Cais am ddatganiadau o ddiddordeb: DAB ar raddfa fach (DAB bach)

  • Start: 27 July 2018
  • Status: Open
  • End: 21 September 2018

Roedd Deddf Darlledu (Gwasanaethau Amlblecs Radio) 2017 (“Deddf 2017”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer trwyddedu a rheoleiddio gwasanaethau amlblecs radio bach. Yn benodol, roedd yn darparu ar gyfer cyflwyno is-ddeddfwriaeth a fyddai’n golygu bod darpariaethau penodol dan Ddeddf Darlledu 1996 a/neu Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, ynghyd ag addasiadau priodol, yn berthnasol i amlblecsau radio bach. Mae’r Adran  dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (“DCMS”) yn awr yn gweithio ar yr is-ddeddfwriaeth yma, ac yn gynharach yn 2018 fe gynhaliodd ymgynghoriad  ar elfennau craidd dull trwyddedu newydd.

Ochr yn ochr ag ymgynghoriad DCMS, a heb leihau effaith ei ganlyniadau, mae Ofcom wedi gwneud gwaith paratoi, er mwyn i ni fod mewn sefyllfa i symud ymlaen yn brydlon os a phan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno’r is-ddeddfwriaeth ofynnol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar opsiynau cynllunio amledd. I gyfrannu at y gwaith cynllunio technegol hwn a’r broses drwyddedu ddilynol, fe wnaeth Ofcom ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan bartïon sydd am weithredu amlblecsau DAB bach a/neu sydd â diddordeb mewn darparu gwasanaethau ar yr amlblecsau hyn. Mae’r galwad hwn am ddatganiadau o ddiddordeb a’r ymatebion wnaeth Ofcom eu derbyn isod.


Prif ddogfennau