Datganiad: Nation Radio (Ceredigion) - Cais i newid Fformat

  • Dechrau: 12 Ebrill 2019
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 10 Mai 2019

Datganiad wedi'i gyhoeddi 31 Mai 2019

Mae Radio Ceredigion Limited (‘RCL’) wedi tynnu ei gais yn ôl yng nghyswllt newid Fformat y drwydded radio masnachol sydd ganddo ar gyfer Ceredigion.

Cafodd y drwydded radio masnachol ar gyfer Ceredigion ei hail-ddyfarnu i RCL ym mis Rhagfyr 2018 (PDF, 141.3 KB). Aethpwyd ati i ail-wneud cais am drwydded ar y sail bod gwasanaeth presennol Radio Ceredigion yn cael ei ddisodli gan ailddarllediad o wasanaeth rhanbarthol De Cymru, Nation Radio, pan fydd cyfnod y drwydded newydd yn cychwyn ar 1 Mehefin.

Ar ôl i RCL (yr unig ymgeisydd) sicrhau'r drwydded, penderfynodd ei fod eisiau parhau â’i wasanaeth presennol, Radio Ceredigion, gydag ymrwymiad i ddarparu cynnwys lleol, gan gynnwys newyddion lleol, ar gyfer ardal Ceredigion. Oherwydd ein bod yn ystyried bod y newidiadau yn wahanol iawn i’r rhai a gyflwynwyd gan RCL yn ei gais am y drwydded, aethom ati i gynnal ymgynghoriad pedair wythnos ar gynigion RCL, a ddaeth i ben ar 10 Mai, ac fe gafwyd chwe ymateb.

Fodd bynnag, mae RCL wedi rhoi gwybod i Ofcom ei fod yn dymuno tynnu'r Cais i Newid Fformat yn ôl ac y bydd yn mynd ati i lansio Nation Radio yng Ngheredigion ar 1 Mehefin, yn unol â’r cais gwreiddiol am y drwydded.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Comisiynydd y Gymraeg (PDF File, 310.3 KB) Sefydliad
Harlech Properties Ltd (PDF File, 153.4 KB) Sefydliad
Ofcom Advisory Committee for Wales (PDF File, 118.6 KB) Sefydliad
Webber, Mr M. (PDF File, 115.0 KB) Ymateb
Welsh Language Commissioner (PDF File, 346.0 KB) Sefydliad