Datganiad: Llinellau Busnes BBC Studios

  • Dechrau: 09 Hydref 2020
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 04 Rhagfyr 2020

Datganiad wedi'i gyhoeddi 30 Ebrill 2021

Mae'r BBC yn ymgymryd â gweithgareddau masnachol i gynhyrchu elw, a all gael ei ail-fuddsoddi mewn rhaglenni a gwasanaethau'r BBC ac ategu incwm o'r ffi trwydded. Mae angen i'r gweithgareddau hyn ymaddasu i'r amgylchedd newidiol ac ymateb i gyfleoedd wrth iddynt godi. Ein rôl fel rheoleiddiwr yw sicrhau nad yw'r berthynas rhwng y rhan o Wasanaeth Cyhoeddus y BBC a ariennir gan y ffi trwydded â'r gweithgareddau masnachol yn aflunio'r farchnad nac yn creu anfantais cystadleuol annheg. Gan hynny, rydym wedi gosod nifer o ofynion masnachu a gwahanu ar y BBC (y gofynion) i ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol. Rydym yn cefnogi'r angen i'r BBC arloesi, tyfu a newid cyn belled ag y gwneir hyn mewn ffordd deg.

Mae BBC Studios yn cynhyrchu ac yn dosbarthu cynnwys, yn berchen ar ac yn gweithredu sianeli (e.e. UKTV), mae ganddo wasanaeth fideo ar-alw tanysgrifio rhyngwladol fel menter ar y cyd (BritBox mewn gwledydd fel UDA, Canada ac Awstralia), mae'n gwerthu fformatau rhaglenni a nwyddau defnyddwyr fel DVDs a marsiandïaeth.

Mae'r gofynion yn nodi bod yn rhaid i'r BBC ennill cyfraddau elw masnachol ar gyfer ei is-gwmnïau a llinellau busnes masnachol. Mae angen iddo bennu llinellau busnes sy'n briodol hefyd. Yn 2019, penderfynodd BBC Studios i leihau ei linellau busnes o bump i ddau ac, yn benodol, i gyfuno'r gweithgareddau cynhyrchu a dosbarthu mewn llinell fusnes unigol. Mae'r datganiad hwn yn asesu'r newidiadau hyn i linellau busnes BBC Studios fel rhan o raglen waith ehangach i adolygu'r rhyngweithio rhwng BBC Studios a'r Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae'n disgrifio proses newydd ar gyfer hysbysu newidiadau i'r llinellau busnes gan y BBC yn y dyfodol.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BBC (PDF File, 355.9 KB) Sefydliad
Directors UK (PDF File, 128.1 KB) Sefydliad
Pact (PDF File, 211.4 KB) Sefydliad