Galwadau twyll gan bobl sy’n esgus mai Ofcom sydd yno


Mae pobl wedi rhoi gwybod i Ofcom eu bod wedi cael galwadau ffôn neu negeseuon gan bobl sy’n honni mai Ofcom sydd yno.

Galwadau twyll yw'r rhain ac nid Ofcom sy’n gyfrifol amdanynt.

Rydym wedi cael gwybod am ddwy fath o alwad sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd.

Galwad gan asiant mewn canolfan alwadau yw'r cyntaf. Mae’n dweud wrth bobl bod bil neu daliad heb ei dalu ar gyfer eu gwasanaeth ffôn neu fand eang, ac y bydd eu gwasanaeth yn cael ei ddatgysylltu os na fyddant yn talu.

Wedyn, caiff derbynnydd yr alwad ei annog i roi ei fanylion banc er mwyn datrys y broblem.

Mae'n ymddangos mai ymgais anghyfreithlon i dwyllo pobl i ddatgelu eu manylion banc yw hon. Dydy hyn ddim i'w wneud ag Ofcom o gwbl – fydden ni fyth yn eich ffonio chi ar hap fel hyn, nac yn gofyn am eich manylion banc ar unrhyw amod.

Galwad awtomatig yw’r ail, sydd hefyd yn gallu cael ei gadael fel neges post llais. Yn y ddau achos, dywedir wrth y derbynnydd bod problem gyda’i wasanaeth ffôn neu fand eang, ac mae’n cael ei annog i bwyso rhif ar ei fysellbad er mwyn trafod y mater yn fanylach.

Fodd bynnag, mae hyn yn cysylltu’r derbynnydd â rhif premiwm drud iawn, sy’n olygu bod rhaid iddo dalu costau uchel am hyd yr alwad.

Eto, ni fyddai Ofcom yn gwneud hyn ar unrhyw amod. Mae’r galwadau hyn yn cael eu gwneud â’r bwriad o gynhyrchu refeniw i dwyllwyr drwy annog pobl i ffonio llinellau ffôn cyfradd premiwm.

Y galwadau hyn yw’r fersiwn diweddaraf o dwyll sydd wedi bod o gwmpas ers cryn amser. Gall twyllwyr esgus eu bod yn ffonio o amryw o sefydliadau gwahanol er mwyn darbwyllo derbynnydd yr alwad i roi manylion personol iddynt neu eu ffonio’n ôl. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi bod yn ymwybodol o alwadau sy’n honni eu bod gan CThEM, y Post Brenhinol, BT neu fanciau'r stryd fawr.

Os byddwch chi’n cael galwad fel hyn gan rywun sy’n honni mai Ofcom sydd yno, peidiwch â datgelu unrhyw fanylion personol na phwyso botwm er mwyn parhau â’r alwad.

Yn hytrach, dewch â’r alwad i ben a rhoi gwybod i Action Fraud am yr alwad, gan nodi’r rhif a wnaeth eich ffonio.

Mae gan Ofcom wybodaeth a allai’ch helpu chi hefyd. Edrychwch ar ein canllaw ar gyfer delio â negeseuon a galwadau niwsans, a sgamiau ‘methu galwadau’.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?