19 Tachwedd 2020

Rhagor o gymorth i gwsmeriaid ffôn a band eang yn ystod y pandemig

Os ydych chi’n cael trafferth talu eich bil ffôn neu fand eang yn ystod pandemig y coronafeirws (Covid-19), dylech siarad â’ch darparwr cyn gynted â phosib i weld sut gallan nhw helpu.

Wrth i’r pandemig barhau ac wrth i’r cyfnod clo newydd olygu bod pobl yn treulio mwy o amser gartref, maen nhw’n fwy dibynnol nag erioed ar eu ffonau cartref, eu gwasanaethau symudol neu fand eang.

Rydym yn disgwyl i ddarparwyr gymryd mesurau ychwanegol i sicrhau bod cwsmeriaid sydd mewn dyled yn cael eu trin yn deg. Mae darparwyr eisoes wedi rhoi mesurau ar waith i gefnogi cwsmeriaid yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac rydym wedi galw arnynt (PDF, 152.4 KB) i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i gynnig cymorth i gwsmeriaid a allai fod yn cael trafferth talu eu biliau.

Mae ein canllaw ar fregusrwydd yn nodi’r mesurau y gall darparwyr eu mabwysiadu i helpu i wneud yn siŵr eu bod yn trin pobl agored i niwed yn deg a’u bod yn darparu’r cymorth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Dyma enghreifftiau o sut gallant wneud hyn:

  • defnyddio amrywiaeth o sianeli cyfathrebu wrth gysylltu â chwsmeriaid am eu dyled cyn cymryd unrhyw gamau dilynol, gan gynnwys gorfodi neu adennill dyledion;
  • rhoi amser i gwsmeriaid gael cymorth, cefnogaeth a chyngor ar sut mae rheoli eu dyledion heb fygwth camau gorfodi neu ddatgysylltu yn ystod yr un cyfnod;
  • ystyried cynnig gwyliau taliadau neu ohirio taliadau; rhewi ffioedd ychwanegol os yw cwsmeriaid yn wynebu dyledion problemus, yn enwedig pan maent yn ceisio cymorth a chyngor ynghylch eu dyledion;
  • cynnig cyngor ar dariffau, boed hynny ar gyfer newid i dariff rhatach neu dariff cymdeithasol;
  • trafod a chytuno ar gynllun talu realistig a rhesymol sy’n hyblyg ac yn ad-daladwy dros gyfnod o amser – dylai hyn fod yn seiliedig ar allu’r cwsmer i dalu a dylai darparwyr helpu’r cwsmer i ddeall unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig; ac
  • atal cwsmeriaid rhag cael eu datgysylltu, a thrin datgysylltu fel dewis olaf yn unig.

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fe wnaethom ofyn i ddarparwyr fynd yr ail filltir mewn rhai meysydd drwy gynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid.  Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:

  • ymgysylltu’n rhagweithiol â defnyddwyr sy’n cael trafferth talu eu biliau;
  • pan fydd cwsmer yn mynd ati i ymgysylltu â darparwr ac yn gofyn am gymorth, ni ddylai’r darparwr osod unrhyw gyfyngiadau gwasanaeth a dylai hepgor unrhyw daliadau cosb am dalu’n hwyr neu dâl terfynu’n gynnar.
  • pan fydd cwsmer yn mynd ati i ymgysylltu â darparwr ac yn gofyn am gymorth, dylai’r darparwr hefyd gyfyngu ar weithgarwch casglu dyledion a dileu’r bygythiad o ddatgysylltu; a
  • dim ond ar ôl rhoi digon o amser i gwsmeriaid gael cymorth y dylai darparwyr ddechrau gweithgareddau casglu dyledion, a dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y dylent ddatgysylltu defnyddwyr ac ar ôl cyfnod digonol o amser. Fe wnaethom awgrymu y gallai cyfnod digonol o amser fod, er enghraifft, ar ôl cyfnod o dri mis.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ysgrifennu at ddarparwyr yn gofyn iddynt edrych unwaith eto ar y cymorth sydd ar gael iddynt yn erbyn ein canllaw ar fregusrwydd a’r mesurau ychwanegol sydd wedi’u nodi uchod. Credwn y bydd yr holl fesurau hyn yn helpu i sicrhau bod defnyddwyr a allai fod yn agored i niwed yn cael eu trin yn deg yn ystod y cyfnod clo a’r cyfyngiadau diweddaraf hyn.

Fodd bynnag, hoffem eich atgoffa hefyd y dylech gysylltu â’ch darparwr cyn gynted â phosib os ydych chi eisoes mewn trafferthion ariannol neu os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n cael trafferth talu eich biliau. Gall eich darparwr drafod yr opsiynau sydd ganddynt ar waith i’ch helpu i reoli eich sefyllfa.

Mae rhai darparwyr band eang – fel BT, KCOM, Virgin Media a Hyperoptic – yn cynnig tariffau rhatach i helpu cwsmeriaid sydd ar incwm isel.

CynnyrchPrisCyflymderDataCymhwystra

BT Basic + Broadband

£10.07 y mis

10 Mdid yr eiliad

Diderfyn

Prawf modd budd-daliadau (dim enillion)

Virgin Media Essential Broadband

£15 y mis

15 Mdid yr eiliad

Diderfyn

Credyd Cynhwysol

KCOM Lightstream Flex

£20 y mis

30 Mdid yr eiliad

Diderfyn

Prawf modd budd-daliadau (dim enillion)

Hyperoptic Fair Fibre Plan

O £15 y mis

O 50 Mdid yr eiliad

Diderfyn

Prawf modd budd-daliadau penodol

Rydym am i gwmnïau nad ydynt eisoes yn cynnig tariff fforddiadwy wedi'i dargedu i gwsmeriaid ar incwm isel ystyried gwneud hynny. Dylai darparwyr sy'n cynnig pecynnau o'r fath wneud mwy i'w hyrwyddo, er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith cwsmeriaid sy'n debygol o fod yn gymwys.

More information on social tariffs

See which providers offer social tariffs to eligible households who might be struggling to afford their broadband or mobile services.

See also...