Ymgynghoriad: arweiniad i ddarparwyr VSP ar fesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol

  • Start: 24 March 2021
  • Status: Open
  • End: 02 June 2021

Ers 1 Tachwedd 2020, mae'n rhaid i VSPs a sefydlir yn y DU gydymffurfio â rheolau newydd ynghylch diogelu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol.

Prif ddiben y drefn reoleiddio newydd yw diogelu defnyddwyr sy'n ymwneud â VSPs rhag y risg o weld cynnwys niweidiol. Mae'n rhaid i ddarparwyr roi mesurau priodol ar waith i ddiogelu pobl ifanc dan 18 oed rhag deunydd a allai amharu ar eu datblygiad corfforol, meddyliol neu foesol; a diogelu'r cyhoedd rhag cynnwys troseddol a deunydd sy'n debygol o ysgogi trais neu gasineb. Bydd angen i wasanaethau hefyd sicrhau bod safonau ynghylch hysbysebu yn cael eu bodloni.

Mae'r fframwaith statudol yn nodi rhestr o fesurau y mae'n rhaid i ddarparwyr ystyried eu gweithredu, fel y bo'n briodol, i sicrhau'r diogeliadau gofynnol.

Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft i ddarparwyr ar y gofynion rheoleiddio. Mae hyn yn cwmpasu'r mesurau y gall darparwyr eu defnyddio i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol a sut y gellir gweithredu'r rhain yn effeithiol. Mae'r canllawiau drafft hefyd yn ystyried y diffiniadau o ddeunydd niweidiol a'r mathau o gynnwys sy'n debygol o gael eu dal. Nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â gofynion sy'n benodol i hysbysebu.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi gwybodaeth ychwanegol am y canllawiau drafft, gan gynnwys y dystiolaeth rydym wedi dibynnu arni i gefnogi'r arweiniad, a rhywfaint o'r ymchwil y mae Ofcom wedi'i chynnal a'i chomisiynu. Mae adroddiadau ymchwil llawn i'w gweld isod.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
1account (PDF File, 169.6 KB) Sefydliad
5Rights Foundation (PDF File, 296.4 KB) Sefydliad
Age Check Certification Scheme (PDF File, 151.2 KB) Sefydliad
Age Verification Providers Association (PDF File, 187.4 KB) Sefydliad
Antisemitism Policy Trust (PDF File, 124.2 KB) Sefydliad