Ymgynghoriad: arweiniad i ddarparwyr ODPS ar fesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol
- Dechrau: 20 Gorffennaf 2021
- Statws: Ar gau
- Diwedd: 14 Medi 2021
Mae Ofcom yn ymgynghori ar arweiniad drafft ar gyfrifoldebau darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS) o ran deunydd niweidiol.
Mae'r arweiniad arfaethedig yn adlewyrchu newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio a ddaeth i rym ar 1 Tachwedd 2020 a bydd yn disodli arweiniad presennol Ofcom ar ddeunydd niweidiol (PDF, 285.3 KB) (Saesneg yn unig). Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys gofyniad newydd ar ddarparwyr ODPS i gymryd camau priodol a chymesur i sicrhau nad yw unrhyw ddeunydd a allai amharu ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl o dan 18 oed fel arfer yn cael ei weld na'i glywed ganddynt.
Bwriad ein harweiniad arfaethedig yw helpu darparwyr i asesu a yw'r deunydd y maent yn bwriadu ei ddarparu ar eu gwasanaeth yn bodloni'r diffiniadau statudol o ddeunydd niweidiol, ac os felly, sut i gymryd camau priodol a chymesur i ddiogelu defnyddwyr.
Prif ddogfennau
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
BBC (PDF File, 198.7 KB) | Sefydliad |
BT (PDF File, 167.8 KB) | Sefydliad |
Name Witheld (PDF File, 206.9 KB) | Ymateb |
S4C (PDF File, 210.7 KB) | Sefydliad |
Samaritans (PDF File, 194.1 KB) | Sefydliad |