Trin defnyddwyr agored i niwed yn deg: canllaw i ddarparwyr ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu

  • Dechrau: 25 Medi 2019
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 20 Tachwedd 2019

Mae’r canllaw hwn yn awgrymu mesurau y gallai darparwyr eu mabwysiadu i helpu sicrhau eu bod yn trin pobl sy'n agored i niwed yn deg a’u bod yn darparu’r cymorth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae llawer o ddarparwyr eisoes wedi gwneud cynnydd wrth sicrhau eu bod yn trin cwsmeriaid sy'n agored i niwed yn deg, ond mae gwaith i'w wneud o hyd

Un o flaenoriaethau Ofcom ydy sicrhau bod cwsmeriaid band eang, ffôn a theledu, yn enwedig cwsmeriaid agored i niwed, yn cael eu trin yn deg. Rydyn ni eisiau i bobl agoredi i niweddderbyn lefel uchel o ofal cwsmeriaid er mwyn eu helpu i reoli eu gwasanaethau cyfathrebu'n effeithiol, ac i'w helpu i gael y fargen gywir am eu hanghenion am bris teg. Felly, rydym wedi rhoi rheolau ar waith - yn benodol Amodau Cyffredinol C5.1-5.5, a ddaeth i rym ym mis Hydref 2018 - sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gael polisïau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod cwsmeriaid agored i niwed yn cael eu trin yn deg.

Mae llawer o bobl eisoes yn cael delio â darparwyr gwasanaethau hanfodol (er enghraifft, cwmnïau ynni, dŵr a thelathrebu) yn brofiad sy'n achosi straen. Er enghraifft, mae 37% o'r bobl sydd wedi profi problem iechyd meddwl yn arddangos lefelau sylweddol o bryder wrth ddelio â darparwyr gwasanaethau hanfodol.  Os yw darparwr yn darparu gwasanaeth gwael neu'n creu anawsterau diangen i gwsmeriaid agored i niwed, gallai hyn wneud eu sefyllfa'n waeth.

Gall unrhyw un wynebu amgylchiadau sy'n golygu eu bod yn dod yn agored i niwed - dros dro neu'n barhaol. Gallai hyn gynnwys problemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl, nodweddion penodol megis sgiliau oed neu lythrennedd, neu newidiadau mewn amgylchiadau personol fel profedigaeth, colli swydd neu newidiadau yn incwm aelwydydd.

Ym mis Mawrth 2022 bu i ni ymgynghori ar gynnig i ddiwygio'r canllaw gyda mesurau arfer da ychwanegol i sicrhau bod cwsmeriaid mewn dyled neu sy'n ei chael hi'n anodd talu yn cael eu trin yn deg, yn enwedig mewn perthynas ag ymgysylltu â chwsmeriaid a phwysleisio cefnogaeth gan ddarparwyr; cryfhau cysylltiadau i'r sector cyngor ar ddyledion am ddim; mesurau a gymerir gan ddarparwyr i sicrhau taliadau; a thariffau cymdeithasol. Cawsom ymatebion gan ddarparwyr, cyrff defnyddwyr, sefydliadau cynghori ar ddyledion a sefydliadau eraill ac fe wnaethom ystyried y rhain yn ofalus cyn diwygio ein canllaw. Fe wnaethom gyhoeddi datganiad yn sgil yr ymgynghoriad hwn, yn ogystal ag ymatebion gan randdeiliaid.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BT [response to 2019 consultation] (PDF File, 241.7 KB) Sefydliad
Campaign to Retain Payphones [response to 2019 consultation] (PDF File, 102.9 KB) Sefydliad
Citizens Advice [response to 2019 consultation] (PDF File, 84.4 KB) Sefydliad
Citizens Advice Scotland [response to 2019 consultation] (PDF File, 534.1 KB) Sefydliad
Communications Consumer Panel and ACOD [response to 2019 consultation] (PDF File, 212.1 KB) Sefydliad