Datganiad: Clirio gwneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig oddi ar y band 700 MHz

  • Dechrau: 20 Ebrill 2017
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 13 Gorffennaf 2017

Ym mis Hydref 2016 roedden ni wedi cyhoeddi ein penderfyniad ynglŷn â rheoli sbectrwm, sef i weithio tuag at gyflymu’r rhaglen i glirio'r band 700 MHz a rhyddhau’r sbectrwm i'w ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau symudol ym mis Mai 2020 yn hytrach nag ym mis Medi 2021, sef 18 mis yn gynharach na’r disgwyl. O ganlyniad, rydyn ni wedi rhoi hysbysiad i ddefnyddwyr gwneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig (PMSE) na fyddant yn cael mynediad at sbectrwm yn y band 700 MHz o 1 Mai 2020 ymlaen.

Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu ariannu cynllun grantiau i gefnogi perchnogion offer PMSE sy’n gorfod gadael y band 700 MHz yn gynharach na’r disgwyl. Rydyn ni wedi cytuno â’r Llywodraeth i ddylunio a rhedeg cynllun grantiau i ddosbarthu'r arian. Yn Awst 2018, fe wnaethon ni gyhoeddi datganiad yn nodi ein penderfyniadau ar lefel y cyllid y gallai perchnogion offer PMSE dderbyn a'r meini prawf ar gyfer y cynllun.

Ar yr un pryd fe wnaethon ni ddweud y byddai'n addas i randdeiliaid dderbyn arian i helpu cyfrannu at gostau ychwanegol a wynebir gan berchnogion offer fydd yn cymryd rhan yn y cyllun. Fe wnaethon ni holi am fewnbwn rhanddeiliaid ar ein cais i osod cost ychwanegol o 5% i'r taliad mae'r cyfranwr yn derbyn o'r cynllun ariannu i helpu rhanddeiliaid i dalu'r costau yma. Mae'r datganiad hwn sydd ar gael yn Saesneg yn unig yn nodi ein penderfyniad ar y cyllid ychwanegol sydd ar gael i berchnogion offer sy'n gymwys.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Response to 2017 consultation: Autograph Sound Recording Ltd (PDF File, 516.1 KB) Sefydliad
Response to 2017 consultation: BBC (PDF File, 219.2 KB) Sefydliad
Response to 2017 consultation: BEIRG (PDF File, 250.6 KB) Sefydliad
Response to 2017 consultation: Better Sound Ltd (PDF File, 19.1 KB) Sefydliad
Response to 2017 consultation: City Varieties Music Hall (PDF File, 110.9 KB) Sefydliad