4 Chwefror 2021

Ofcom yn dirymu trwydded CGTN i ddarlledu yn y DU

Llundain, 10:15 GMT, 4 Chwefror 2021: Heddiw, mae Ofcom wedi diddymu trwydded CGTN i ddarlledu yn y DU, ar ôl i'w ymchwiliad ddod i'r casgliad bod y drwydded yn cael ei dal yn anghywir gan Star China Media Limited.

Mae China Global Television Network (CGTN) yn sianel newyddion lloeren iaith Saesneg ryngwladol.

Yn y DU, mae deddfau darlledu a basiwyd gan Senedd y DU yn nodi bod yn rhaid i drwyddedau darlledu fod â rheolaeth dros y gwasanaeth trwyddedig - gan gynnwys goruchwyliaeth olygyddol dros y rhaglenni y maent yn eu dangos. At hynny, o dan y deddfau hyn, ni all cyrff gwleidyddol reoli deiliaid trwydded.[1]

Daeth ein hymchwiliad i'r casgliad nad oedd gan Star China Media Limited (SCML), deiliad trwydded y gwasanaeth CGTN, gyfrifoldeb golygyddol dros allbwn CGTN. O'r herwydd, nid yw SCML yn bodloni'r gofyniad cyfreithiol o gael rheolaeth dros y gwasanaeth trwyddedig, ac felly nid yw'n drwyddedai darlledu cyfreithlon.

Yn ogystal, ni fu modd i ni ganiatáu cais am drosglwyddo'r drwydded i endid o'r enw China Global Television Network Corporation (CGTNC). Y rheswm am hyn yw bod gwybodaeth hanfodol ar goll o'r cais, ac oherwydd ein bod o'r farn y byddai CGTNC yn cael ei diarddel rhag dal trwydded, gan ei fod yn cael ei reoli gan gorff a reolir yn y pen draw gan Blaid Gomiwnyddol Tsieina.

Rydym wedi rhoi cryn amser i CGTN gydymffurfio â'r rheolau statudol. Mae'r ymdrechion hynny bellach wedi cyrraedd eu terfyn.

Yn sgil ystyriaeth ofalus, gan roi sylw i’r ffeithiau i gyd a hawl y darlledwr a’r gynulleidfa i ryddid mynegiant, rydym wedi penderfynu ei fod yn briodol i ddiddymu trwydded CGTN i ddarlledu yn y DU.

Rydym yn disgwyl cwblhau trafodion sancsiynau ar wahân yn erbyn CGTN am doriadau didueddrwydd dyladwy, tegwch a phreifatrwydd cyn bo hir.

Ymchwiliad Ofcom

Canfu ein hymchwiliad nad oes gan SCML gyfrifoldeb golygyddol dros ddewis neu lunio amserlen rhaglenni CGTN. Mae'n ddosbarthwr y gwasanaeth CGTN yn y DU, yn hytrach na "darparwr" y gwasanaeth.[2]

At hynny, nid yw'n ymddangos bod yr un o'r cyflogeion sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau CGTN, neu redeg y sianel o ddydd i ddydd, yn cael eu cyflogi gan SCML. Cadarnhaodd CGTNC mai ei Fwrdd Golygyddol Byd-eang hi sy’n gwneud y penderfyniadau terfynol dros ddethol a threfnu rhaglenni ar gyfer y gwasanaeth CGTN ac mai hi sy'n arfer rheolaeth olygyddol.

Cais CGTN am drosglwyddo’r drwydded

Wrth ymateb i'n hymholiadau, cydnabuodd CGTN nad oedd SCML yn rheoli'r sianel ac na ddylai ddal y drwydded mwyach. Ond fe gadarnhaodd ei fwriad i ailstrwythuro i wahanu’r adran CGTN o China Central Television (CCTV) - sy'n cael ei rheoli yn y pen draw gan Blaid Gomiwnyddol Tsieina ac sydd wedi'i diarddel felly rhag dal trwydded ddarlledu yn y DU[3] – ac i wneud cais am drosglwyddo'r drwydded i endid a fyddai yn rheoli'r sianel.

O ystyried bod dirymu trwydded ddarlledu yn ymyriad sylweddol â hawl darlledwr i ryddid mynegiant, roeddem o'r farn ei bod yn briodol caniatáu cyfnod rhesymol o amser i CGTN gyflawni cydymffurfiad.

Cyflwynwyd cais i drosglwyddo'r drwydded i CGTNC ym mis Medi 2020. Fodd bynnag, nid oedd modd i ni ei asesu'n briodol. Roedd gwybodaeth hanfodol ar goll o'r cais, ni ddigwyddodd yr ailstrwythuro yr oedd CGTN wedi nodi y byddai’n digwydd, ac nid yw wedi digwydd o hyd.

Ers hynny, mae CGTN wedi methu ag ymateb dro ar ôl tro i gwestiynau pwysig sy'n angenrheidiol i'n hasesiad o'i gais i drosglwyddo'r drwydded, neu i gynnig unrhyw ddiweddariad ar gynnydd ar yr ailstrwythuro.

Cysylltiadau rhwng CGTNC a CCTV

Ar ôl ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, rydym wedi penderfynu na allwn ganiatáu'r cais i drosglwyddo'r drwydded o SCML i CGTNC.

Mae gohebiaeth gan CGTN a gyflwynwyd yn ystod ein hymchwiliad yn ei gwneud yn glir bod CGTNC yn cael ei reoli gan CCTV, sydd hefyd yn unig gyfranddaliwr CGTNC.

O ystyried bod CGTNC yn cael ei reoli gan CCTV – sydd, fel rhan o China Media Group, wedi’i reoli gan Blaid Gomiwnyddol Tsieina ac felly wedi'i diarddel rhag dal trwydded ddarlledu o dan ddeddfau darlledu'r DU – rydym yn ystyried y byddai CGTNC yn cael ei diarddel rhag dal trwydded.

Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom: "Dangosodd ein hymchwiliad fod y drwydded ar gyfer China Global Television Network wedi’i dal gan endid nad oes ganddo reolaeth olygyddol dros ei raglenni. Ac ni allwn gymeradwyo'r cais i drosglwyddo'r drwydded i China Global Television Network Corporation oherwydd iddi gael ei rheoli yn y pen draw gan Blaid Gomiwnyddol Tsieina, rhywbeth nad yw'n cael ei ganiatáu o dan ddeddfau darlledu'r DU.

"Rydym wedi darparu nifer o gyfleoedd i CGTN gyflawni cydymffurfiad, ond nid yw wedi gwneud hynny. Rydym bellach o'r farn ei bod yn briodol dirymu trwydded CGTN i darlledu yn y DU."

Achosion eraill yn ymwneud â CGTN

Canfûm yn 2020 fod CGTN yn groes i God Darlledu Ofcom am fethu â chynnal didueddrwydd dyladwy yn ei hymdriniaeth o’r protestiadau yn Hong Kong, a nodwyd toriad difrifol o’n rheolau tegwch a phreifatrwydd hefyd.[4]

Oherwydd difrifoldeb y toriadau hyn, dywedom wrth CGTN y byddem yn ystyried gosod sancsiynau. Nid yw’r penderfyniad heddiw yn effeithio ar y trafodion sancsiynau hyn yn erbyn CGTN, ac rydym yn disgwyl cyrraedd ein penderfyniadau cyn bo hir.[5]

Mae tri ymchwiliad tegwch a phreifatrwydd arall sy’n parhau i fynd rhagddo ynglŷn â chynnwys ar y gwasanaeth CGTN, hyd nes y rhoddir ystyriaeth bellach iddynt.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae Deddf Darlledu 1990 yn gwahardd (ymysg personau eraill sydd wedi’u diarddel) cyrff y mai eu hamcanion yn gyfan gwbl neu'n bennaf o natur wleidyddol, neu'r rhai a reolir gan y cyfryw gyrff, rhag dal trwyddedau darlledu.
  2. Mae gan SCML gontract gyda CCTV i ail-ddarlledu cynnwys a ddarperir iddo gan CCTV/CGTNC.
  3. Mae CCTV yn gorff y mae ei wrthrychau'n gyfan gwbl neu'n bennaf o natur wleidyddol a/neu'n cael ei reoli gan gorff y mae ei wrthrychau'n gyfan gwbl neu'n bennaf o natur wleidyddol o ganlyniad i'w berthynas â Phlaid Gomiwnyddol Tsieina (h.y. corff gwleidyddol) drwy China Media Group.
  4. https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0031/195781/The-World-Today-and-China-24,-CGTN.pdf https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0033/197754/Complaint-by-Mr-Peter-Humphrey-about-China-24-and-News-Hour,-CCTV-News,-27-August-2013-and-14-July-2014.pdf
  5. O dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, gall Ofcom barhau â thrafodion sancsiwn yn erbyn darlledwr am dorri amodau a ddigwyddodd wrth iddynt ddal trwydded ddarlledu, hyd yn oed os byddant yn rhoi'r gorau i ddal trwydded yn ddiweddarach.

Related content