11 Hydref 2021

Cefnogi ein cydweithwyr LHDTC+ ar Ddiwrnod Cenedlaethol Dod Allan

Heddiw, i nodi Diwrnod Cenedlaethol Dod Allan, roeddem eisiau sôn am rai o'r ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein cydweithwyr LHDTC+ ac yn creu lle diogel a llawn parch i bawb weithio ynddo bob dydd - waeth p'un a yw ein cydweithwyr yn dewis bod allan yn y gwaith ai beidio.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon y flaenorol ar ein proffil LinkedIn yn gynharach eleni, i nodi Mis Balchder.

Rhwydwaith Affinity

Rhwydwaith Affinity, a redir gan gydweithwyr Ofcom, yw calon ac enaid ein hymdrechion a chyflawniadau dros gydweithwyr LHDTC+. Mae'n rhoi cyngor ar bolisi gyda chyfoeth o brofiad, ac yn cynnig lle diogel lle gall pobl o bob streipen anhygoel o'r enfys fynegi eu barn. A hynny heb hyd yn oed sôn am y digwyddiadau cymdeithasol gwych neu gyfleoedd mentora i gydweithwyr LHDTC+.

Logo - Rhwydwaith Affinity. Cefnogi. Cysylltu. Eirioli.

Mae gan y rhwydwaith garfan gynyddol o gynghreiriaid sy'n helpu i guro'r tabwrdd dros gynhwysiad ar draws y sefydliad. Rydym hefyd yn penodi cydweithiwr ar lefel uwch i hybu ymdrechion y rhwydwaith ar lefel y Bwrdd ac uwch reolwyr..

Absenoldeb rhiant

Mae ein polisïau teulu'n agored i bob cydweithiwr yn Ofcom. Maent yn sicrhau bod pobl yn derbyn cefnogaeth arbenigol waeth p'un a ydyn nhw'n mynd ar famolaeth neu'n dychwelyd wedyn, mabwysiadu, i famau benthyg, tadolaeth neu absenoldeb rhiant a rennir.

Mae hyn yn cynnwys polisïau a chefnogaeth absenoldeb rhiant, waeth beth yw'r hyd gwasanaeth, i helpu unrhyw gydweithiwr sydd ar fin dechrau antur newydd yn gofalu am blentyn bach; ac rydym yn cefnogi cydweithwyr a'r rhai gyda phartneriaid sy'n dioddef trallod colli baban yn ystod beichiogrwydd, ar unrhyw gam o'r beichiogrwydd.

Polisi trawsnewid yn y gwaith

Dengys tystiolaeth yn drist fod trawsffobia ar gynnydd yn y DU. Ond dydyn ni ddim yn credu mewn barnu pobl am sut y maent yn hunan-adnabod. Mae ein polisi 'trawsnewid yn y gwaith' wedi bod yn cefnogi cydweithwyr traws a'r rhai anghydymffurfiol o ran rhywedd ers 2018, gan helpu'r rhai sy'n trawsnewid i'r rhywedd o'u dewis pan fyddant yn gweithio yma. Mae'n rhywbeth yr ydym yn hynod o falch o fod wedi'i roi ar waith.

O Fewn Ofcom a hyfforddiant

‘O Fewn Ofcom’ yw ein henw ffansi am sesiwn cinio-a-dysgu. Mae pobl yn dod ac yn siarad am eu profiadau o ymchwilio i gynrychiolaeth gwiar, y ffaith bod deurywioldeb wedi'i ddileu mewn teledu a ffilm, i 'Traws 101'. Cyfleoedd yw'r digwyddiadau hyn i'r sefydliad ddod at ei gilydd, dysgu o safbwyntiau gwahanol a herio'r ffordd yr ydym yn meddwl am bethau.

Ein blaenoriaeth yw i bawb sy'n gweithio i Ofcom deimlo'n ddilys a bod ganddynt werth, felly mae hyfforddiant tuedd anymwybodol yn ofynnol hefyd i unrhyw gydweithiwr sy'n ymwneud â recriwtio.

Oherwydd safle Ofcom mewn cymdeithas, rydym hefyd yn gweithio'n galed i hybu cydraddoldeb a chynrychiolaeth yn y sectorau a reoleiddiwn. Ni ddylai neb deimlo byth na allant fod nhw eu hunain, ac mae pawb yn haeddu cael eu cynrychioli yn yr hyn y maent yn ei wylio neu'n gwrando arno. Mae mwy i'w wneud o hyd.

Ni waeth beth, mae bob amser rhywbeth yn digwydd yn y cefndir fan hyn, diolch i griw gwych o gydweithwyr, sy'n helpu i wneud Ofcom yn lle agored a chroesawgar i'r gymuned LHDTC+.

Related content