14 Ionawr 2021

Technolegau datblygol yn siapio dyfodol cyfathrebu

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi adroddiad sy'n bwrw golwg ar rai o'r technolegau datblygol a allai siapio'r ffordd yr ydym yn byw, cyfathrebu a diddanu ein hunain yn y dyfodol.

Mae'r fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae pobl ar draws y byd yn defnyddio gwasanaethau cyfathrebu at ystod eang o ddibenion, ac mae'r dechnoleg sy'n gyrru'r gwasanaethau hyn yn esblygu'n barhaus.

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU, mae'n bwysig bod Ofcom yn ymwybodol o'r mathau newydd o dechnoleg sy'n debygol o gael eu defnyddio yn y dyfodol agos, a’n bod yn ystyried yr effeithiau y gallai'r datblygiadau hyn eu cael ar y gwasanaethau cyfathrebiadau a ddefnyddiwn bob dydd. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod pobl a busnesau'n manteisio i’r eithaf ar y gwasanaethau hyn, yn ogystal â'n helpu i'w diogelu yn erbyn unrhyw risgiau a allai godi.

Y llynedd, gofynnom i arbenigwyr technoleg ledled y byd ddweud wrthym beth fyddai'r datblygiadau mawr nesaf yn eu barn nhw. Gwnaethom gynnal cyfweliadau â nhw, a gwahoddwyd pobl i gyfrannu at ein hymchwil yn y maes hwn, gan roi cipolwg i ni ar yr amrywiaeth o dechnolegau newydd sydd ar y gorwel.

Bydd rhai o'r datblygiadau hyn yn arwain at gyrhaeddiad a gwasanaethau gwell a chyflymach. Bydd eraill yn ein helpu i fwynhau profiadau cyfoethocach o'r gwasanaethau cyfathrebu yr ydym eisoes yn eu defnyddio. Ac er y gallai gymryd degawdau i rai o'r gwasanaethau newydd hyn fod ar gael yn gyffredinol, bydd rhai'n cael effaith fawr ar sut rydym yn cyfathrebu yn y dyfodol agos.

Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ddatblygiadau posibl yn y dyfodol megis:

  • technolegau arloesol a fydd yn helpu darparwyr i gyflwyno gwell gwasanaethau symudol a band eang drwy ddefnyddio awtomeiddio a robotiaid;
  • technoleg lloeren y gellir ei defnyddio i ddarparu cysylltiadau i bobl sy'n byw mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd;
  • datblygiadau yn y sector darlledu, megis darllediadau gwell ac wedi’u teilwra o ddigwyddiadau chwaraeon a allai ein galluogi i gael sŵn ein torf ein hunain, sylwebaethau pwrpasol ac onglau camera sy’n dibynnu ar ba dimau rydym yn eu cefnogi; a
  • thechnolegau ymdrwythol newydd sy'n dod ag elfen synhwyraidd i wasanaethau cyfathrebu, gan alluogi pobl i 'gyffwrdd' – a hyd yn oed arogli – wrth iddynt ryngweithio o bell.

Rydym hefyd wedi creu cyfres o fideos i gyd-fynd â'r adroddiad, sy'n helpu i egluro sut y bydd rhai o'r technolegau newydd hyn yn gweithio, a'r manteision y gallent eu cynnig.

See also...