15 Hydref 2021

Diweddariad Ofcom ar wasanaethau hygyrchedd Channel 4

Rydym wedi cwrdd â Channel 4 a Channel 5 i drafod y diffyg isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain, sydd wedi achosi gofid a rhwystredigaeth fawr i gynulleidfaoedd sydd â nam ar eu golwg a'u clyw. Mae Ofcom wedi derbyn tua 500 o gwynion am ddiffyg parhaus Channel 4. Mae Channel 4 wedi ein sicrhau y bydd yn cyfathrebu’r camau clir sydd i’w cymryd i adfer y gwasanaethau hyn i'w gynulleidfa cyn bo hir. Mae Channel 5 bellach wedi adfer y gwasanaethau hyn i'w flaenraglen, ac yn eu hychwanegu'n ôl at raglenni ar-alw diweddar lle nad ydynt ar gael. Rydym yn croesawu'r cynnydd hwn, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r darlledwyr i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu hadfer fel mater o flaenoriaeth.

See also...