23 Ionawr 2020

Ofcom yn cyhoeddi fframwaith i wella tegwch i gwsmeriaid

Mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi fframwaith sy'n amlinellu sut fyddwn ni'n barnu a yw cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg gan gwmnïau telathrebu a theledu drwy dalu.

Tegwch i GwsmeriaidDyma'r cam diweddaraf yn ein rhaglen Tegwch i Gwsmeriaid, a ddechreuodd llynedd, pan gwnaeth holl ddarparwyr mwyaf y DU wneud ymrwymiad o bwys i roi tegwch yn gyntaf.

Mae sicrhau tegwch i gwsmeriaid yn flaenoriaeth i Ofcom. Rydyn ni eisiau i ddarparwr roi tegwch wrth galon eu busnes ac rydyn ni eisiau pobl i gael eu trin yn deg gan eu darparwr a chael y fargen orau.

Pan rydyn ni’n asesu pryderon ynghylch tegwch, byddwn yn ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Sut mae darparwyr yn trin cwsmeriaid drwy gydol ‘taith’ y cwsmer? Byddwn yn ystyried a yw cwsmeriaid yn cael gwybodaeth glir i'w helpu i wneud y penderfyniadau cywir; a yw'n syml iddynt gwyno; ac os ydy’r problemau'n cael eu datrys yn brydlon.
  • Pwy sy'n cael ei niweidio, os oes rhywun? Byddwn yn talu sylw arbennig i weld a effeithiwyd ar unrhyw gwsmeriaid sy'n agored i niwed.
  • Beth yw maint y niwed, os o gwbl? Byddwn yn ystyried a yw'r cwsmeriaid wedi wynebu niwed sylweddol; ydy'r niwed wedi cael effaith ar lawer o gwsmeriaid; ac os ydy’r broblem wedi parhau am amser hir.
  • Pa mor bwysig yw'r gwasanaeth? Byddwn yn ystyried a yw'r gwasanaeth dan sylw yn bwysig neu'n hanfodol i gwsmeriaid.
  • Ydy’r gwasanaeth yn dibynnu ar fuddsoddiad newydd ansefydlog? Byddwn yn ystyried a yw'r gwasanaeth yn wasanaeth sydd eisoes yn bodoli sydd heb fawr o angen am fuddsoddiad newydd.

Byddwn yn defnyddio'r fframwaith i'n helpu i asesu pryderon sy'n cael eu dwyn i'n sylw drwy gwynion neu drwy ein proses o fonitro'r farchnad ein hunain. Byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i'n helpu i benderfynu a oes angen i ni ymyrryd, ac os felly, sut.

Byddwn yn parhau i gadw llygad ar brofiadau cwsmeriaid, a sicrhau bod cwmnïau yn gwireddu eu haddewidion.

See also...