Datganiad: Gwasanaethau rhaglenni ar-alw – pwy sydd angen hysbysu Ofcom

  • Dechrau: 31 Mawrth 2021
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 26 Mai 2021

Datganiad wedi'i gyhoeddi 8 Medi 2021

Ar 1 Tachwedd 2020 daeth rheoliadau newydd sy'n berthnasol i wasanaethau rhaglenni ar-alw ("ODPS") a sefydlir yn y DU i rym. Bu i'r rheolau newydd hyn ddiwygio'r meini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu a fyddai gwasanaeth yn cymhwyso fel ODPS ac felly'n dod o fewn cwmpas y fframwaith rheoleiddio. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ddarparwyr ODPS yn y DU gyflwyno hysbysiad ffurfiol o'u gwasanaeth i Ofcom ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion statudol a fwriedir i atal deunydd niweidiol a mathau penodol o hysbysebu a nawdd rhag cael eu cynnwys. Ceir rhagor o wybodaeth am gefndir a chyd-destun deddfwriaethol y rheoliadau ar eu newydd wedd yn y canllawiau a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiad hwn.

Mae'n rhaid i ddarparwyr wneud eu hasesiad eu hunain o p'un a yw eu gwasanaeth yn bodloni'r meini prawf statudol ai beidio, a fyddai'n golygu y dylid hysbysu Ofcom amdanynt. Bwriedir i'r arweiniad Gwasanaethau rhaglenni ar-alw: pwy sydd angen hysbysu Ofcom? ("yr arweiniad terfynol"), a gyhoeddir ochr yn ochr â'r datganiad hwn helpu darparwyr i ddeall a ydynt yn dod o fewn cwmpas y diffiniad o ODPS at ddibenion Deddf Cyfathrebiadau 2003 ("y Ddeddf”).

Os yw'n ymddangos i Ofcom fod gwasanaeth yn bodloni'r meini prawf statudol ond nad yw wedi ein hysbysu ni, mae gennym bwerau statudol i ofyn am wybodaeth er mwyn gwneud asesiad, ac i gymryd camau gorfodi os yw darparwr wedi methu â hysbysu. Gall hyn gynnwys cosb ariannol a chyfarwyddo'r darparwr i hysbysu.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
News UK (PDF File, 156.0 KB) Sefydliad
Radiocentre (PDF File, 75.1 KB) Sefydliad
Virgin Media (PDF File, 593.3 KB) Sefydliad