Adolygiad amlygrwydd ar gyfer darlledu gwasanethau cyhoeddus

  • Dechrau: 25 Gorffennaf 2018
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 05 Hydref 2018

Diweddariad a gyhoeddwyd 4 Gorffennaf  2019

Argymhellion i'r Llywodraeth Brydeinig ar gyfer fframwaith newydd i gadw Teledu Gwasanaethau Cyhoeddus yn amlwg mewn byd ar-lein  

Yn ein hymgynghoriad yng Ngorffennaf 2018, fe wnaethon ni holi os oedd angen deddfwriaeth newydd ar gyfer darlledu gwasanaethau cyhoeddus (PBS) i barhau'n hawdd i'w ganfod wrth i wylwyr wylio cynnwys yn gynyddol ar-lein. Wedi derbyn safbwyntiau wrth ddarlledwyr a rhanddeiliaid eraill, rydyn ni nawr yn cyflwyno ein hargymhellion i'r Llywodraeth am fframwaith newydd fydd yn sicrhau bod cynnwys PSB yn hawdd i wylwyr i'w darganfod mewn byd ar-lein.

Datganiad am newidiadau i'r cod EPG 

Mae amlygrwydd sianelau traddodiadol, llinol PSB o fewn cyfeiriadau rhaglenni electronig (EPGs) wedi eu hamddiffyn gan reolau a gyflwynwyd yng Nghod EPG Ofcom. Fe wnaeth y Ddeddf Economi Ddigidol 2017 gyflwyno dyletswydd newydd i Ofcom i adolygu'r Cod EPG erbyn Rhagfyr 2020. Mae'r datganiad hwn yn cloi ein hadolygiad o'r darpariaethau amlygrwydd yn y Cod EPG.

Rydyn ni'n diwygio'r Cod EPG i sicrhau bod y prif sianelau PSB (BBC1, BBC2, gwasanaethau Channel 3, Channel 4 a Channel 5), yn parhau'n hawdd i'w darganfod. Rydyn ni hefyd yn gosod lefelau isafswm ar gyfer gwasanaethau PSB a Theledu Lleol eraill. Bydd hyn yn sicrhau bod gwylwyr yn parhau i ddod o hyd i sianelau PSB yn hawdd ac yn gwneud rhai gwasanaethau PSB yn haws i'w darganfod.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Arqiva (PDF File, 337.0 KB) Sefydliad
BBC (PDF File, 488.1 KB) Sefydliad
BBC additional information (PDF File, 208.6 KB) Sefydliad
BBC Four additional information (PDF File, 230.3 KB) Sefydliad
BT (PDF File, 199.5 KB) Sefydliad