Datganiad ac ymgynghoriad: Lleolrwydd ar radio masnachol

  • Dechrau: 26 Hydref 2018
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 30 Tachwedd 2018

Datganiad a gyhoeddwyd 4 Mawrth 2019

Rhaid i orsafoedd radio masnachol analog sy'n gorfod darlledu nifer sylfaenol o raglenni sydd wedi cael 'eu gwneud yn lleol' wneud hyn naill ai o leoliad o fewn yr ardal mae'n darlledu iddi, neu o rywle arall mewn ardal sydd wedi cael ei chymeradwyo gan Ofcom. Mae'r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniadau am ardaloedd sydd wedi cael eu cymeradwyo yng Nghymru ac yn yr Alban.

Ein penderfyniad

Rydyn ni wedi cymeradwyo:

  • dwy ardal yn yr Alban - Gogledd yr Alban a De'r Alban; a
  • Chymru gyfan fel un ardal sydd wedi ei chymeradwyo (gweler y map yn Atodiad 1)

Bydd y penderfyniadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i orsafoedd radio analog lleol yng Nghymru ac yn yr Alban o ran lleoliad i gynhyrchu eu horiau angenrheidiol o raglenni 'a gynhyrchwyd yn lleol'. Dylai hefyd gryfhau eu gallu i ddarparu gwasanaeth sy'n berthnasol i'r ardal leol maent yn darlledu iddi.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon