Datganiad: Diogelu cyfranogwyr mewn rhaglenni teledu a radio

  • Dechrau: 13 Mawrth 2020
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 07 Gorffennaf 2020

Datganiad wedi'i gyhoeddi 18 Rhagfyr 2020

Dros flynyddoedd diweddar mae Ofcom wedi gweld cynnydd cyson mewn cwynion am iechyd meddwl a lles cyfranogwyr mewn rhaglenni, gan adlewyrchu naws agored a phryderon am y materion hyn. Yn 2019, lansiwyd adolygiad o'n mesurau diogelu ar gyfer cyfranogwyr rhaglenni gyda'r amcanion canlynol:

  • sicrhau bod lles pobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni teledu a radio yn cael ei ddiogelu;
  • sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu diogelu rhag tramgwtdd heb gyd-destun a all godi o weld neu glywed cyfranogwyr sy'n agored i niwed na ddiogelwch eu lles yn eu barn hwy mewn rhaglenni.

Fel rhan o'r adolygiad hwn, ein bwriad oedd diwygio'r Cod Darlledu i gyflwyno darpariaethau newydd wedi'u targedu at gyflawni'r amcanion hyn mewn ffordd hyblyg a chymesur. Mae'r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniad yn dilyn ein hymgynghoriadau ar 29 Gorffennaf 2019 a 13 Mawrth 2020.

Cawsom gefnogaeth eang gan randdeiliaid ar gyfer ein bwriad i gyflwyno mesurau diogelu i gyfranogwyr mewn rhaglenni. Ar ôl ystyried yr holl ymatebion i'r ddau ymgynghoriad yn ofalus, rydym wedi penderfynu diwygio Adran Saith y Cod i gyflwyno dau Arfer i'w Dilyn newydd er mwyn sicrhau bod darlledwyr yn gofalu'n briodol am bobl a allai fod mewn perygl o niwed sylweddol oherwydd eu bod yn cymryd rhan mewn rhaglenni.

Rydym hefyd wedi diwygio Rheol 2.3 yn Adran Dau (Niwed a Thramgwydd) y Cod i'w gwneud yn glir bod y rheol hefyd yn diogelu cynulleidfaoedd rhag unrhyw dramgwydd bosibl sy'n deillio o weld triniaeth pobl yr ymddengys eu bod mewn perygl o niwed sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhaglenni lle nad oes digon o gyd-destun.

Yn dilyn yr ymatebion a gawsom i'n hymgynghoriad cyntaf, rydym hefyd wedi gwneud mân ddiwygiadau i eiriad Rheolau 1.28 ac 1.29, sy'n ymwneud â gofal dyladwy i'r rhai dan ddeunaw oed.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon