13 Mawrth 2020

Ofcom yn gosod y rheolau terfynol ar gyfer arwerthiant tonnau awyr symudol

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi sut y byddwn yn rhyddhau tonnau awyr pwysig i helpu i wella band eang symudol a chefnogi'r broses o gyflwyno 5G.

Ofcom sy'n rheoli tonnau awyr – neu sbectrwm – y DU, sef adnodd y mae pen draw iddo sy'n hanfodol ar gyfer gwasanaethau di-wifr, gan gynnwys ffonau symudol.

I helpu i wella gwasanaethau symudol a sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael gafael ar rwydweithiau 5G, byddwn yn rhyddhau rhagor o donnau awyr symudol mewn arwerthiant.

Bydd y cwmnïau tonnau awyr yn bidio am

Yn yr arwerthiant, bydd cwmnïau yn cynnig prisiau am sbectrwm mewn dau fand amledd gwahanol.

  • Y band 700 MHz. Mae’r tonnau awyr hyn yn ddelfrydol ar gyfer darparu signal symudol o ansawdd da, dan do ac ar draws ardaloedd eang iawn, gan gynnwys yng nghefn gwlad. Bydd rhyddhau'r tonnau awyr hyn hefyd yn rhoi hwb i gapasiti rhwydweithiau symudol heddiw – gan gynnig gwasanaeth mwy dibynadwy i gwsmeriaid.
  • Y band 3.6-3.8 GHz. Mae'r tonnau awyr hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer 5G ac yn gallu cludo nifer o gysylltiadau data mewn ardaloedd poblog dwys.

Sut bydd yr arwerthiant yn gweithio

Yn debyg i’n harwerthiant sbectrwm yn 2018, bydd dau gam yn arwerthiant eleni. Fel hyn bydd yn gweithio:

  • Prif gam. Bydd cwmnïau yn cynnig prisiau am donnau awyr mewn sawl ‘lot’ ar wahân yn gyntaf, er mwyn pennu faint o sbectrwm fydd pob cwmni yn ei ennill.
  • Cam neilltuo. Ceir wedyn rownd o gynigion i bennu’r amleddau penodol fydd yn cael eu neilltuo i'r cynigwyr llwyddiannus.

Cefnogi cystadleuaeth yn y farchnad symudol

Mae gan Ofcom ddyletswydd i sicrhau bod sbectrwm yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon. Rydym hefyd yn sicrhau bod cwmnïau’n gallu cystadlu'n deg a bod gan gwsmeriaid ddewis cryf o rwydweithiau symudol. Er mwyn helpu i gynnal cystadleuaeth gref ym marchnad symudol y DU, byddwn yn gosod cap o 37% ar gyfanswm y sbectrwm y gall un cwmni fod yn berchen arno ar ôl yr arwerthiant.

Gwella darpariaeth symudol

Ar 9 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod wedi dod i gytundeb gyda’r pedwar cwmni rhwydweithiau symudol - BT/EE, O2, Three a Vodafone – i sefydlu Rhwydwaith Gwledig a Rennir er mwyn gwella darpariaeth symudol ar draws y DU. Mae hyn yn golygu y bydd pob cwmni’n ymrwymo i ddarparu darpariaeth 4G o ansawdd da i o leiaf 90% o’r DU dros chwe blynedd.

Wrth i gwmnïau symudol gydweithio, gyda chefnogaeth cyllid gan y Llywodraeth, bydd y cytundeb yn cyflawni darpariaeth well nag y gallai Ofcom fod wedi'i fynnu o dan ein pwerau, ac felly ni fyddwn yn cynnwys dyletswyddau darpariaeth yn ein harwerthiant.

Mae’r galw am allu mynd ar-lein wrth symud ar gynnydd, gyda chwsmeriaid symudol yn defnyddio bron i 40% yn fwy o ddata o un flwyddyn i'r llall. Felly bydd rhyddhau’r tonnau awyr hyn yn rhoi hwb mawr ei angen i gapasiti - gan helpu cwsmeriaid ffonau symudol i gael gwasanaeth gwell.

Mae'r galw am allu mynd ar-lein wrth symud ar gynnydd, gyda chwsmeriaid symudol yn defnyddio bron i 40% yn fwy o ddata o un flwyddyn i'r llall. Felly bydd rhyddhau'r tonnau awyr hyn yn rhoi hwb mawr ei angen i gapasiti-gan helpu cwsmeriaid ffonau symudol i gael gwasanaeth gwell.

Rydyn ni hefyd yn rhyddhau rhagor o donnau awyr i helpu i sicrhau lle'r DU fel arweinydd byd yng nghyswllt 5G"

Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grwp Sbectrwm, Ofcom

Beth yw sbectrwm?

Allwch chi ddim gweld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar unrhyw ddyfais sy’n cyfathrebu’n ddiwifr - fel setiau teledu i allweddi ceir, monitorau babis, meicroffonau diwifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Pam mae Ofcom yn rheoli defnydd sbectrwm?

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol. Er enghraifft, mae cwmnïau ffonau symudol yn defnyddio gwahanol rannau o’r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly mae angen ei reoli i sicrhau nad oes ymyrraeth ar wasanaethau ac nad oes amharu ar bobl ac ar fusnesau.

See also...