6 Ionawr 2021

Cymorth i gadw plant mewn cysylltiad ar gyfer dysgu o gartref yn ystod y cyfnod clo

Gyda miliynau o blant ledled y DU bellach yn dysgu o gartref, mae Ofcom wedi cyhoeddi canllaw i'r gefnogaeth sydd ar gael i sicrhau bod teuluoedd yn gallu mynd ar-lein a bod plant yn gallu parhau â'u haddysg.

Erbyn hyn, mae pob un o wledydd y DU wedi gweithredu cyfyngiadau sy'n golygu bod pob ysgol ar gau ar hyn o bryd, gyda rhai eithriadau i blant gweithwyr allweddol a'r rhai sy'n agored i niwed.

Mae teuluoedd ledled y wlad yn dibynnu ar eu cysylltiadau rhyngrwyd fel y gall plant ymuno â gwersi ar-lein a chwblhau eu gwaith. Bydd hwn yn gyfnod anodd i lawer – yn enwedig y rhai sydd â mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd neu ddyfeisiau ar-lein, gan gynnwys y 7% o aelwydydd sy'n dibynnu ar ffôn symudol i ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddarparu dyfeisiau pellach i helpu plant i fynd ar-lein, ac mae cwmnïau ffôn a band eang wedi camu i’r adwy i helpu pobl i gadw mewn cysylltiad.

Drwy gydol y pandemig coronafeirws (Covid-19), rydym wedi cydweithio'n agos â darparwyr i sicrhau bod pobl yn parhau i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae hyn yn cynnwys cefnogi pobl sy'n profi caledi ariannol o ganlyniad i’r coronafeirws – gan sicrhau nad yw cwsmeriaid yn colli eu gwasanaethau ar adeg pan fo arnynt eu hangen fwyaf.

Bu i ni gyhoeddi arweiniad y llynedd ar y ffordd orau i’r diwydiant gefnogi cwsmeriaid a allai fod mewn sefyllfa fregus, ac rydym yn disgwyl i gwmnïau ddilyn yr arweiniad hwn wrth ddelio â chwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws.

Helpu cadw cwsmeriaid mewn cysylltiad

Mae llawer o gwmnïau wedi cymryd camau fel y gall cwsmeriaid barhau i fynd ar-lein yn hwylus – boed hynny i weithio o gartref neu i blant ddysgu ar-lein. Er enghraifft:

  • Mae pob cwmni band eang mawr wedi dileu cyfyngiadau data ar eu pecynnau band eang. Felly, gall rhieni fod yn hyderus y bydd eu plant yn cael mynediad at ddysgu ar-lein heb gyfyngiadau ar faint o ddata y maent yn ei ddefnyddio a heb unrhyw gynnydd yn eu costau band eang.
  • Mae rhai darparwyr band eang yn cynnig tariffau arbennig i gwsmeriaid penodol, fel y rhai ar incwm isel. Rydym wedi annog pob darparwr i ddarparu pecynnau o’r fath, os nad ydynt eisoes yn gwneud hyn. Cysylltwch â'ch darparwr i weld a oes tariff arbennig ar gael ac os ydych yn gymwys i’w gael.
  • Mae cyfran fach o aelwydydd yn y DU nad oes ganddynt gysylltiad band eang, y maent yn dibynnu ar gysylltiadau symudol i fynd ar-lein. Er mwyn helpu i gadw'r bobl hyn mewn cysylltiad, mae nifer o gwmnïau symudol wedi cynyddu lwfansau data ar eu tariffau heb gost ychwanegol, gan gynnwys y rhai sy'n cymryd rhan mewn menter gan Lywodraeth y DU i helpu plant difreintiedig nad oes ganddynt fynediad at liniadur.

Rydym yn croesawu'r camau hyn a byddwn yn parhau i weithio gyda chwmnïau telathrebu a llywodraethau yn y DU er mwyn i deuluoedd gael y cymorth sydd ei angen arnynt, ar adeg pan fo pobl yn dibynnu ar eu band eang a'u ffonau yn fwy nag erioed.

Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ffôn neu fand eang oherwydd y coronafeirws, dylech gysylltu â'ch darparwr cyn gynted â phosibl, gan fod amrywiaeth o gymorth ar gael.

Mae ein cyngor Cadw’r Cysylltiad hefyd yn darparu gwybodaeth am sut y gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich gwasanaethau ffôn a band eang – hyd yn oed pan fydd nifer o bobl ar-lein gartref, ar yr un pryd.

See also...