Ymgynghoriad Pellach: Adolygiad o'r Farchnad Terfynu Galwadau Symudol 2018-2021

  • Dechrau: 17 Tachwedd 2017
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 15 Ionawr 2018

Mae gwasanaeth Terfynu Galwadau Symudol (MCT) yn wasanaeth cyfanwerthol a ddarperir gan ddarparwr symudol i gysylltu galwad i gwsmer (h.y. derbynnydd yr alwad) ar ei rwydwaith. Pan fydd darparwyr gwasanaethau symudol neu sefydlog yn gadael i’w cwsmeriaid ffonio rhif ffôn symudol yn y DU, maent yn talu ffi gyfanwerthol i’r darparwr gwasanaethau symudol sy’n terfynu'r alwad, sef Cyfradd Terfynu Galwadau Symudol (MTR). Mae’r cyfraddau MTR yn cael eu gosod fesul munud, ac yn cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd.

Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddwyd ymgynghoriad ar ein cynigion i reoleiddio’r farchnad MCT yn y dyfodol. Roeddem wedi cynnig gosod rhwymedigaeth mynediad i rwydwaith ar bob darparwr sydd â phŵer sylweddol yn y farchnad (SMP) a rheolaeth ffioedd ar bob galwad.

Ers mis Mehefin, rydym wedi cael gwybodaeth am bum cwmni llai arall sy’n darparu gwasanaethau symudol, a oedd heb eu cynnwys yn y rhestr arfaethedig o ddarparwyr gwasanaethau symudol sydd â phŵer sylweddol yn y farchnad a gyhoeddwyd ym mis Mehefin. Rydym ni o’r farn y dylid eu dynodi hwythau hefyd yn ddarparwyr sydd â phŵer sylweddol yn y farchnad, ac y dylai’r rhwymedigaethau rheoleiddio fod yn berthnasol iddynt hwythau.

Mae'r ddogfen hon yn nodi ein newidiadau arfaethedig i’r rhestr o ddarparwyr gwasanaethau symudol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, a’n cynigion i osod amodau pŵer sylweddol yn y farchnad ar y darparwyr ychwanegol sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr honno.

Rydym yn gwahodd sylwadau ar y newidiadau arfaethedig hyn.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Name Withheld 1 (PDF File, 107.1 KB) Sefydliad