27 Chwefror 2023

Trwyddedu gwasanaethau eglwys a sinema yn-y-car

Gallai trefnwyr digwyddiadau gwasanaethau eglwys a sinema yn-y-car wneud cais am drwyddedau radio dros dro gan Ofcom, i ganiatáu i gynulleidfaoedd ddod at ei gilydd a pharhau i gadw rheolau pellter cymdeithasol.

Heddiw, rydyn ni wedi diweddaru ein gwybodaeth trwyddedu i unigolion a sefydliadau sy’n dymuno cynnal y mathau hyn o ddigwyddiadau.

Mae angen ‘trwydded gwasanaeth cyfyngedig’ i gynnal y digwyddiadau hyn, er mwyn i’r bobl yn eu ceir allu clywed traciau sain y ffilm, neu’r hyn sy’n cael ei ddweud, drwy radio FM eu ceir.

Oherwydd y pandemig coronafeirws, rydym yn diddymu’r cyfnod rhybudd 60 diwrnod arferol ar gyfer ceisiadau am drwyddedau. Byddwn hefyd yn prosesu ceisiadau’n gyflym, er mwyn i ni allu rhoi ateb i ymgeiswyr o fewn pythefnos o gael y cais.

Gallai’r digwyddiadau hyn fod yn ffordd i gymunedau a chynulleidfaoedd fwynhau ffilm neu addoli, a pharhau i gadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, nid ydyn ni’n awdurdodi’r digwyddiad ei hun drwy roi'r trwyddedau hyn. Cyfrifoldeb trwyddedeion eu hunain fydd sicrhau bod pob digwyddiad yn cael ei gynnal dan ganllawiau a chyfreithiau’n ymwneud â Covid-19.

See also...