9 Medi 2021

Teithio tramor? Peidiwch ag anghofio gwirio'r taliadau crwydro

Os ydych chi'n bwriadu mynd dramor yn fuan, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o unrhyw daliadau y gallech eu hwynebu am ddefnyddio'ch ffôn symudol pan fyddwch chi y tu allan i'r DU.

Ers 31 Rhagfyr 2020, nid yw rheolau'r Undeb Ewropeaidd ar daliadau crwydro symudol bellach yn berthnasol yn y DU. Mae hynny'n golygu nad oes terfyn mwyach ar y tâl y gall eich darparwr symudol ei godi arnoch am ddefnyddio eich ffôn symudol yng ngwledydd yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein.

Nid oes gan Ofcom y pŵer i atal cwmnïau symudol rhag codi tâl ar eu cwsmeriaid am ddefnyddio eu gwasanaethau wrth deithio. Mae gan bob un o ddarparwyr ffonau symudol y DU ddulliau gwahanol o godi ffioedd am grwydo a pholisïau defnydd teg. Mae'n bwysig gwirio gyda'ch darparwr i weld beth yw eu dull gweithredu cyn i chi ddefnyddio'ch ffôn symudol dramor.

Ers 1 Gorffennaf 2022, nid yw'r rheolau crwydrol fel y'u nodwyd yn flaenorol yn neddfwriaeth y DU yn berthnasol mwyach. Roedd y rhain yn ymdrin â phethau fel negeseuon croeso crwydrol a therfynau gwariant crwydrol data. Mae rhai darparwyr wedi cadarnhau y byddant yn dal i ddarparu'r rhain i gyd, neu rai ohonynt, o 1 Gorffennaf ymlaen ar sail wirfoddol.

Mae'r tabl isod yn dangos prisiau crwydro'r darparwyr sy'n berthnasol o Gorffennaf 1 2022.

0 o ganlyniadau wedi'u dangos

Darparwr

Hysbysiadau crwydro
– UE a Gweddill y Byd

Gwybodaeth am daliadau data crwydro yn yr UEMesurau diogelu cwsmeriaid Gogledd Iwerddon yn erbyn taliadau crwydro anfwriadol yng Ngweriniaeth Iwerddonaming in the Republic of Ireland
EE

Ar y pwynt crwydro: Ydy

Wrth ddechrau defnyddio data crwydro: Ydy

Terfyn data crwydro diofyn (£45 y mis heb TAW): Ydy

Mae cwsmeriaid sy'n ymuno neu'n ail-gontractio o 1 Gorffennaf 2021 yn talu £2 y dydd i ddefnyddio eu lwfans yn yr UE. Terfyn defnydd data teg misol o 50GB. Bydd cwsmeriaid yn talu £0.0036 y MB ar ôl iddynt gyrraedd y terfyn hwnnw.

Caiff crwydro yng Ngweriniaeth Iwerddon ei drin fel defnydd yn y DU

o2

Ar y pwynt crwydro: Ydy

Wrth ddechrau defnyddio data crwydro: Ydy

Terfyn data crwydro diofyn (£45 y mis heb TAW): Ydy

Dim tâl dyddiol o fewn yr UE. Terfyn defnydd data teg misol o 25GB i gwsmeriaid talu'n fisol. Bydd cwsmeriaid yn talu £3.50 y GB ar ôl iddynt gyrraedd y terfyn hwnnw.Mae cwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon wedi'u heithrio o ordaliadau crwydro'n barhaol. Mae unrhyw daliadau am grwydro anfwriadol yng Ngogledd Iwerddon dros y terfyn defnydd data teg o 25GB yn cael eu credydu ar sail ymatebol.
Three

Ar y pwynt crwydro: Ydy

Wrth ddechrau defnyddio data crwydro: Ydy

Terfyn data crwydro diofyn (£45 y mis heb TAW): Ydy

Codir tâl o £2 ym mhob 24 awr ar gwsmeriaid sy'n ymuno neu'n ail-gontractio o 1 Hydref 2021 i ddefnyddio lwfansau cynllun Go Roam mewn cyrchfannau yn Ewrop. Terfyn defnydd data teg misol o 12GB. Bydd cwsmeriaid yn talu £0.3 y MB ar ôl iddynt gyrraedd y terfyn hwnnw.Nid yw'r tâl crwydro dyddiol yn berthnasol i gwsmeriaid sy'n crwydro yng Ngweriniaeth Iwerddon. Ni chodir taliadau ychwanegol ar gwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon sy'n crwydro'n anfwriadol yng Ngweriniaeth Iwerddon am fynd dros y terfyn defnydd teg a gallant ddefnyddio data hyd at derfyn eu lwfans.
VodafoneAr y pwynt crwydro: Ydy

Wrth ddechrau defnyddio data crwydro: Nac ydy

Terfyn data crwydro diofyn (£45 y mis heb TAW): Ydy - swm diofyn wedi'i bennu fel £39.33 y mis
Mae cwsmeriaid sy'n ymuno neu'n ail-gontractio o 11 Awst 2021 yn talu £1-£2 y dydd i ddefnyddio eu lwfans yn yr UE. Terfyn defnydd data teg misol o 25GB. Bydd cwsmeriaid yn talu £3.13 y GB ar ôl iddynt gyrraedd y terfyn hwnnw (os ydynt wedi ymuno â Vodafone ar 24 Chwefror 2021 neu'n hwyrach) neu £3.65 am 1GB / £18.25 am 5GB (os ydynt wedi uwchraddio neu ymuno â Vodafone cyn 24 Chwefror 2021).Mae defnydd yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi'i gynnwys ar gyfer pob defnyddiwr.
Sky Mobile

Ar y pwynt crwydro: Ydy

Wrth ddechrau defnyddio data crwydro: Ydy

Terfyn data crwydro diofyn (£45 y mis heb TAW): Ydy

Tâl dyddiol o £2 y dydd i ddefnyddio'r lwfans.

Os bydd cwsmeriaid yn cyrraedd eu terfyn data DU, gallant rolio data wedi'i gynilo o'r 'Piggybank', cymysgu i fyny i gynllun data mwy, neu brynu ategyn data 1GB am £6.

Nid yw'r tâl crwydro dyddiol yn berthnasol i gwsmeriaid sy'n crwydro yng Ngweriniaeth Iwerddon

Utility WarehouseAr y pwynt crwydro: Ydy

Wrth ddechrau defnyddio data crwydro: Nac ydy

Terfyn data crwydro diofyn (£45 y mis heb TAW): Ydy
Wedi'i gynnwys yn yr UE, terfyn defnydd data teg o 14GB i gwsmeriaid ar y cynlluniau Unlimited a 40GB Value Prime. Os aiff cwsmer uwchben y terfyn hwn codir tâl o £0.0036 y MB ar gynlluniau Diderfyn a £0.0036 y MB ar gynlluniau Value hyd at eu terfyn domestig ac yn£0.02 y MB.Roam Like Home yn berthnasol felly dim taliadau ychwanegol yn amodol ar ddefnydd teg.

Your Co-op mobile

Ar y pwynt crwydro: Ydy

Wrth ddechrau defnyddio data crwydro: Ydy

Terfyn data crwydro diofyn (£45 y mis heb TAW): Ydy
EU wedi'i gynnwys o fewn bwndeli safonol. 7.2p y MB os nad oes gan y cwsmer fwndel data.Nac ydy ond dim taliadau ychwanegol lle mae Roam Like at Home yn berthnasol.

Gall darparwyr ffôn newid telerau contract ond rhaid iddynt roi o leiaf un mis o rybudd i chi a hawl i adael y contract heb gosb os nad yw'r newid o fudd i chi. Fodd bynnag, ni fydd gennych yr hawl i adael y contract os yw'r newid sy'n cael ei wneud:

  1. er eich budd chi yn unig, er enghraifft uwchraddio cyflymder;
  2. yn weinyddol yn unig ac nid yw'n cael unrhyw effaith negyddol arnoch, er enghraifft newid yng nghyfeiriad neu fanylion banc eich darparwr; neu
  3. wedi'i bennu'n uniongyrchol gan y gyfraith, er enghraifft, newid yng nghyfradd TAW.

Mae gan rai darparwyr gontractau sy'n nodi y bydd y prisiau misol a dalwch yn cynyddu ar adegau penodol yn ystod y contract, er enghraifft cynnydd yn unol â chwyddiant bob blwyddyn. Dylid egluro hyn i chi pan fyddwch yn llofnodi'r contract fel eich bod yn gwybod beth fydd yn rhaid i chi ei dalu ar wahanol adegau yn y contract. Os gwnaed hyn yn glir ar yr adeg y gwnaethoch ymuno â'r contract, ni fydd gennych yr hawl i adael heb gosb pan fydd y cynnydd yn digwydd. Mae rheolau Ofcom hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi gwybodaeth benodol i gwsmeriaid yn ysgrifenedig cyn iddynt ymuno â chontract, mae hyn yn cynnwys eu polisi defnydd teg crwydrol.

Dylai eich darparwr roi'r opsiwn i chi osod terfyn bil neu gap gwario pan fyddwch yn cofrestru neu'n adnewyddu contract. Neu gallwch ofyn am un, diwygio neu dynnu un sy'n bodoli eisoes, ar rybudd rhesymol ar unrhyw adeg.

Mae terfyn bil yn caniatáu i chi osod terfyn gwariant misol ar eich bil. Unwaith y bydd y terfyn bil hwn wedi'i bennu, rhaid i'ch darparwr roi gwybod i chi pan fydd y terfyn yn debygol o gael ei gyrraedd, a dim ond gyda'ch caniatâd datganedig y gellir mynd y tu hwnt iddo.

Darllenwch ein canllaw am ragor o awgrymiadau ar sut i bennu terfynau biliau symudol.

Felly os ydych yn teithio dramor mae'n bwysig gwirio gyda'ch darparwr pa daliadau y gallai fod yn rhaid i chi eu talu, cyn i chi adael y DU.

Mae'r rhwydweithiau symudol 2G a 3G hefyd yn cael eu diffodd yn raddol ledled y byd a gall hyn effeithio ar eich profiad crwydrol - mewn rhai achosion gall olygu na fyddwch yn gallu gwneud galwadau neu gael gafael ar ddata oni bai eich bod wedi'ch cysylltu â wifi, yn enwedig os oes gennych set llaw hŷn. Felly mae'n bwysig eich bod yn gwirio gyda'ch darparwr cyn i chi adael y DU.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

See also...