Datganiad: Adnewyddu trwyddedau amlblecs radio cenedlaethol
- Dechrau: 09 Mehefin 2022
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 21 Gorffennaf 2022
Rydym wedi gwneud y penderfyniadau canlynol, ar ôl ystyried y safbwyntiau a gawsom gan randdeiliaid.
- Ni fyddwn yn gosod unrhyw rwymedigaethau darpariaeth ychwanegol nac yn mynnu bod cynllun technegol newydd yn cael ei ddarparu wrth adnewyddu’r trwyddedau.
- Ni fyddwn yn mynnu bod y trwyddedeion yn darparu cynigion newydd o ran sut byddent yn hyrwyddo neu’n helpu gyda phrynu cyfarpar radio digidol.
- Ni fyddwn yn gosod cyfradd PMR ar gyfer tymor newydd y trwyddedau.
- Y dyddiad cau statudol i drwyddedai amlblecs radio wneud cais i adnewyddu trwydded yw ‘dyddiad perthnasol’ y drwydded dan sylw. Y dyddiad perthnasol ar gyfer trwydded Digital One fydd 15 Tachwedd 2022. Ar gyfer trwydded Sound Digital, 28 Chwefror 2027 fydd y dyddiad perthnasol. Caiff y trwyddedeion wneud cais i adnewyddu unrhyw bryd ar y dyddiadau hyn neu cyn hynny.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Arqiva (PDF File, 704.7 KB) | Sefydliad |
Boom Radio (PDF File, 200.8 KB) | Sefydliad |
British Forces Broadcasting Service (PDF File, 115.5 KB) | Sefydliad |
Children's Radio UK (PDF File, 427.3 KB) | Sefydliad |
Herbert J (PDF File, 412.3 KB) | Ymateb |