Adolygiad o’r cynnwys i blant

  • Dechrau: 29 Tachwedd 2017
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 31 Ionawr 2018

Diweddariad a gyhoeddwyd 3 Gorffennaf 2019

Roedd adolygiad Ofcom o gynnwys plant yn canolbwyntio ar sut mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU yn darparu amrywiaeth o raglenni i blant ar adeg lle mae arferion cynulleidfaoedd yn newid a lle mae plant yn gwylio mwy a mwy o fideos ar-lein ac ar-alw.

Bwriad yr adolygiad oedd asesu sut y gallwn ddefnyddio'r pŵer newydd yn Neddf yr Economi Ddigidol 2017, sy’n rhoi’r pŵer i Ofcom gyhoeddi meini prawf ar gyfer y ddarpariaeth rhaglenni plant, ac, os yw’n briodol, osod amodau perthnasol (e.e. cwotâu) ar gyfer y sianeli gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig (gwasanaethau Channel 3, Channel 4 a Channel 5).

Aethom ati i gynnal adolygiad o raglenni plant ar y teledu ac ar-lein y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol a chyhoeddwyd ein canfyddiadau ym mis Gorffennaf 2018. Fe wnaethom nodi tri phrif faes sy’n peri pryder ynghylch lefel y rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau, ac fe wnaethom ofyn i ITV, Channel 4 a Channel 5 ymateb erbyn diwedd Mawrth 2019. Rhannodd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol eu cynlluniau ag Ofcom cyn 31 Mawrth 2019, gan ddarparu ymatebion ysgrifenedig pan gwblhawyd y cynlluniau terfynol.

Yma, rydym yn darparu ein hymateb i’r cynlluniau hyn, gan grynhoi ein barn am y cynlluniau a’r camau nesaf. Yn ogystal, darperir yr ymatebion gwreiddiol gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol, ond mae’r wybodaeth fasnachol gyfrinachol wedi cael ei chuddio.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Animation UK (PDF File, 823.4 KB) Sefydliad
BBC (PDF File, 1016.2 KB) Sefydliad
Beano Studios (PDF File, 217.7 KB) Sefydliad
Boom Cymru (PDF File, 157.8 KB) Sefydliad
Channel 4 Corporation (PDF File, 156.2 KB) Sefydliad