Datganiad: Digwyddiadau Rhestredig – Chwe Gwlad 2022-2024

  • Dechrau: 07 Rhagfyr 2021
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 07 Ionawr 2022

Datganiad wedi'i gyhoeddi 24 Ionawr 2022

Bu i ni ymgynghori rhwng 7 Rhagfyr 2021 a 7 Ionawr 2022 ar geisiadau gan y BBC ac ITV (ar ei rhan ei hun ac ar ran STV) i ddarparu darllediadau o Bencampwriaeth Undeb Rygbi'r Chwe Gwlad yn fyw ar eu sianeli hwy yn unig ar gyfer 2022, 2023 a 2024. Gofynnodd y BBC ac ITV am ein cydsyniad i ddarparu darllediadau byw  o'r Chwe Gwlad fel a ganlyn: gemau cartref Lloegr, Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal ar Channel 3 (ITV, STV, UTV) a gemau cartref Cymru a'r Alban ar naill ai BBC One neu BBC Two. At hynny, mae gan y BBC hawliau radio cenedlaethol ar gyfer holl gemau'r Chwe Gwlad.

Bwriad y rheolau digwyddiadau rhestredig yw sicrhau bod digwyddiadau penodol o ddiddordeb cenedlaethol ar gael i'w gwylio'n fyw, ac am ddim, gan y gynulleidfa ehangaf bosib. Mae'r rheolau, a sefydlir yn Neddf Darlledu 1996, yn mynnu (ymysg pethau eraill) bod darlledwyr yn cael cydsyniad Ofcom i ddarparu darllediadau teledu byw o ddigwyddiadau rhestredig ar eu sianeli hwy yn unig.

Mae gemau'r Chwe Gwlad sy'n gysylltiedig â gwledydd cartref wedi'u dynodi'n ddigwyddiadau rhestredig at ddibenion y rheolau digwyddiadau rhestredig. Fel y nodir uchod, mae pob gêm i gael ei darlledu gan naill ai'r BBC neu ITV (neu, yng nghanolbarth a gogledd Yr Alban, STV) ar eu sianeli hwy yn unig, ac eithrio fel y nodir isod mewn perthynas â darllediadau S4C o gemau sy'n cynnwys Cymru. Gan hynny, mae angen cydsyniad Ofcom ar gyfer y darllediadau byw o'r gemau perthnasol. Nododd ein hymgynghoriad mai ein bwriad dros dro oedd rhoi cydsyniad, a nodwyd bod y BBC ac ITV wedi darparu gwybodaeth am y broses dendro ar gyfer caffael yr hawliau i'r gemau perthnasol fel tystiolaeth yr oedd darlledwyr eraill wedi cael cyfle dilys i gaffael yr hawliau i'r digwyddiadau ar delerau teg a rhesymol. Dyma un o'r materion y mae Cod Ofcom ar Ddigwyddiadau Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill yn ei nodi y byddwn yn ei gymryd i ystyriaeth wrth ddod i'n penderfyniad.

Derbyniodd Ofcom un ymateb i'r ymgynghoriad, yn gwrthwynebu'r darllediadau arfaethedig. Prif bryder yr ymatebydd oedd defnyddio cyllid y BBC i gaffael hawliau darlledu sy'n berthnasol i'r gemau Chwe Gwlad perthnasol heb ymgynghoriad cyhoeddus. Mae penderfyniadau golygyddol a chyllido rhaglenni'n fater i'r BBC. Ni all Ofcom gynnwys ystyriaeth o'r materion a godwyd gan yr ymatebydd fel rhan o'i hasesiad o'r cais gan y BBC o dan y rheolau digwyddiadau rhestredig. Mae cynlluniau darlledu'r BBC ac ITV yn sicrhau bod y gemau Chwe Gwlad perthnasol ar gael i'w gwylio'n fyw ac am ddim gan gynulleidfaoedd ar draws y DU, ac felly rydym wedi penderfynu rhoi cydsyniad i ddarllediadau'r BBC ac ITV ar eu sianeli hwy yn unig.

Nodwn hefyd i S4C gyhoeddi ei bod wedi dod i gytundeb gyda'r BBC ac ITV a fydd yn ei galluogi i ddangos darllediadau iaith Gymraeg o gemau'r Chwe Gwlad sy'n cynnwys Cymru yn 2022, 2023 a 2024. Ni fydd darllediadau S4C ar eu sianel hwy yn unig gan y bydd y gemau perthnasol hefyd yn cael eu darlledu yng Nghymru gan y BBC neu ITV. At ddibenion y rheolau digwyddiadau rhestredig, mae S4C yn "wasanaeth nad yw'n gymwys", tra bod pob un o BBC One, BBC Two a'r gwasanaeth Channel 3 yn 'wasanaethau cymwys". Mae hyn yn golygu, yn unol ag adran 101(1) Deddf Darlledu 1996, nad oes angen cydsyniad Ofcom ar S4C ar gyfer ei chynlluniau darlledu.

Mae Ofcom wedi derbyn ceisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarparu darllediadau o Bencampwriaeth Undeb Rygbi'r Chwe Gwlad yn fyw ar eu sianeli hwy yn unig ar gyfer 2022, 2023 a 2024 ('y Chwe Gwlad').

Bydd gemau'r Chwe Gwlad yn cael eu darlledu fel a ganlyn: gemau cartref Lloegr, Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal ar Channel 3 (ITV, STV, UTV) a gemau cartref Cymru a'r Alban ar nail ai BBC One neu BBC Two. At hynny, mae gan y BBC hawliau radio cenedlaethol ar gyfer holl gemau'r Chwe Gwlad.

Mae gemau Chwe Gwlad sy'n gysylltiedig â gwledydd cartref yn Ddigwyddiadau Rhestredig Grŵp B at ddibenion Deddf Darlledu 1996. Yn unol ag adran 101 Deddf Darlledu 1996, mae'n rhaid cael caniatâd Ofcom i ddarparu darllediadau teledu byw ar sianeli'r sawl sy'n gwneud y cais yn unig ('y Digwyddiadau'). . Mae'r rheolau sy'n berthnasol wedi'u nodi yn y Cod ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill.

Mae Ofcom yn bwriadu rhoi’r caniatâd hwn dros dro, yn amodol ar unrhyw sylwadau a ddaw i law gan bartïon sydd â diddordeb mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Gofynnir i chi gyflwyno ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 47.2 KB).


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.