y newid. Ond wrth i'r DG symud o gynllunio i weithredu bydd angen cydlynu a rheolaeth egnïol i gwblhau'r broses yn effeithlon.

Os na chaiff y broses ei rheoli'n effeithlon, y perygl yw na fyddai'r newid yn digwydd neu y byddai llawer iawn o ymyrraeth ddiangen yn digwydd ynglyn â'r broses.

Cytundebau rhyngwladol

Bydd llawer o'r buddiannau ehangach o newid i'r digidol yn dilyn yn unig os gellir ail-ddefnyddio'r sbectrwm ar ôl diffodd y signal analog. Byddwn yn cynrychioli'r DG mewn cynadleddau rhyngwladol pwysig fydd yn penderfynu sut y gellir defnyddio'r sbectrwm fydd wedi'i ryddhau. Nid yw'r materion rhyngwladol hyn yn cynrychioli rhwystr penodol i newid i'r digidol, ond fe danseilid y syniad y tu ôl i'r newid os na allwn warantu defnydd hyblyg o'r sbectrwm gan y DG yn y cynadleddau sydd i ddod.

nesaf nesaf


Back to top Back to top