23 Gorffennaf 2020

Cais am dystiolaeth am dechnolegau yfory

Rydyn ni eisiau clywed eich safbwyntiau am y technolegau newydd a allai siapio sut bydd y diwydiant cyfathrebu’n edrych yn y dyfodol.

Boed yn ddyfeisiau arloesol, mynediad ehangach at gysylltiadau cyflymach neu wasanaethau newydd sbon - mae datblygiadau mewn technoleg yn newid sut mae pobl yn gweithio, yn cymdeithasu ac yn cael eu diddanu o hyd. Ac er bod gan dechnoleg newydd fuddion clir, gall fod yn anodd rhagweld sut bydd rhain yn effeithio pobl a busnesau.

Felly, rydym yn gofyn am safbwyntiau gan bobl o’r diwydiant cyfathrebu, y byd academaidd a thu hwnt am y technolegau datblygol a allai gael effaith fawr ar sut rydym yn defnyddio dulliau cyfathrebu yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym yn awyddus iawn i glywed mwy am dechnolegau sy’n darparu gwasanaethau newydd; lleihau costau a lleihau’r rhwystrau i ddarparwyr sy’n dod i’r farchnad. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed tystiolaeth am dechnolegau sy’n lleihau effaith amgylcheddol y gwasanaethau cyfathrebu a gwella eu diogelwch.

Rydym yn croesawu ymatebion erbyn 3 Medi 2020, a byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r dystiolaeth a dderbyniwyd a’r camau nesaf rydym yn bwriadu eu cymryd.

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

See also...