Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Ymgynghoriad: Gwella darpariaeth symudol - Cynigion ar gyfer rhwymedigaethau darpariaeth wrth ddyfarnu’r band sbectrwm 700MHz

  • Dechrau: 09 Mawrth 2018
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 04 Mai 2018

Mae gan Ofcom ddyletswydd i sicrhau bod gwasanaethau cyfathrebu ar gael yn eang i ddinasyddion a defnyddwyr.  Ar hyn o bryd, nid yw lefel y ddarpariaeth symudol yn diwallu anghenion defnyddwyr.  Dangosodd ein hadroddiad diweddar, Cysylltu'r Gwledydd 2017, bod y ddarpariaeth symudol yn arbennig o wael mewn ardaloedd gwledig ac yn rhai o’r Gwledydd.

Ofcom has a duty to ensure the wide availability of communications services to citizens and consumers. Current levels of mobile coverage are not meeting consumers’ needs, and our recent Connected Nations 2017 report showed that mobile coverage is particularly poor in rural areas, including in the Nations.

Mae'r band sbectrwm 700 MHz yn ddarn gwerthfawr o sbectrwm sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer Teledu Daearol Digidiol (ac ar gyfer Cynhyrchu Rhaglenni a defnydd Digwyddiadau Arbennig) ar hyn o bryd.  Rydym yn bwriadu ei ddyfarnu i wasanaethau symudol yn ail hanner 2019. Mae nodweddion technegol y band 700 MHz yn golygu ei fod yn addas ar gyfer gwella darpariaeth symudol.

Er mwyn sicrhau gwelliannau ar raddfa eang yng nghyswllt darpariaeth symudol ar draws y DU, rydym yn bwriadu ychwanegu rhwymedigaethau darpariaeth at rai o'r trwyddedau y byddwn yn eu dyfarnu ar gyfer y band 700 MHz.  Bydd y rhwymedigaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflwyno darpariaeth symudol well mewn ardaloedd gwledig ac yn y gwledydd. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar ein cynigion ar gyfer y rhwymedigaethau darpariaeth hyn.

O gofio maint y broblem, ni fydd y cynigion yn gallu datrys yr holl broblemau gyda darpariaeth symudol y mae defnyddwyr yn eu hwynebu heddiw. Felly mae ein cynigion yn rhan bwysig o ddarn o waith ehangach sydd â'r nod o wella darpariaeth symudol yn y DU.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Advisory Committee for Wales (PDF File, 61.2 KB) Sefydliad
BBC (PDF File, 526.0 KB) Sefydliad
Communications Consumer Panel - Advisory Comittee for Older and Disabled People (PDF File, 245.0 KB) Sefydliad
Country Land and Business Association (PDF File, 693.7 KB) Sefydliad
Countryside Alliance (PDF File, 439.7 KB) Sefydliad