30 Ionawr 2020

Gwybodaeth glir, onest cyn i chi brynu band eang

Bydd pobl a busnesau yn cael amcangyfrifon cyflymder band eang personol y gallant ymddiried ynddynt gan ddarparwyr, cyn iddynt ymrwymo i gontract newydd, dan fesurau diogelu cryfach Ofcom

Ym mis Mawrth 2019, gwnaethon ni newidiadau mawr i’n codau ymarfer ar gyfer cyflymderau band eang. Mae’r newidiadau hyn yn golygu bod pobl sy'n siopa am fand eang nawr yn cael isafswm cyflymder pendant cyn cofrestru ar gyfer bargen newydd. Dywedir wrthynt beth i’w ddisgwyl yn ystod cyfnodau prysur pan fydd pawb ar-lein, a gallant adael eu contract yn haws os bydd cyflymderau’n gostwng islaw’r lefel a warantwyd.

Ar hyn o bryd, mae’r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddata gan grŵp o gwsmeriaid sydd â nodweddion tebyg – er enghraifft, pellter oddi wrth y gyfnewidfa neu’r cabinet ar y stryd, sy’n gallu effeithio ar gyflymder ar linellau copr. Yn y dyfodol, bydd llawer o gwsmeriaid yn cael amcangyfrif cyflymder yn seiliedig ar allu’r llinell sy'n mynd i’w cartref neu swyddfa unigol.

Bydd gweithredu’r newidiadau hyn yn golygu bod rhaid i ddarparwyr uwchraddio eu systemau. Mae'r cwmnïau sydd wedi ymrwymo i'r codau ymarfer wedi cytuno i wneud hyn erbyn 15 Tachwedd 2020.

See also...