Ymgynghoriad ar hysbysiadau diwedd contract a gorffen contract

  • Dechrau: 31 Gorffennaf 2018
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 09 Hydref 2018

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydyn ni wedi cyflwyno cynigion i osod rheolau newydd a fydd yn mynnu bod darparwyr cyfathrebiadau yn anfon hysbysiad at eu cwsmeriaid pan fyddan nhw’n agosáu at ddiwedd cyfnod sylfaenol eu contract. Rydyn ni hefyd yn cynnig rheol newydd a fydd yn mynnu bod darparwyr yn anfon hysbysiad un-tro at eu cwsmeriaid sydd wedi gorffen cyfnod sylfaenol eu contract yn barod, pan nad oedd y cwsmeriaid hyn wedi cael gwybod am hynny ar y pryd. Bydd yr hysbysiadau hyn yn cael eu hanfon at gwsmeriaid preswyl a busnesau bach (deg unigolyn neu lai).

Ym mis Ebrill 2018, fe wnaethom gyhoeddi y byddai ein gwaith ymgysylltu â defnyddwyr yn canolbwyntio ar hysbysiadau diwedd contract. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein canfyddiadau, ac yn gwahodd rhanddeiliaid i gyflwyno safbwyntiau ar ein cynigion.

Diweddariad 15 Mai 2019: cyhoeddi datganiad

Rydyn ni wedi cyhoeddi datganiad heddiw am helpu cwsmeriaid i gael gwell bargeinion yn dilyn ymgynghoriad pellach wnaethon ni agor yn Rhagfyr 2018.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Andrew Griffiths (PDF File, 484.8 KB) Ymateb
BT (PDF File, 1.2 MB) Sefydliad
Citizens Advice (PDF File, 108.8 KB) Sefydliad
Communications Consumer Panel and ACOD (PDF File, 94.6 KB) Sefydliad
Consumer Forum for Communications (CFC) (PDF File, 248.3 KB) Sefydliad