Adolygiad Ofcom o sianel deledu arfaethedig BBC Scotland

  • Start: 01 January 2016
  • Status: Open
  • End: 01 January 2016

Diweddariad 26 Mehefin 2018: Cyhoeddi’r penderfyniad terfynol

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi datganiad (PDF, 117.0 KB) yn nodi ein penderfyniad terfynol i gymeradwyo lansio sianel deledu newydd gan y BBC ar gyfer cynulleidfaoedd yn yr Alban.

Cyhoeddodd y BBC gynigion manwl ar gyfer sianel BBC Scotland ym mis Tachwedd 2017. Fe wnaethon ni gyhoeddi ym mis Ionawr y bydden ni'n cynnal asesiad cystadleuaeth i weld a fyddai’r gwerth cyhoeddus sy’n cael ei gynnig gan sianel newydd gan y BBC yn cyfiawnhau unrhyw effaith negyddol bosibl ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.

Ar 20 Ebrill 2018, fe wnaethon ni gyhoeddi ein penderfyniad dros dro (PDF, 93.7 KB), sef y caiff y BBC gyflwyno’r cynnig, ac fe wnaethon ni wahodd rhanddeiliaid i roi sylwadau ar ein canfyddiadau.

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, rydyn ni bellach wedi cadarnhau ein penderfyniad dros dro, ac mae’r BBC yn rhydd i fwrw ymlaen i lansio BBC Scotland.

Diweddariad 20 Ebrill 2018: Cyhoeddi’r ymgynghoriad a’r penderfyniad dros dro

Mae Ofcom wedi cyhoeddi ymgynghoriad (PDF, 93.7 KB) heddiw ynghylch ein penderfyniad dros dro i gymeradwyo lansio sianel BBC newydd ar gyfer cynulleidfaoedd yn yr Alban.

Cyhoeddodd y BBC gynigion manwl ar gyfer sianel BBC Scotland ym mis Tachwedd 2017. Ym mis Ionawr, fe wnaethom gyhoeddi y byddem yn cynnal asesiad cystadleuaeth i weld a fyddai’r gwerth cyhoeddus sy’n cael ei gynnig gan sianel newydd y BBC yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau niweidiol posibl ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.

Ar ôl adolygu cynlluniau’r BBC yn ofalus a chynnal ymchwil â gwylwyr yn yr Alban, ein penderfyniad dros dro yw y caiff y BBC fwrw ymlaen i lansio’r sianel newydd.

Rydym bellach yn gofyn am safbwyntiau gan unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb neu yr effeithir arnynt ynghylch ein penderfyniad dros dro. Y dyddiad cau ar gyfer anfon ymateb yw 18 Mai 2018.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid caniatáu i’r BBC fwrw ymlaen i lansio'r sianel erbyn mis Gorffennaf 2018.

Diweddariad 15 Mawrth 2018: BBC yn cyhoeddi newid o ran HD

Mae'r BBC wedi ysgrifennu at Ofcom (PDF, 210.2 KB) yn addasu ei gais ar gyfer sianel deledu newydd i'r Alban i gynnwys gwasanaeth cyd-ddarlledu Manylder Uwch (HD). Gan fod y BBC wedi adolygu ei gais, bydd angen i ni ystyried goblygiadau'r newid hwnnw (PDF, 97.5 KB) ar gyfer ein Hasesiad Cystadleuaeth parhaus.

Diweddariad 11 January 2018: Casgliad asesiad cychwynnol o sianel deledu arfaethedig BBC Scotland

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi canfyddiadau (PDF, 190.3 KB) ein hasesiad cychwynnol o gynigion y BBC i lansio sianel deledu newydd ar gyfer yr Alban.

Rydym wedi canfod bod cynigion y BBC yn golygu newid sylweddol i wasanaethau cyhoeddus y BBC, sy’n galw am asesiad cystadleuaeth pellach.

Bydd yr asesiad hwn yn ystyried a fyddai’r gwerth cyhoeddus sy’n cael ei gynnig gan sianel newydd y BBC yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau niweidiol posibl ar gystadleuaeth deg ac effeithiol. Bydd yn cynnwys ymchwil gyda gwylwyr yn yr Alban, yn ogystal â dadansoddiad economaidd.

Rydym yn disgwyl cyhoeddi ac ymgynghori ar y casgliadau sy’n dod i’r amlwg cyn diwedd mis Ebrill. Byddwn yn cwblhau’r adolygiad, ac yn cyhoeddi ein penderfyniad a ddylid caniatáu i’r BBC symud ymlaen i lansio'r sianel, erbyn mis Gorffennaf.

Amserlen y Prosiect (* dyddiadau i'w cadarnhau)

DyddiadGweithredu
30 Tachwedd 2017 Cyhoeddi Prawf Lles y Cyhoedd y BBC ar sianel deledu arfaethedig ar gyfer yr Alban. Lansio asesiad cychwynnol Ofcom. Cyhoeddi dogfen Gwahodd sylwadau (PDF, 724.5 KB).
14 Rhagfyr 2017 Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ymatebion i’r ddogfen Gwahodd Sylwadau.
Ar neu cyn 11 Ionawr 2018 Gorffen ein hasesiad cychwynnol (PDF, 190.3 KB), gan gynnwys a oes eisiau dechrau asesiad manwl. Lansio unrhyw asesiad manwl.
15 Mawrth 2018Cyhoeddi newid i gynnig y BBC. Gohirio’r BCA dros dro i ystyried effaith y newid ar yr asesiad.
20 Ebrill 2018 Cyhoeddi’r ymgynghoriad a’r penderfyniad dros dro (PDF, 93.7 KB).
26 Mehefin 2018 Cyhoeddi’r penderfyniad terfynol (PDF, 117.0 KB).

30 Tachwedd 2017

Mae'r BBC wedi cyhoeddi ei gynnig i lansio sianel deledu BBC ar gyfer yr Alban. Mae Ofcom yn nawr yn mynd ati i bwyso a mesur y cynnig, dod o hyd i unrhyw effeithiau niweidiol posibl ar gystadleuaeth a phenderfynu a oes modd eu cyfiawnhau yng nghyd-destun gwerth cyhoeddus posibl y sianel newydd arfaethedig.

O bryd i’w gilydd, bydd y BBC yn cyflwyno newidiadau i’w sianeli teledu, ei orsafoedd radio a’i wasanaethau ar-lein er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni ei genhadaeth a'i fod yn diwallu anghenion cynulleidfaoedd ar draws y DU.

Mae modd ystyried bod rhai newidiadau yn rhai bach, er enghraifft penderfyniadau golygyddol o ddydd i ddydd am raglenni unigol neu eu hamserlen. Serch hynny, gan fod y BBC yn sefydliad mawr sy’n cael arian cyhoeddus, gallai newidiadau eraill y mae’n dymuno eu gwneud effeithio’n sylweddol ar gystadleuaeth yn y farchnad cyfryngau ehangach.

Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o’r effaith honno’n gadarnhaol. Mae’n bosibl i’r BBC wella gwerth cyhoeddus a hybu cystadleuaeth drwy gynnig mwy o ddewis, ysgogi’r galw neu hyrwyddo arloesedd er budd dinasyddion a defnyddwyr yn y DU.

Serch hynny, mae’n bosibl hefyd y gallai rhai o’r newidiadau mae’r BBC yn eu cynnig niweidio cystadleuaeth, er enghraifft drwy atal trydydd partïon rhag buddsoddi, a fyddai yn y pen draw yn golygu canlyniadau negyddol i gynulleidfaoedd.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon