- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > TV > Ofcom PSB Review > Digital Local > Crynodeb Gweithredol
Crynodeb Gweithredol
Crynodeb Gweithredol
Cefndir ac amcanion
- Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys canfyddiadau rhaglen o ymchwil a dadansoddi i ragolygon y dyfodol ar gyfer gwasanaethau cynnwys fideo lleol digidol a gwasanaethau rhyngweithiol, a gynhaliwyd gan Ofcom rhwng Mehefin-Rhagfyr 2005.
- Mae’r ddarpariaeth newyddion, gwybodaeth a chynnwys adloniant ar lefel leol yn farchnad sydd wedi bodoli yn y DG ers cyhoeddi’r papurau newydd cyntaf yn yr 17eg ganrif. Mae radio wedi gwneud cyfraniad cryf dros oddeutu’r 40 mlynedd diwethaf. Yn fwy diweddar, mae twf llwyfannau cynnwys digidol wedi creu symbyliad newydd y tu ôl i ddatblygu cynnwys fideo a gwasanaethau rhyngweithiol wedi’u targedu at gymunedau daearyddol penodol. Mae potensial yn y gwasanaethau hyn i greu buddion sylweddol i ddinasyddion a defnyddwyr.
- Mae cylch gwaith Ofcom yn y maes hwn yn ddeublyg. Yn gyntaf, wrth gyflawni ein dyletswyddau mae gofyniad arnom i ystyried dymunoldeb hyrwyddo cyflawni dibenion darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB). Yn ein hadolygiad statudol cyntaf o PSB a gynhaliwyd yn 2004-05, nodwyd teledu lleol gennym fel elfen bwysig botensial o gymysgedd PSB yn y dyfodol, yn gwasanaethu anghenion cynulleidfaoedd nad oedd yn cael eu bodloni’n llawn gan y gymysgedd bresennol o ddarlledu cenedlaethol a rhanbarthol. Fodd bynnag, cydnabuwyd gennym hefyd nad oedd hyfywedd economaidd gwasanaethau lleol wedi’i sefydlu, ac nad oedd galw cynulleidfaoedd amdanynt wedi’u hasesu’n ddigonol. Gwnaethom ymrwymiad i wneud mwy o waith ar y rhagolygon ar gyfer gwasanaethau cynnwys lleol digidol fel rhan o’n dilyniant i’r adolygiad.
- Yn ail, ac yn fwy penodol, os yw’n ofynnol cael cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer gwasanaethau teledu lleol digidol, cyfrifoldeb Ofcom fyddai datblygu a gweithredu’r gyfundrefn honno, gan ddilyn gorchymyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae’n ddyletswydd arnom felly i ddeall marchnad debygol y dyfodol ar gyfer gwasanaethau lleol digidol a hyfywedd modelau gwahanol, er mwyn dylanwadu ar gynllunio unrhyw gyfundrefn felly.
- Cychwyn â llechen lân fu ein hymagwedd. Mae ymddangosiad technolegau digidol marchnadoedd torfol yn agor cyfleoedd newydd i ddarparu gwasanaethau a fyddai wedi bod yn dechnegol amhosibl gyn lleied â deng mlynedd yn ôl. Yr angen yw deall yr hyn y gallai cynnwys lleol a gwasanaethau rhyngweithiol fod yn y dyfodol, yn hytrach na’r hyn ydynt nawr, neu'r hyn a fuont yn y gorffennol.
- Mae ymchwil yn awgrymu bod gwasanaethau lleol yn dal i fod o bwys i bobl, er gwaethaf newidiadau technolegol, cymdeithasol a diwylliannol yn yr 20 mlynedd diwethaf y gellid fod wedi disgwyl iddynt leihau ein hymlyniad wrth leoldeb. Gallai cynnwys lleol digidol esgor ar amrywiaeth o fuddion yn y dyfodol, gan gynnwys newyddion lleol mwy perthnasol, mynediad gwell i wasanaethau lleol, gwybodaeth a chyngor gwell i ddefnyddwyr, cysylltiad cryfach â materion cymunedol, cyfranogaeth ddemocratig well, mwy o allu i unigolion a sefydliadau lleol i wneud a dosbarthu’u cynnwys eu hunain, cymorth ar gyfer cynhyrchu a hyfforddi’n lleol, a mynediad hysbysebwyr i farchnadoedd lleol.
- Rydym mewn cyfnod cynnar o gyfnod arbrofi â gwasanaethau cynnwys lleol digidol yn y DG. Mae ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys grwpiau cyfryngau lleol a chenedlaethol, sefydliadau cymunedol, darlledwyr cenedlaethol, awdurdodau lleol ac asiantaethau datblygu rhanbarthol (RDA) yn archwilio’r potensial i dechnolegau digidol gyflwyno gwasanaethau cynnwys gwell i gymunedau, yn amrywio o’r bach iawn (ychydig o filoedd o gartrefi) i gymharol fawr (ardaloedd metropolitan â phoblogaeth o filiwn neu fwy).
- Wrth i dechnolegau digidol gael eu rhoi ar waith fesul cam, bydd gwasanaethau newydd pellach yn dod yn bosibl. Bydd band eang, â’i allu rhyngweithiol grymus ac ar-gais, yn arbennig o bwysig. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o wasanaethau band eang ar gael drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiadau eraill a alluogir gan y we, ac mae llawer o weithredwyr lleol – gan gynnwys ITV a’r BBC – eisoes yn cymryd yr ymagwedd hon; ond mae argaeledd ar draws y DG gwasanaethau a gyflwynir drwy brotocol y rhyngrwyd i setiau teledu o fewn y flwyddyn neu ddwy nesaf yn cynnig cyfleoedd newydd sylweddol i’r dyfodol.
- Croesawn y datblygiad newydd hwn a’r amrywiaeth, a hoffwn weld arbrofi’n parhau, gyda gwasanaethau gwahanol yn cael eu cynllunio i fodloni anghenion cymunedau gwahanol a’r rhai newydd i’r farchnad yn mabwysiadu ymagweddau newydd.
Opsiynau ar gyfer polisi cyhoeddus
- Nid ydym ar hyn o bryd yn awgrymu bod unrhyw bolisi penodol neu ymyriad rheoleiddiol yn ofynnol, neu fod cyfiawnhad drosto, yn y farchnad ddatblygol hon. Ein prif amcan fan hyn yw cyfrannu ymchwil a dadansoddi i helpu dylanwadu ar y ddadl ehangach ynghylch dyfodol gwasanaethau cynnwys lleol, yn hytrach na nodi cynigion polisi newydd neu fentrau rheoleiddiol, y byddai gofyn ymgynghori yn eu cylch.
- Fodd bynnag, mae ein dadansoddiad yn ymhlygu ei bod yn bosibl bod achos dros fuddsoddiad cyhoeddus i gefnogi cyflwyno gwasanaethau lleol sy’n bodloni dibenion cyhoeddus, er ei bod yn anodd meintoli buddion tebygol gwasanaethau cynnwys lleol digidol yn y cyfnod cynnar hwn. Cynigiwn bum diben cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau cynnwys lleol, yn seiliedig ar fersiwn o ddibenion ehangach darlledu gwasanaeth cyhoeddus a nodwyd yn yr Adolygiad PSB, a addaswyd ar gyfer cynnwys lleol.
Dibenion cyhoeddus cynnwys lleol digidol a gwasanaethau rhyngweithiol
|
- Mae ein modelu economaidd yn dangos y gallai gwasanaethau lleol a ariennir yn fasnachol fod yn gynaliadwy mewn amgylchedd digidol, gan ddefnyddio’r holl lwyfannau dosbarthu mawr i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith i’r eithaf. Fodd bynnag, mewn ardaloedd metropolitan mwy yn unig y mae gwasanaethau masnachol yn debygol o fod yn ddichonadwy, ac mae’n debygol mai cyfyng fydd eu posibiliadau ar gyfer comisiynu cynnwys gwreiddiol lleol o ansawdd uchel a allai helpu bodloni’r dibenion cyhoeddus hyn. Mae gwasanaethau eraill yn debygol o ddibynnu i raddau mwy neu lai ar gymorth gan asiantaethau cyhoeddus neu sefydliadau cymunedol.
- Gall fod achos prima facie, felly, dros archwilio ffyrdd i gefnogi datblygu gwasanaethau cynnwys lleol sy’n helpu bodloni dibenion cyhoeddus. Mae dau opsiwn bras y credwn sy’n haeddu ystyriaeth bellach. Noder y byddai’n ofynnol gwneud dadansoddiad pellach o gost a budd yr opsiynau hyn cyn gallu canlyn unrhyw bolisïau ar sail genedlaethol, a byddai angen asesu’n ofalus hefyd effaith yr opsiynau hyn ar farchnadoedd presennol y wasg leol, radio a marchnadoedd ar-lein.
- Pe bai’r achos dros gefnogi gwasanaethau lleol yn cael ei sefydlu, un opsiwn fyddai gofyn i’r BBC ddatblygu gwasanaethau lleol sy’n bodloni dibenion cyhoeddus. Mae’r BBC eisoes wedi dangos ei barodrwydd i gymryd y rôl hon, ac mae wedi datblygu’i gynigion ei hun, ac mae prosiect peilot eisoes ar waith. Bydd angen i’r cynigion hyn gael eu hadolygu gan y prawf gwerth cyhoeddus a’r asesiad effaith ar y farchnad a gynigiwyd fel rhan o drefniadau llywodraethu’r BBC ar ôl yr Adolygiad Siarter, ond er gwaethaf canlyniadau’r adolygiadau hynny, mae rôl y BBC wrth gyflwyno cynnwys lleol yn debygol o fod yn un allweddol. Mae ganddo isadeiledd heb ei ail ar gyfer casglu newyddion lleol, ynghyd â brand cryf yr ymddiriedir ynddo i helpu ei wasanaethau lleol gyflawni cyrhaeddiad ac effaith.
- Ar y llaw arall, gallai cynlluniau lleol y BBC rhwystro neu wthio ymaith darparwyr potensial eraill cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, gan adael y BBC fel yr unig ymyriad yn y farchnad cynnwys lleol. Mae perygl y gallai hyn fygu’r arloesed sy’n dechrau digwydd, a gall fod na fydd cynlluniau’r BBC yn ddigonol i gyflawni holl fuddion cyhoeddus potensial cynnwys lleol digidol.
- Yr ail opsiwn yw archwilio ffyrdd o gefnogi datblygu ystod o wasanaethau eraill, yn cael eu darparu gan ddarparwyr masnachol a chymunedol, naill ai i gyflenwi gwasanaethau’r BBC neu yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â nhw. Y nod fyddai creu hyblygrwydd ar gyfer darparwyr lleol i ddatblygu gwasanaethau wedi’u teilwra i fodloni anghenion penodol cymunedau gwahanol, o fewn strategaeth gyffredinol i fodloni dibenion cyhoeddus yn y modd mwyaf priodol a chost effeithiol ym mhob ardal.
- Gallai ffyrdd o gefnogi datblygu gwasanaethau eraill gynnwys:
- Cyfyngu cysylltiad y BBC er mwyn rhoi’r cyfle mwyaf posibl i ddarparwyr masnachol a chymunedol eraill;
- Ailddyrannu rhywfaint o’r arian cyhoeddus sydd wedi’i glustnodi i’r BBC ar gyfer ei wasanaethau lleol i ddarparwyr eraill, trwy gronfa y gellir cystadlu amdani o bosibl;
- Gofyn i’r BBC ddatblygu partneriaethau, er enghraifft, gwneud cynnwys a hyfforddiant ar gael i ddarparwyr annibynnol, neu gomisiynu a dosbarthu mwy o gynnwys a gwasanaethau gan ddarparwyr annibynnol;
- Darparu cyllid canolog ar gyfer gwasanaethau sy’n bodloni dibenion cyhoeddus, er enghraifft, trwy Gronfa Cyfryngau Cymunedol neu Gyhoeddwr Gwasanaethau Cyhoeddus;
- Cyllid lleol, gan awdurdodau lleol, asiantaethau datblygu rhanbarthol neu gyrff datblygu cenedlaethol yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon;
- Cynnig buddion trwydded i weithredwyr cymwys, fel ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr cebl fod yn gyfrifol am wasanaethau trwyddedig, neu sicrhau amlygrwydd dyledus ar ganllawiau rhaglenni electronig;
- Darparu mynediad wedi’i gynllunio i sbectrwm ar gyfer gwasanaethau daearol digidol.
Rôl Ofcom wrth reoli sbectrwm
- Y Llywodraeth, ac nid Ofcom, sydd i ystyried llawer o’r opsiynau hyn ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, mae gan Ofcom ddyletswydd statudol benodol i sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r sbectrwm radio, sy’n cynnwys ystyried pa un a ddylai sbectrwm, a sut y dylai, fod ar gael ar gyfer gwasanaethau teledu daearol digidol (DTT). Er bod ein dadansoddiad yn awgrymu y gall gwasanaethau lleol digidol wneud cyfraniad at ddibenion cyhoeddus, nid yw hyn yn awtomatig yn sicrhau mai dyna fyddai eu defnydd gorau posibl ar gyfer sbectrwm. Mae sbectrwm, a bydd yn parhau, yn adnodd cymharol brin, hyd yn oed ar ôl y newid i’r digidol, ac mae ystod o ddefnyddiau amgen ar gyfer y meysydd sbectrwm sydd wedi’u nodi fel rhai priodol ar gyfer gwasanaethau darlledu teledu lleol.
- Megis dechrau yn unig y mae’r broses o nodi’r modd y dylid dyfarnu’r sbectrwm a ryddheir gan y newid i’r digidol. Yn ddiweddar, lansiodd Ofcom ei Adolygiad o’r Difidend Digidol, sef prosiect mawr i archwilio’r ystod llawn o opsiynau sy’n codi o ryddhau sbectrwm yn sgil y rhaglen newid i’r digidol, a fyddwn yn cynnal dros y flwyddyn nesaf. Mae angen i’r gwaith hwn gael ei gwblhau cyn y gallwn ddod i farn derfynol ar yr opsiynau amrywiol ar gyfer cyflwyno cynnwys lleol ar deledu daearol digidol.
- Byddwn felly’n asesu unrhyw sail botensial ar gyfer ymyrryd mewn dyrannu sbectrwm fel rhan o’r gwaith sydd i’w wneud dan nawdd yr Adolygiad o’r Difidend Digidol. Pe bai unrhyw sbectrwm i’w gadw ar gyfer gwasanaethau lleol, o ganlyniad i ymyriad mewn dyrannu sbectrwm, mae’n debygol y byddai’n ofynnol cael cyfundrefn drwyddedu un pwrpas, gyda’r Llywodraeth yn rhoi gorchymyn dan adran 244 Deddf Cyfathrebiadau 2003.
- Ni waeth beth yw canlyniad yr asesiad hwn, byddwn yn ceisio sicrhau y bydd o leiaf rhywfaint o’r sbectrwm sydd ar gael ar ôl y newid i’r digidol yn cael ei arwerthu mewn modd nad yw’n atal gweithredwyr lleol annibynnol yn ormodol, neu’n peri anfantais iddynt, rhag cyfranogi yn yr arwerthiant hwnnw.
- Er nad oes parhad awtomatig ar gyfer gwasanaethau analog presennol i’r amgylchedd digidol, rydym yn cydnabod bod y raddfa amser ar gyfer y gwaith cyfredol hwn yn creu ansicrwydd parhaus i’r busnesau gweithredol hynny sy’n darlledu mewn analog gan ddefnyddio Trwyddedau Gwasanaeth Cyfyngedig (RSL). Byddwn felly’n cynnig i ddeiliaid RSL lleol presennol yr hawl i ymestyn eu trwyddedau nes cychwyn y newid i’r digidol yn eu rhanbarth. Dylai hyn roi digon o amser iddynt gynllunio ar gyfer y dyfodol ar ôl iddynt gael mwy o wybodaeth ynghylch a ellir cadw unrhyw sbectrwm ar gyfer gwasanaethau lleol, ac ar ba delerau, a ddylai fod ar gael erbyn diwedd 2006.
Y camau nesaf
- Bydd Ofcom yn dwyn yn ei flaen ei asesiad o’r rhagolygon a’r rôl botensial ar gyfer gwasanaethau cynnwys lleol a gwasanaethau rhyngweithiol, yn ein gwaith parhaus ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac yn yr Adolygiad o’r Difidend Digidol. Byddwn yn cynnig y cyfle i RSL i ymestyn eu trwyddedau ar unwaith, a byddwn yn parhau i drafod â nhw, a rhan-ddeiliaid eraill, yr opsiynau ar gyfer y dyfodol.
- I helpu dylanwadu ar y ddadl ehangach ynghylch dyfodol gwasanaethau cynnwys lleol digidol, bwriadwn hefyd gomisiynu ymchwil bellach i effaith gwasanaethau lleol presennol ac agweddau gwylwyr tuag at y gwasanaethau hynny.
- Ar yr un pryd, mae’r BBC, ITV ac eraill yn arbrofi gydag ymagweddau newydd, a fydd yn darparu cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol. Gall y Llywodraeth hefyd ddymuno ystyried pa un a ddylid creu dosbarth trwydded newydd, a sut, o wasanaethau lleol yn darlledu ar ffurf ddigidol trwy amlblecs teledu, gan ddefnyddio’r pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Cyfathrebiadau 2003.
- Gan gymryd y datblygiadau hyn ynghyd, awgrymwn y byddai rhaglen waith bosibl ar wasanaethau cynnwys lleol dros y ddwy flynedd nesaf, i ni ac i eraill, fel a ganlyn:
- Ofcom yn cynnig cyfle i ymestyn trwyddedau i ddeiliaid presennol RSL lleol: yn gynnar yn 2006
- Ofcom yn gwneud ymchwil bellach i ganfyddiadau cynulleidfaoedd a’u defnydd o wasanaethau cynnwys lleol presennol: Ionawr – Mehefin 2006
- Y BBC yn cynnal cynllun peilot Gorllewin Canolbarth Lloegr: Rhagfyr 2005 – Awst 2006
- Prawf gwerth cyhoeddus ac asesiad o effaith ar y farchnad o gynigion y BBC: Awst-Hydref 2006
- Ofcom yn cynnal Arolwg o’r Difidend Digidol ac yn cynghori ar argaeledd sbectrwm i wasanaethau lleol: Ionawr-Rhagfyr 2006
- Y Llywodraeth yn asesu opsiynau polisi ac yn ystyried pa un i gefnogi gwasanaethau lleol, a sut, ar yr holl lwyfannau digidol: Hydref-Rhagfyr 2006
- Mae nifer o atebion llwyfannau posibl i wasanaethau lleol. Un ateb posibl fyddai i’r llywodraeth sefydlu cyfundrefn drwyddedu teledu lleol ar gyfer teledu daearol digidol. Os dyma yw’r ateb sydd orau ganddi, yna byddai’n ofynnol cymryd nifer o gamau pellach. Awgrymwn y gallai un amserlen bosibl fod fel a ganlyn:
- Y Llywodraeth yn pennu pa un i roi gorchymyn ar gyfer cyfundrefn drwyddedu teledu lleol ar gyfer gwasanaethau daearol digidol: Hydref-Rhagfyr 2006
- Os yw’n ofynnol, y Llywodraeth yn ymgynghori ar y gorchymyn am gyfundrefn drwyddedu teledu lleol: yn gynnar yn 2007
- Os yw’n ofynnol, Ofcom yn datblygu cyfundrefn drwyddedu a phroses dyrannu sbectrwm ar gyfer gwasanaethau daearol digidol lleol, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus: hanner cyntaf 2007
- Os yw’n ofynnol, y trwyddedau lleol teledu daearol digidol cyntaf yn cael eu hysbysebu a’u dyfarnu mewn ardaloedd dethol: ail hanner 2007
- Y tu allan i gyd-destunau penodol gweithgarwch y BBC a thrwyddedau ar deledu daearol digidol, rhagwelwn y bydd datblygu gwasanaethau cynnwys lleol yn parhau’n gryf gydol y cyfnod hwn a thu hwnt.
Back to top