16 Medi 2020

Cyfarwyddwr Ofcom yn cael ei gydnabod gyda gwobr 'Hyrwyddwr 5G'

Philip Marnick, cyfarwyddwr grŵp sbectrwm Ofcom

Mae Philip Marnick, cyfarwyddwr grŵp sbectrwm Ofcom, wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniadau at ddatblygiadau mewn technoleg 5G gyda gwobr yn cael ei rhoi iddo fel rhan o Wythnos 5G.

Nod gwobrau'r Wythnos 5G yw cydnabod yr enghreifftiau gorau o fabwysiadu, defnyddio a chyflwyno 5G yn fyd-eang. Rhoddwyd gwobr 'Hyrwyddwr Unigol Blaenllaw 5G' i Philip ar ôl trafododaeth gan banel o feirniaid annibynnol.

Wrth roi'r wobr, canmolodd Dean Bubley, dadansoddwr y diwydiant a chynghorydd strategaeth, waith Philip ac Ofcom ym maes 5G a hefyd mewn polisi di-wifr a sbectrwm ehangach.

Tynnodd sylw at y ffordd y mae Ofcom, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi mynd ati mewn ffordd arloesol i ryddhau sbectrwm, i bwy, a sut mae wedi ei ddefnyddio – mae hyn wedi cynnwys trwyddedau lleol a rhannu sbectrwm. Ychwanegodd fod hyn, o ganlyniad, wedi helpu i dynnu sylw at y DU yn rhyngwladol o ran cyflwyno 5G a thechnoleg ddi-wifr arall.

Mae Wythnos 5G yn wythnos o weithgareddau sydd â'r nod o dynnu sylw at ddatblygiadau a defnydd 5G a dod â sefydliadau sy'n ymwneud â'r dechnoleg at ei gilydd. Fe'i cefnogir gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ac UK5G, rhwydwaith sy'n hyrwyddo ymchwil, cydweithredu a defnyddio 5G yn fasnachol yn y DU.

Diolch i Wythnos 5G am gydnabod gwaith caled tîm Ofcom.  Mae cefnogi arloesedd yn flaenoriaeth ers tro i ni ac rydym wedi bod yn arwain yn y gwaith hwn yn y DU ac yn rhyngwladol ers nifer o flynyddoedd.

Byddwn yn parhau i chwarae ein rhan i sicrhau y gall pobl ledled y DU elwa ar alluoedd 5G a thechnolegau di-wifr eraill -p'un a ydynt yn cael eu darparu dros rwydweithiau cenedlaethol mawr, neu wasanaethau lleol llai.

Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm

See also...