Datganiad: Adolygiad o'r Farchnad Terfynu Galwadau Symudol 2018-2021

  • Dechrau: 27 Mehefin 2017
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 05 Medi 2017

Datganiad cyhoeddwyd 28 Mawrth 2018

Gwasanaeth cyfanwerthol y mae darparwr gwasanaeth ffôn symudol yn ei gynnig i gysylltu cwsmer (h.y. derbynnydd galwadau) ar ei rwydwaith yw gwasanaeth terfynu galwadau symudol. Pan fydd darparwyr sefydlog neu symudol yn galluogi eu cwsmeriaid i ffonio rhif ffôn symudol yn y DU, maent yn talu ffi gyfanwerthol i’r darparwr symudol sy’n terfynu'r alwad. Cyfradd terfynu symudol yw'r enw a roddir ar y ffi hon. Mae cyfraddau terfynu symudol yn cael eu gosod fesul munud, ac maent yn cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd.

Gwnaethom gyhoeddi dogfen ymgynghori ar 27 Mehefin 2017 yn amlinellu ein cynigion ar gyfer rheoleiddio marchnadoedd terfynu galwadau symudol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2021. Dilynwyd hon gan ymgynghoriad pellach ar 17 Tachwedd 2017 (a dogfen ategol ar 24 Ionawr 2018) a oedd yn cynnwys rhestr wedi’i diweddaru o ddarparwyr roeddem wedi'u nodi dros dro fel rhai â phŵer sylweddol yn y farchnad. Rydym wedi ystyried pwyntiau a godwyd gan randdeiliaid mewn ymateb i'n hymgynghoriadau, a gwybodaeth rydym wedi’i chasglu ers yr ymgynghoriadau. Yn y ddogfen hon rydym yn egluro ein penderfyniad ynghylch sut y byddwn yn rheoleiddio'r gwasanaeth terfynu galwadau symudol y bydd pob darparwr gwasanaeth symudol sy'n weithredol yn y marchnadoedd perthnasol yn ei gynnig.

Ar y 23 Chwefror 2018, fe wnaethon ni wneud ein mesurau arfaethedig yn hysbys gan gyflwyno datganiad drafft esboniadol yn cyflwyno ein rhesymau amdanynt i’r Comisiwn Ewropeaidd, BEREC ac Awdurdodau Rheoleiddiol Cenedlaethol eraill, gan gyhoeddi’r datganiad ar wefan Ofcom. Yn ei lythyr penderfyniad ar 23 Mawrth 2018, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei fod wedi archwilio’r hysbysiad ac nid oedd ganddo sylwadau.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
AT&T (PDF File, 156.7 KB) Sefydliad
BT / EE (PDF File, 849.6 KB) Sefydliad
Colt Technology Services (PDF File, 27.3 KB) Sefydliad
Core Telecom Ltd (PDF File, 481.1 KB) Sefydliad
Manx Telecom Trading Limited (PDF File, 293.5 KB) Sefydliad